Cyngor Llyfrau Cymru
Llyfr Sgrap Macs Sion
Llyfr Sgrap Macs Sion
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma lyfr sgrap boncyrs Macs Sion - llyfr llawn cyfrinachau a breuddwydion... rhestrau a phranciau... dŵdls a jôcs... snot a phw! Cawn fynd ar daith gydag ef i'r eisteddfod cylch, i Langrannog ac ar ei ddêt cyntaf...! Os wyt ti'n hoffi Pokemon a Roblox ac yn casáu dawnsio gwerin... dyma'r llyfr i ti!
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is Macs Sion's bonkers scrapbook – a book full of secrets and dreams... lists and tricks... doodles and jokes... snot and poo! We accompany him to the local Urdd eisteddfod, to Llangrannog and on his first date...! If you like Pokemon and Roblox and hate folk dancing... this is the book for you!
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800996809
- Gwales Code
- gwales.com.9781800996809
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llyfr Sgrap Macs Sion
- Awdur / Author
- Lovgreen, Mari
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2025-03-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Tudur, Cai
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 80 pages
- Size
- 170 × 240 mm; depth 7 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C020637
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Daw Mari Lovgreen yn wreiddiol o ardal Caernarfon ond mae hi bellach yn byw yn Llanerfyl ym Mhowys. Mae hi'n gyflwynydd teledu adnabyddus ac wedi gweithio ar raglenni megis Uned 5, Noson Lawen a Chefn Gwlad. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf yn 2015, Llanast, a’i hail lyfr, Brên Babi, yn 2017, gyda gwasg Gomer.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Fe wnaeth y llyfr hwn i fi – a fy mab a merch 8 ac 11 oed – chwerthin yn uchel o’r dudalen gyntaf. Dyma ddyddiadur, neu lyfr sgrap, ffraeth, gonest a hynod ddoniol Macs Siôn, bachgen 10 oed (+17 wythnos a 3 diwrnod) sy’n llawn jôcs, hiwmor tŷ bach a gwreiddioldeb ac sy’n portreadu sefyllfaoedd cyfarwydd a fydd yn siŵr o daro deuddeg gyda nifer fawr o ddarllenwyr ifanc yr oed hwn. Mae’r stori wedi ei saernïo’n gelfydd ar ffurf pytiau byrion o ddyddiadur, a’r testun wedi ei rannu’n effeithiol yn ddarnau o naratif, rhestrau ar ffurf pwyntiau bwled neu dablau, cerddi byrion a hwyliog, ac ati, ac mae diagramau, dŵdls a chartwnau yr arlunydd ifanc Cai Tudur yn gweddu’n wych i gymeriad Macs ac yn ychwanegu’n gelfydd at y stori. O ystyried mai un o brif amcanion y llyfr yw apelio at ddarllenwyr anfoddog, gan gyflwyno cyfrol sy'n pontio rhwng llyfrau stori-a-llun a nofelau a fyddai'n draddodiadol yn fwy heriol eu testun, tybiaf ei bod yn llwyddo’n gampus yn hyn o beth. Ac er mor amlwg – ac amrwd! – yr hiwmor gydol y gyfrol, mae iddi sawl thema fwy dwys hefyd, yn cynnwys dynameg perthnasau rhwng ffrindiau, bywyd ysgol a theulu, a dyhead plant yr oed yma i gael eu derbyn gan eu cyfoedion ac i ‘ffitio i mewn’. Mae cyfeillgarwch Macs a Cai hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cynhwysiant a chael gwared ar ragfarnau. Mae yma sawl cyfeiriad gwawdlyd a doniol dros ben at y ‘pethe’ Cymraeg sy’n rhan o gylch profiad cynifer o blant ysgolion cynradd Cymru yn ogystal, megis yr Eisteddfod Gylch a dawnsio gwerin! Dyma lyfr sy’n sicr o apelio at y gynulleidfa darged ac mae’n amlwg bod Mari Lovgreen yn deall yn union pa fath o hiwmor sy’n apelio at y rhan fwyaf o blant yr oed yma. Mae’r llyfr yn sicr o godi gwên ar wynebau darllenwyr ifanc – a nifer o fawr o’u rhieni hefyd, heb os!
Share
