Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Mae 25% Ohonot yn Fanana / You Are 25% Banana

Mae 25% Ohonot yn Fanana / You Are 25% Banana

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae addasiad Cymraeg gwych Mari George o You are 25% Banana yn llawn ffeithiau difyr ac anhygoel am y modd yr ydym yn perthyn i bopeth byw ar y blaned. Dyma'r eglurhad symlaf erioed i fyd anghyffredin y genynnau a byddwch yn rhyfeddu at yr hyn sy'n eich gwneud chi yn CHI!

Disgrifiad Saesneg / English Description

Discover the science behind what makes you, YOU! A brilliantly funny, first guide to genetics and a perfect STEAM book for budding young scientists. Full of witty words by award-winning author Susie Brooks and stunningly illustrated by rising star Josy Bloggs in a fantastic Welsh adaptation by Mari George.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781849676373
Gwales Code
gwales.com.9781849676373
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Mae 25% Ohonot yn Fanana / You Are 25% Banana
Awdur / Author
Brooks, Susie
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-11-04
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
George, Mari
Darlunydd / Illustrator
Bloggs, Josy
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
245 × 275 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh; English
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Gwyddoniaeth - Byd Natur (yn Gymraeg) | EN: Science - Nature (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Oeddech chi’n gwybod bod gan hedyn blodyn haul fwy o enynnau na siarc mawr gwyn? A pam fod gan fwy o bobl lygaid brown na glas? Cewch yr atebion i gyd yma mewn llyfr gwyddoniaeth â gwahaniaeth, sydd yn dangos i ni yn syml sut yr ydym yn perthyn i bob peth byw ar y blaned. Wrth gymharu’r cod genynnol gyda llyfr ryseitiau, mae Susie Brooks yn cyflwyno syniad cymhleth tu hwnt mewn modd syml a hwyliog. Mae gan bawb a phopeth byw ei lyfr ryseitiau ei hun sydd yn penderfynu a ydy creadur yn cerdded ar bedair coes neu a oes ganddo gynffon. Rydym ni’n rhannu genynnau canu gydag adar a genynnau chwarae gyda tsimpansî! Ac mae tua chwarter y ryseitiau sydd eu hangen i wneud person yr un peth a ryseitiau banana, sef o ble daw teitl y llyfr. Mae’r cydbwysedd rhwng y testun digri (addasiad Mari George) â darluniau hynod Josy Bloggs yn golygu y gellir mynd nôl at y llyfr hwn droeon, gan ganfod rhywbeth newydd bob tro. Ond mae’n biti mai dim ond genynnau sy’n cael trafod yma gan fod yna gyfle i gyflwyno pob math o syniadau gwyddonol i’r rhai ifancaf – syniad, efallai, am gyfres? Roeddwn yn falch gweld cyfieithiad Saesneg ar glawr cefn y llyfr a fydd yn helpu dysgwyr ac aelodau di-Gymraeg o’r teulu i’w fwynhau gyda’u plant – newid braf, yn fy marn i, o’r llyfrau sydd â’r ddwy iaith ar bob tudalen, sy’n gallu bod yn weledol ormod i ddarllenwyr ifanc. Mae’r llyfr yn cael ei anelu at blant dros 5 oed, ac fe fwynhaodd fy nhri plentyn i (4,7 a 9 oed) ei ddarllen, yn enwedig fy mab canol a oedd yn gofyn pob math o gwestiynau bob tro – rhai call a rhai mwy gwirion ... felly os mai ceisio gwneud pynciau STEAM yn hwyl i rai bach yw’r nod gyda’r llyfr deniadol hwn, yna mae wedi llwyddo yn ein tŷ ni!

View full details