Cyngor Llyfrau Cymru
Mali a'r Llongddrylliad
Mali a'r Llongddrylliad
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Tra bo Mali allan yn pysgota gyda'i thad, mae'n clywed rhywun yn gweiddi am help. Mae gwraig a'i phlant mewn hen gwch bregus sydd mewn perygl o ddymchwel, ac mae Mali a'i thad yn helpu'r teulu i'r lan ac yn rhoi bwyd a gwely iddyn nhw am y nos. Mae'r dieithriaid yn chwilio am gartref newydd mewn lle diogel, ac mae Mali yn benderfynol o'u helpu. Cyfieithiad Cymraeg.
Disgrifiad Saesneg / English Description
While Mali is out fishing with her father, she hears someone crying for help. A woman and her children in a fragile boat is in danger of capsizing, and Mali and her father help the family to reach land and provide them with food and a bed for the night. The travellers are looking for a new and safe home, and Mali is determined to help them. A Welsh translation.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781914079566
- Gwales Code
- gwales.com.9781914079566
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Mali a'r Llongddrylliad
- Awdur / Author
- Doyle, Malachy
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-11-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Graffeg
- Translator
- Jones, Mary
- Darlunydd / Illustrator
- Mayhew, James
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 36 pages
- Size
- 250 × 250 mm; depth 15 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C014138
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Malachy Doyle wedi cyhoeddi dros gant o lyfrau, o lyfrau sbonc i blant ifanc i nofelau grymus i’r arddegau. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill nifer o wobrau llyfrau pwysig, ac mae ei waith ar gael mewn tua deg ar hugain o ieithoedd. Mae Andrew Whitson yn arlunydd arobryn ac yn frodor o Belfast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dŷ sy’n swatio’n gynnil ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swyn yng nghysgod trwyn cawr.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Heb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy’r darluniau. Mae’r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae’r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai’r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o’r silff lyfrau. Mae hon yn stori am ddau blentyn sy’n mynd i lawr at y traeth ar ôl storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, maen nhw’n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw’r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw’r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae’r plant yn aros ar ddi-hun trwy’r nos, sy’n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i’n tybio y bydd yn plesio’r rhai sy’n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi cân fach i gysuro’r morfil a’i gadw’n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub. Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae’r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae’r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. ‘cyhyd’, ‘aiff’), a allai fod yn anodd neu’n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae’r llinell storïol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae’n siŵr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy’r amser. Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi’n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy’n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tîm ac fel rhan o’r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae’r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda’r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae’r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig â’r stori, wrth i’r lliw a lluniau lenwi’r dudalen gyfan. Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a’r ddealltwriaeth sy’n datblygu heb eiriau rhwng Mali a’r morfil a dw i’n siŵr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref.
Share
