Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Nadolig y Gath yn Sain Ffagan

Nadolig y Gath yn Sain Ffagan

Regular price £6.45 GBP
Regular price Sale price £6.45 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cath y felin yn Sain Ffagan yw Sibrwd. Fel arfer mae'r pentref yn llawn pobl a phlant ac yn llawn crefftwyr a gweithwyr – ac mae'n le difyr i gath fyw. Ond dyma hanes Nadolig cyntaf Sibrwd yn Sain Ffagan – y diwrnod pan fydd y maes parcio yn wag a'r pentref yn dawel.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Sibrwd is the mill cat at St Fagan's Museum. Usually, the village is full of people and children, craftspeople and workers - making it an interesting place. This is the story of Sibrwd's first Christmas at St Fagan - the day when the car park is empty and the village is quiet.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845279257
Gwales Code
gwales.com.9781845279257
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Nadolig y Gath yn Sain Ffagan
Awdur / Author
Dafydd, Myrddin ap
Current Price ex VAT
£6.45
Current Price inc VAT
£6.45
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-07-01
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Darlunydd / Illustrator
Manon, Elin
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
48 pages
Size
210 × 210 mm; depth 8 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Elin Manon Cooper yn ddarlunydd llawrydd wedi'i lleoli rhwng ei dau gartref yng Nghaerdydd ac Aberfal yng Nghernyw, gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Darlunio o Brifysgol Aberfal. Mae ei gwaith yn aml yn cael ei ysbrydoli gan fyd natur, tirweddau, straeon gwerin a thraddodiadau gwerin, yn enwedig o Gymru a Chernyw. Wedi'i dylanwadu gan ei blynyddoedd ffurfiannol a'r llyfrau ddarllenodd fel plentyn, mae angerdd am adrodd straeon wedi bod yn ysgogiad cyson yn ei gwaith. Trwy bŵer y dychymyg a delweddau, mae hi'n anelu at ddod ag ymdeimlad o hud i'r bywyd beunyddiol, mewn cymdeithas lle mae pobl aml yn canolbwyntio ar y byd modern a’r materol. Mae gwaith diweddara Elin yn cynnwys cyfrol hardd Dros y Môr a’r Mynyddoedd – Chwedlau Merched Dewr y Celtiaid ac amryw o brosiectau, megis y Google Doodle i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2021, darluniadau ar gyfer The Maverick Guide to Cornwall, a gwaith logo ymysg eraill.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Eto, mae gan gath lygaid craff. Mae'n clywed pob smicyn. Mae ganddi naw bywyd. Mae'r pentref yn dod yn fyw i Sibrwd wrth iddi grwydro o adeilad i adeilad ar ddydd Nadolig. Mae'r Nadolig ei hun yn llawn profiadau hen a newydd iddi hefyd. Drwy daith y gath cawn ailbrofi atyniadau a rhyfeddodau’r Amgueddfa Werin a hefyd blasu dathliadau’r Nadoligau a fu yng ngwahanol gyfnodau hanes Cymru. Cyfrol fydd yn cyd-fynd â dathliadau’r Amgueddfa Werin yn 75 oed.

View full details