Cyngor Llyfrau Cymru
Min y Môr
Min y Môr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'n ddiwedd haf mewn pentref glan môr, a phob dim yn ddigon tebyg i'r arfer ym mywyd Ruth - fisitors Min y Môr yn prinhau, y mab yn bymtheg oed oriog, a Cled yn dal y gannwyll iddi o hyd, er gwaetha'i pherthynas â Steve y syrffiwr. Pob dim yn debyg i'r arfer ... nes daw nodyn dienw drwy ddrws Min y Môr, a chysgod o orffennol Ruth yn bygwth chwalu'r cyfan.
Disgrifiad Saesneg / English Description
It's the end of summer in a seaside village, and everything seems to be as usual in Ruth's life - visitors to Min y Môr are ebbing away, her fifteen-year-old son is still moody, Cled still fancies her despite her relationship with Steve the surfer. Everything seems the same ... until a note lands on the doorstep of Min y Môr, and shadows from Ruth's past threaten to shatter everything.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780860742791
- Gwales Code
- gwales.com.9780860742791
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Min y Môr
- Awdur / Author
- Lewis, Mared
- Current Price ex VAT
- £8.95
- Current Price inc VAT
- £8.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2012-03-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gwynedd
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 238 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Awdur a dramodydd, yn wreiddiol o Falltraeth ym Môn ac yn dal i fyw ar yr ynys efo’i gŵr a’i meibion, yw Mared Lewis. Hon yw ei thrydedd nofel. Cyrhaeddodd 'Y Maison du Soleil' restr hir Llyfr y Flwyddyn 2009.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae tensiwn rhwng cymeriadau, gyda’r gorffennol yn dod yn ôl i effeithio arnyn nhw, yn elfennau sydd wedi profi’n llwyddiannus mewn nofelau ar hyd y blynyddoedd, a dyna welwyd yng nghyfrol lwyddiannus ddiwethaf Mared Lewis, y Maison de Soleil . Mae’n dilyn yr un trywydd gyda Min y Môr , sydd wedi’i gosod ym mhentref Rhosneigr ar Ynys Môn. Hanes Ruth, mam sengl sy’n cadw busnes gwely a brecwast a geir yn y nofel. Mae hi a’i mab Math yn mynd drwy gyfnod sy’n gyfarwydd i bob rhiant – yr arddegau anodd, ac yntau’n cilio oddi wrthi. Mae hen ffrind plentyndod i Ruth, Cled, sy'n gweithio fel handyman i ymwelwyr a mewnfudwyr yn y pentref, yn ei helpu cryn dipyn, ac yn amlwg yn dymuno eu gweld yn closio, ond mae Ruth wedi dechrau perthynas gyda Steve, syrffiwr sy’n un o’r criw o ddysgwyr Cymraeg mae hi’n ymarfer siarad Cymraeg â nhw bob wythnos. Mae’r stori’n digwydd tua diwedd y tymor gwyliau, sy’n ddigon tebyg i unrhyw flwyddyn arall, nes daw nodyn dienw drwy’r drws, gan agor llif o atgofion a chodi llond pen o bryderon. Canlyniadau’r nodyn a chymhellion y sawl a’i hanfonodd sy’n ffurfio gweddill y nofel. Wrth i’r stori ddatblygu, mae’r tensiwn yn cynyddu, nes ei fod bron yn felodramatig erbyn y diwedd, ond mae'r ffordd y datgelir yr hanes bob yn dipyn yn ddeheuig iawn. Wrth i un gyfrinach ddod i’r golwg, caiff cwestiwn arall ei ofyn, ac mae’n anodd gwybod pwy all Ruth ymddiried ynddo. Mae Ruth ei hun yn hollol gredadwy ac yn rhywun gall y darllenydd uniaethu â hi – yn llawn cymhlethdodau a wrthgyferbyniadau, ac mae’r prif gymeriadau eraill yn taro deuddeg hefyd. Mae’n amlwg fod Mared Lewis yn gyfarwydd â bechgyn yn eu harddegau yn y ffordd mae’n disgrifio’r boen wrth i’r cwlwm tyn sy’n bodoli rhwng mam a’i mab orfod llacio. Mae Cled yntau’n gymeriad crwn, sy’n bur siomedig â’i ran – ni chyflawnodd lawer yn ei fywyd, ac mae’n gorfod cowtowio i fisitors er mwyn dal dau ben llinyn ynghyd. A daw hynny at elfen ddifyrraf a mwyaf llwyddiannus y gwaith, sef y portread o bentref glan môr lle mae llawer o’r boblogaeth yn ddibynnol ar dwristiaeth. Mae’r darlun o Rosneigr yn codi cwestiynau sy’n berthnasol i bentrefi gwyliau ar hyd a lled Cymru. Gan fod y lle mor hardd a deniadol, mae pobl wedi bod yn dod yno ers dros ganrif, ac mae elfen Saesnig gref wedi meddiannu llawer o'r pentref. Mae pobl fel Ruth, sydd â hanes o ymgyrchu’n galed dros y Gymraeg, yn gorfod cyfaddawdu a bod yn gwrtais a chyfeillgar gyda nhw i wneud bywoliaeth. Mae Mared Lewis yn ysgrifennu’n gynnil a darllenadwy, ac mae’r nofel yn frith o ymadroddion ffwrdd â hi sydd yn adrodd cyfrolau, fel y ‘llenni-tena-neith-tro-i-dy-haf' sydd mewn cymaint o ffenestri. Mae teitl y gyfrol yn amwys hefyd – Min y Môr yw'r enw ar dŷ Ruth, sydd ar lan y môr, ond mae ystyr arall min – llafn neu wayw, hefyd ymhlyg yn yr enw. Nofel dda iawn i’w darllen dros yr haf – digon i'ch cydio, ond ddim yn rhy drwm.
Share
