Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Mali a'r Dolffiniaid

Mali a'r Dolffiniaid

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Pysgotwr yw tad Mali, ac mae'n creu cwch bach iddi ac yn ei dysgu sut i'w hwylio. Mewn dim o dro mae Mali a'r cwch allan yn y tonnau, gyda haid o ddolffiniaid yn cadw cwmni iddi. Mae Mali'n helpu un dolffin bach wrth iddo fynd yn sownd mewn rhwyd. Ond pwy fydd yn helpu Mali pan fydd hi mewn trafferth ar y môr?

Disgrifiad Saesneg / English Description

Mali's father is a fisherman, who has created a small boat for her so that she can learn how to sail. Soon, Mali is sailing on the waves in the company of a pod of dolphins. Mali helps a young dolphin who gets caught in a net. But who will help Mali when she gets into difficulty on the sea?

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781802581324
Gwales Code
gwales.com.9781802581324
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Mali a'r Dolffiniaid
Awdur / Author
Doyle, Malachy
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-08-22
Cyhoeddwr / Publisher
Graffeg
Translator
Pierce, Anwen
Darlunydd / Illustrator
Whitson, Andrew
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
36 pages
Size
250 × 250 mm; depth 4 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C014138

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Malachy Doyle wedi cyhoeddi dros gant o lyfrau, o lyfrau sbonc i blant ifanc i nofelau grymus i’r arddegau. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill nifer o wobrau llyfrau pwysig, ac mae ei waith ar gael mewn tua deg ar hugain o ieithoedd. Mae Andrew Whitson yn arlunydd arobryn ac yn frodor o Belffast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dŵ sy’n swatio’n gynnil ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swynedig yng nghysgod trwyn cawr.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Heb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy’r darluniau. Mae’r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae’r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai’r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o’r silff lyfrau. Mae hon yn stori am ddau blentyn sy’n mynd i lawr at y traeth ar ôl storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, maen nhw’n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw’r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw’r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae’r plant yn aros ar ddi-hun trwy’r nos, sy’n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i’n tybio y bydd yn plesio’r rhai sy’n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi cân fach i gysuro’r morfil a’i gadw’n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub. Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae’r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae’r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. ‘cyhyd’, ‘aiff’), a allai fod yn anodd neu’n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae’r llinell storïol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae’n siŵr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy’r amser. Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi’n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy’n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tîm ac fel rhan o’r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae’r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda’r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae’r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig â’r stori, wrth i’r lliw a lluniau lenwi’r dudalen gyfan. Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a’r ddealltwriaeth sy’n datblygu heb eiriau rhwng Mali a’r morfil a dw i’n siŵr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref.

View full details