Cyngor Llyfrau Cymru
Milwr Coll, Y
Milwr Coll, Y
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Pan mae ei frawd ieuengaf yn listio yn y Rhyfel Mawr, mae Owen Humphreys yn teimlo bod rhaid iddo yntau listio hefyd, gan adael ei deulu a'i gariad beichiog ar ôl. Rai misoedd wedyn daw'r newyddion bod Owen a'i frawd wedi'u lladd. Ond beth sy'n digwydd pan ddychwela Owen i'w gartref ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty, a pha gyfrinachau fydd yn cael eu datgelu...
Disgrifiad Saesneg / English Description
When his younger brother enlists in the Great War, Owen Humphreys feels duty-bound to enlist as well, leaving his family and his pregnant fiance behind. Months later, news arrives that both Owen and his brother have been killed. But what happens when Owen returns to his family home after being released from hospital, and what secrets will be revealed...
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785622854
- Gwales Code
- gwales.com.9781785622854
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Milwr Coll, Y
- Awdur / Author
- Hughes, Sion
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-10-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Drama nos Sul o nofel yw Y Milwr Coll gan Sion Hughes, sy’n gyfuniad o nofel ddirgelwch a nofel hanesyddol fyrlymus a darllenadwy. Hon yw ei drydedd nofel, wedi'i gosod rhwng 1915 ac 1938, ac o’r dechrau’n deg, mae’r awdur yn llwyddo i gyfleu naws y cyfnod hwn i’r dim. Mae’r nofel yn dechrau ar sgwâr Llangefni yn 1918, a thrwy ddisgrifiadau byw yr awdur hawdd yw dychmygu ein bod yno, ar y sgwâr, yn sefyll gyfysgwydd â hogia Cefni ac yn gwrando’n astud ar rethreg beryglus y pregethwr John Williams Brynsiencyn, sy’n chwilio am ‘arwyr’ i ymladd yn y Rhyfel Mawr. Er gwaethaf ymdrechion yr heddychwr, y Parchedig John Puleston, mae John Williams yn llwyddo i hudo cant o fechgyn i’w rwyd, gan gynnwys Ifan ac Owen Humphreys, meibion Llys Madryn. Yn ôl yr awdur, atgof ei daid o fod yn sefyll yn sgwâr Llangefni ar ddiwrnod marchnad, yn gwrando ar John Williams Brynsiencyn yn pregethu am y rhyfel, a ysbrydolodd yr olygfa hon. Yn sicr, mae ôl ymchwil manwl ar y nofel ac mae’n anodd gwybod weithiau lle mae’r ffin rhwng ffaith a ffuglen ynddi. Ynghyd â chameos o bregethwyr adnabyddus, cawn hefyd rai diddorol o ffigyrau gwleidyddol mawr y cyfnod megis David Lloyd George a’i ferch, Megan Lloyd George, a Constance Markievicz, gwleidydd a swffrajét o Iwerddon a’r fenyw gyntaf i gael ei hethol i Dŷ’r Cyffredin. Er ein bod yn dilyn Owen Humphreys o Langefni i faes y gad ac yn gweld yr erchyllterau drwy ei lygaid ef, nid nofel am ryfel yn unig mo hon. Mewn môr o gyfrolau am y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Y Milwr Coll yn fwy na dehongliad un awdur o brofiad milwr. Fel y nodais ar ddechrau’r adolygiad hwn, mae hi’n darllen yn rhwydd fel drama nos Sul. Ynghyd â thristwch a thrasiedi, ceir ynddi garwriaeth gyfrin, tensiynau teuluol a stori dditectif ddifyr sydd, fel pob drama nos Sul dda, yn eich gadael yn awchu am ail gyfres.
Share
