Cyngor Llyfrau Cymru
Llyfr Jôcs y LOL fa
Llyfr Jôcs y LOL fa
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr llawn jôcs i blant o bob oed! Jôcs a cherddi dwl gan Dewi Pws a hoff jôcs plant Cymru. Llyfr anrheg perffaith i'w roi yn yr hosan Nadolig! Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2011.
Disgrifiad Saesneg / English Description
More than 100 of the funniest jokes ever, by Dewi Pws, the children of Wales and Y Lolfa! Reprint; first published in 2011.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847713193
- Gwales Code
- gwales.com.9781847713193
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llyfr Jôcs y LOL fa
- Awdur / Author
- Pws, Dewi
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-03-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Editor
- Edwards, Meinir Wyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 96 pages
- Size
- 147 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hobïau, Diddordebau a Hiwmor (yn Gymraeg) | EN: Hobbies, Interests and Humour (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Llyfr Jôcs Newydd i Ddisodli Cracyrs y Nadolig Yma Rhan o draddodiad y Nadolig erbyn hyn wrth y bwrdd cinio yw tynnu’r cracyrs, rhyfeddu at yr anrhegion a darllen y jôcs sydd y tu fewn. Wel, ni fydd rhaid aros tan y twrci i rannu jôc neu ddwy'r Nadolig hwn oherwydd mae llyfr newydd gan y Lolfa yn llawn o’r jôcs Cymraeg mwya gwreiddiol erioed. Dywedodd Dewi Pws, sydd wedi cyfrannu nifer o jôcs a cherddi doniol i Lyfr Jôcs y LOLfa, “Pan o’n i’n naw oed, ro’n i’n dwli mynd i’r ysgol. Nid achos bo fi isie dysgu unrhyw beth, ond achos bo fi isie rhannu’r jôcs diweddara gyda fy ffrindie. Gobeithio neith rhai o’r jôcs a’r cerddi yma eich helpu chi i weld ochor ddoniol bywyd. Ond peidiwch â gwenu gormod – bydd pobol yn meddwl eich bo chi’n neud rhywbeth amheus!” Ychwanegodd Meinir Wyn Edwards, golygydd y llyfr: “Mae’r deunydd wedi ei gasglu o wahanol ffynonellau. Cynhaliwyd cystadleuaeth yng nghylchgrawn Cip a chasglwyd rhyw 150 o jôcs ar stondin y Lolfa ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol eleni er nad oedd pob un yn weddus i’w cynnwys yn y llyfr!” Yn ogystal â jôcs mae yna nifer o gartwnau gan Huw Aaron. Bydd y gyfrol yn sicr o daro deuddeg gyd phlant o un i gant oed y Nadolig hwn gan olygu y bydd gwerthiant cracyrs ar i lawr yng Nghymru o leiaf. Dyma ambell i jôc o’r llyfr: Beth wyt ti’n galw Jac Codi Baw cyfeillgar? Jac Codi Llaw! – Enlli Tudur, Corwen. Beth yw enw’r pry cop cyflymaf erioed? Corryn Jackson! – Llinos Evans, Ysgol Syr Thomas Jones. Beth wnaeth y pry copyn ar y cyfrifiadur? Gwefan! Beth yw hoff fwyd brân? Bran fflecs! - Aneurin, Ysgol y Wern. Ble mae Barbie yn mynd ar ei gwyliau? Dol-gellau! Beth ti’n galw plismon o Lanberis? Copa’r Wyddfa! – Glesni Rhys Jones, Ysgol Gynradd Bodedern.
Share
