Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Mam - Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau — Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau

Mam - Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau — Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o gerddi hen a newydd sy'n dathlu rôl y fam: yn gerddi gan feirdd sy'n famau eu hunain ac yn gerddi llawn atgofion am famau o bob oed. Plethir y cerddi ynghyd â darluniadau hynafol a dyluniad hardd sy'n gwneud y gyfrol yn anrheg perffaith ar gyfer Sul y Mamau neu ar gyfer unrhyw fam newydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of old and new poems celebrating the role of mothers through the centuries: comprising poems by mothers and by poets reminiscing about mothers of all ages. The poems interweave with beautiful images making this a perfect gift for Mothering Sunday or for any new mother.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781911584216
Gwales Code
gwales.com.9781911584216
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Mam - Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau — Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau
Sub Title
Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau
Awdur / Author
Barddas, Cyhoeddiadau
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-02-21
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Barddas
Editor
George, Mari
Media Type (EN)
Hardback
Media Type (CY)
Clawr caled
Pages
72 pages
Size
150 × 150 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyfrol glawr caled gain a choeth o gerddi hen a newydd i ddathlu cyfraniad mamau ym mhobman yw hon, wedi ei golygu gan Mari George, a Mari hefyd sydd wedi llunio’r rhagair pwrpasol. Mae’n gyfrol dwt i ryfeddu ac wedi ei dylunio’n syml ond yn chwaethus iawn gydag arlunwaith gan yr amryddawn Valériane Leblond. Er bod y clawr yn disgrifio cynnwys y gyfrol fel ‘Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau’, mae hi hefyd yn cynnwys cerddi gan ambell ddyn yn ogystal â cherddi traddodiadol, anhysbys. A rhaid gwneud sylw am ddyluniad chwaethus y clawr, a’r blodau gwyllt ar siâp calon, ac am y lluniau a’r dyfyniadau sy’n britho’r cynnwys ac yn ychwanegu at apêl y llyfr. Mae’r cynnwys felly’n amrywiol dros ben – o ddoniolwch cerddi fel ‘Wrth Enwi Ein Mab’ gan Gwennan Evans, i drasiedi'r englyn ‘Plentyn yn Angladd ei Fam’ gan Gerallt Lloyd Owen, i brofiadau personol cerdd Elinor Gwynn, ‘Ar y Ffordd i Draeth Poppit’, a thynerwch cyfarwydd soned Elin Meek, ‘Esgidiau’, y soned fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol 2018. Ym mhob un o gerddi’r gyfrol, mae yna ryw dinc o rywbeth y gallwn ni oll uniaethu ag ef, o’n magwraeth gynnar i’n perthynas ni ac eraill gyda’n mamau trwy gydol ein hoes. Ac oes, yn naturiol ddigon mae yna fynegiant o hiraeth a cholled hefyd, a dyhead o dro i dro i gael troi’r cloc yn ôl a bod yn blentyn unwaith eto. Mae’r cerddi traddodiadol a’r hwiangerddi’n sicr o’n hatgoffa o’r cyfnod cysurus o ddiniwed hwnnw yng nghôl mam: Mam bach annwyl, Mam bach fi, Fi bia Mam a Mam bia fi. Cyfrol sy’n llawn emosiwn, ond yn llawn cynhesrwydd a hwyl hefyd. Byddai wedi bod yn hawdd syrthio i fagl sentimentaliaeth wrth roi’r llyfr hwn at ei gilydd, wrth ei ddylunio ac wrth lunio’r rhagair, ond anwyldeb sydd yma’n bennaf, a'r cerddi yn rhai sy’n cyfleu profiadau ac emosiynau oesol. Boed yn rhodd (a chofiwch fod Sul y Mamau ddiwedd y mis!) neu’n gyfrol i hamddena uwch ei phen dro ar ôl tro, heb os, mae yna le i hon ar silff lyfrau pob cartref.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Casgliad o gerddi rhydd a chaeth, rhai'n newydd, rhai'n draddodiadol, rhai'n moli a rhai'n peri hiraeth. Dyma gyfrol hardd sy'n dathlu gwerth unrhyw fam, mam-gu neu nain. Gyda cherddi newydd gan Casia Wiliam, Elinor Gwynn, Rhys Iorwerth, Annes Glynn, Huw Meirion Edwards, Ceri Wyn Jones, Myrddin ap Dafydd a Christine James.

View full details