Cyngor Llyfrau Cymru
Munud yn dy Gwmni: Casgliad o Weddïau a Myfyrdodau
Munud yn dy Gwmni: Casgliad o Weddïau a Myfyrdodau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol o weddïau amrywiol gan y Parchedig Owain Llyr Evans, yn cynnwys gweddïau i gynulleidfaoedd ynghyd â gweddïau ar gyfer defosiwn personol a grwpiau bychain.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A volume of diverse prayers by Reverend Owain Llyr Evans, comprising prayers for congregations, personal devotion and small groups.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781859948682
- Gwales Code
- gwales.com.9781859948682
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Munud yn dy Gwmni: Casgliad o Weddïau a Myfyrdodau
- Awdur / Author
- Evans, Owain Llyr
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-08-16
- Cyhoeddwr / Publisher
- Cyhoeddiadau'r Gair
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 84 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Os yw arweinwyr gwledydd yn medru bygwth rhyfel mewn llai na 140 llythyren ar Trydar, pam na all siarad â Duw fod yr un mor gryno? Nid fod y gweddïau yn Munud Yn Dy Gwmni cweit mor fyr â hynny (tua maint tudalen A5 yn bennaf), ac mae modd eu hymestyn. Yn ôl yr awdur, gellir eu 'plannu fel hadau' i weddi, myfyrdod neu drafodaeth ehangach. Mewn oes ddigidol, a chymaint ohonom yn gaeth i lanw bylchau ein prysurwch trwy gyfrwng iPhone neu iPad, mae munudau gwag yn bethau prin. Dyma weddïau a luniwyd ar gyfer y fath funudau. 'Mewn distawrwydd, agorwch eich meddwl a’ch calon i Dduw,' yw’r gwahoddiad. Mae ystod patrymau a themâu’r cynnwys, fel gorwelion ysbrydol Owain Llŷr Evans, yn rhai eang iawn. Ceir yma weddïau sy’n addas ar gyfer myfyrdod personol yn ogystal â rhai sy’n galw am ymateb llafar gan gynulleidfa. Mae’r mwyafrif o’r gweddïau yn crogi ar fachyn adnod neu thema ysgrythurol. Mewn oes gynyddol ôl-Gristnogol, aeth cyfeiriadau Beiblaidd yn fwyfwy dieithr, ac ymdrecha’r awdur i addysgu, esbonio a pherthnasu ein cyflwr ni â chyflwr pobl mewn oesoedd cyntefig trwy’r fath gyfeiriadau. Mae’n cyflwyno themâu cyfoes mewn iaith bob dydd, yn rhydd o’r jargon crefyddol sy’n gymaint o turn-off i bobl heddiw, fel sy’n cael ei gydnabod yn y geiriau: 'Gall crefydd grebachu ffydd, gyfyngu gobaith a chrino cariad.” (Dyffryn). Ceir syniadau a chyffyrddiadau llenyddol trawiadol hefyd: “Ffurfiwyd calon Crist yng nghorff Mair ... llifodd ei waed yntau trwy’r gwythiennau a thrwy falfiau ei chalon.' (Gwaed). “Canu wna’r baban yn ei grud ddireol gerddoriaeth y newydd anedig.' (Canu). Aeth yr arfer o weddïo yn beth prin, ond pan ddaw argyfwng mawr i fywydau pobol, mewn poen, gofid ac ofn, mae llawer yn dal i droi at weddi ar ôl i bopeth arall fethu. Ceir gweddïau yma ar gyfer bron pob achlysur o’r fath, a daw geiriau nifer o’n cyfoedion i ganol y myfyrdodau: 'Making peace, I have found, is much harder than making war.'– Gerry Adams (Cymod). Cyfres o ddyfyniadau gan bobl enwog, gyda geiriau Iesu ar y groes fel ymateb cynulleidfaol iddynt, yw’r weddi fwyaf gwreiddiol. Dyfyniad gan y colofnydd Katie Hopkins yw’r un olaf: 'Show me bodies floating in water, play violins and show me skinny people looking sad. I still don’t care. O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.' (Maddau Iddynt.) Dyma gyfrol ddefnyddiol a heriol i Gristnogion, ac i anffyddwyr mae'n cynnig cipolwg gwerthfawr ar feddwl a gwerthoedd credinwyr eangfrydig cyfoes.
Share
