Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Math@ebol: Datrys Problemau 1

Math@ebol: Datrys Problemau 1

Regular price £19.95 GBP
Regular price Sale price £19.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Addasiad Cymraeg o gyfrol ddarluniadol werthfawr i gynorthwyo plant i gymhwyso eu sgiliau mathemategol, yn cynnwys unedau ar lunio diagramau a thablau, chwarae rôl a defnyddio offer, dyfalu a gwirio, creu rhestrau a chwilio am batrwm, gydag ymarferion defnyddiol, cardiau tasg bywiog, nodiadau athrawon ac atebion; i ddisgyblion Blynyddoedd 4-5.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A Welsh adaptation of a valuable illustrated volume to assist children to apply their mathematical skills, comprising units on creating diagrams and tables, role play and using apparatus, working out and checking, creating lists and looking for a pattern, with useful exercises, lively task cards, teacher's notes and answers; for Year 4-5 pupils.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780954757861
Gwales Code
gwales.com.9780954757861
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Math@ebol: Datrys Problemau 1
Awdur / Author
Shapiro, Sharon
Current Price ex VAT
£19.95
Current Price inc VAT
£19.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-02-20
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Editor
Bateman, Robin; Jones, Glyn Saunders
Translator
Jones, Gwyneth
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
88 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Mathemateg - Cynradd (yn Gymraeg) | EN: Mathematics - Primary (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn fy marn i - gan Siân Richards, Ysgol Gynradd Gymraeg y Login Fach, Abertawe Sut y defnyddiwyd y llyfr Defnyddiwyd y llyfr hwn i gyflwyno strategaethau a dulliau mwy effeithiol o ddatrys problemau ac i gynnig ymarfer gwahaniaethol wrth ddefnyddio’r strategaethau hyn. Mae pob adran o’r llyfr yn cynnwys 5 neu 6 cherdyn tasgau y gellir eu llungopïo. Cyflwynwyd y cardiau hyn mewn sawl ffordd; i ddosbarth cyfan, i grwpiau o fewn y dosbarth, neu i ddisgyblion oedd yn gweithio mewn parau. Gan fod y tasgau wedi eu gosod ar dair lefel wahanol, roedd hi’n bosibl trefnu bod pob plentyn yn gweithio ar lefel addas fel nad oedd neb yn cael ei adael allan. Hwyl wrth weithio Roedd y plant yn mwynhau gwneud y cardiau tasg mewn parau ac mewn grwpiau. Roeddynt yn ymwybodol eu bod yn dysgu sgiliau gwahanol wrth iddynt weithio drwy’r cardiau. Dyma fodd i’r disgyblion gael hwyl wrth iddynt wneud eu mathemateg. Adnodd gwerthfawr iawn Mae hwn yn llyfr diddorol a chynhwysfawr ar sgiliau a strategaethau ar gyfer datrys problemau ymarferol. Mae’n llyfr sy’n rhwydd i’w ddefnyddio ac mae’r adran sy’n esbonio sut mae defnyddio strategaeth arbennig yn un hynod o werthfawr. Hyfryd oedd cael y tasgau ar dair lefel wahaniaethol - roedd hyn yn fuddiol iawn yn fy nosbarth i. Mae’r llyfr hwn yn adnodd gwerthfawr iawn er mwyn hybu gallu disgyblion Blwyddyn 4 i ddatrys problemau mathemategol. Ei gryfderau a’i wendidau Cryfderau’r llyfr hwn yw ei fod yn rhwydd i’w ddefnyddio. Mae’r tasgau wedi eu gwahaniaethu’n effeithiol. Mae’n fwrlwm o syniadau da ac mae’n dod â hwyl i Fathemateg. Yr unig wendid a welais i oedd bod yr eirfa yn gallu bod yn anodd i ambell aelod llai galluog o'r dosbarth.

View full details