Cyngor Llyfrau Cymru
Mae'r Lleuad yn Goch
Mae'r Lleuad yn Goch
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2018. Nofel am y Tân yn Llŷn a llosgi Gernika. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o'i llofft wrth i'r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam ei bod wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845276232
- Gwales Code
- gwales.com.9781845276232
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Mae'r Lleuad yn Goch
- Awdur / Author
- Dafydd, Myrddin ap
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2017-06-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 220 pages
- Size
- 130 × 198 mm; depth 2 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C020637
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Wrth iddi ddechrau adrodd y stori i’w hwyres, awn yn ôl i benrhyn Llŷn 1936 a hanes llosgi’r Ysgol Fomio. Awn hefyd ar hyd llwybrau llongwyr Pwllheli i wlad y Basg a’r rhyfel yn erbyn Franco a’r Ffasgwyr. Ysgol Fomio yn Llŷn... bomiau’n disgyn ar ddinas Gernika yng ngwlad y Basg... ffoaduriaid y lladd a’r dinistr yn dod i Gymru... mae un teulu yng nghanol hyn i gyd. Fwy nag unwaith, roedd fflamau’r tanau yn codi mor uchel i awyr y nos nes bod y lleuad yn goch... ... ardderchog iawn o safbwynt prydferthwch yr ysgrifennu, datblygiad y cymeriadau, clyfrwch plethiadau’r plot a’r wybodaeth hanesyddol ... – Helen Angharad Evans, Barn Dyma stori rymus a theimladwy – Y Cymro Gadawodd y gyfrol gryn argraff ar aelodau Panel Beirniaid Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2018, gyda’r ddwy stori’n cydgyffwrdd drwy’r nofel. Dywedodd Llinos Davies, Cadeirydd y Panel Beirniaid: ‘Mae hon yn stori sydd wedi ei saernïo’n gelfydd mewn tair rhan a’r cwbl yn gwau at ei gilydd gan blethu’r digwyddiadau’n grefftus. Mae cyfoesedd yn perthyn i’r nofel yn ogystal â’r elfennau hanesyddol.’ Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor: "Dyma gyfrol sy'n herio plant a phobl ifanc â chyfleoedd darllen amrywiol."
Share
