Cyngor Llyfrau Cymru
Llwybr Gwyn yr Adar
Llwybr Gwyn yr Adar
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma'r drydedd nofel mewn trioleg gan Alun Jones, un o'n prif nofelwyr. Y ddwy nofel gyntaf oedd Lliwiau'r Eira a Taith yr Aderyn . Dilynir hynt yr un cymeriadau yn y Tiroedd Oer yn y cyfnod ar ôl y rhyfela rhwng y Fyddin Lwyd a'r Fyddin Werdd. Dyma nofel hyfryd am wroldeb, gwerth teulu, grym cariad a gobaith ar ôl dioddef.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The third title in a trilogy by Alun Jones, one of Wales's prime novelists. The first two titles were Lliwiau'r Eira and Taith yr Aderyn . We follow the same characters in the Scandinavian lands in the period of fighting between the Grey and Green Armies. This is a novel about heroism, the importance of family, the power of love and hope in the aftermath of suffering.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781913996710
- Gwales Code
- gwales.com.9781913996710
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Llwybr Gwyn yr Adar
- Awdur / Author
- Jones, Alun
- Current Price ex VAT
- £12.95
- Current Price inc VAT
- £12.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-12-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 496 pages
- Size
- 130 × 200 mm; depth 40 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Tybed fydd Alun Jones yn ennill ei le fel y J. R. R. Tolkien Cymreig? Mae ganddo yn awr drioleg o nofelau ffantasi dan ei wregys, camp sy’n arddangos egni creadigol rhyfeddol. Pan gyhoeddwyd Taith yr Aderyn (2008) a Llwybrau’r Eira (2013) pethau cymharol brin oedd nofelau ffantasi yn y Gymraeg, ond dros y flwyddyn ddiwethaf fe gafwyd gwledd ohonynt i gadw cwmni i’r ddau deitl hyn. Ar un olwg mae’r byd y cludir ni iddo yn y nofel hon yn un dieithr. Cynefin yr eryr a’r blaidd sy’n llawn cymeriadau ag enwau anghyffredin fel Gaut, Lars, Bo a Helge. Enwau dieithr sydd i’r mannau daearyddol hefyd, yn diriogaethau eang lle mae Cwm yr Helfa, Afon Borga Fawr a Llyn Sorob. Byd amgen, felly, i’r un yr ydym ni’n byw ynddo. Ond o feddwl ac ystyried, nid yw mor wahanol â hynny chwaith. Yr ydym yn hen gyfarwydd â’r byd o frwydro parhaus y cyflwynir ni iddo yn y nofel. Bu’r fyddin werdd a’r fyddin lwyd yn ymladd yn erbyn ei gilydd ers cyn cof, fe ymddengys, ac nid oes neb a all ddirnad yn llawn bellach beth yn union sydd wrth wraidd yr anghydfod. Mae nifer o’r cymeriadau yn y nofel wedi gwasanaethu fel milwyr yn y naill fyddin neu’r llall ond bellach maen nhw wedi dianc o’u crafangau. Ffoaduriaid ar grwydr neu geiswyr lloches ydynt erbyn hyn, rhai yn chwilio am le diogel rhag yr ymladd ac eraill er mwyn magu teulu a byw mewn heddwch. Hyd yn oed ar ôl darganfod mangre dawel, rhaid bod yn wyliadwrus rhag i’r byddinoedd alw heibio a’u cipio yn ôl i’r rhengoedd. Nofel gwbl gyfoes o ran ei thestun, felly, sydd o’i darllen yn atgoffa rhywun yn gryf o gerdd fawr Waldo Williams, ‘Mewn Dau Gae’. Nid oes amheuaeth, er ei chyfoethoced, nad yw hon yn nofel heriol. Y cwestiwn yw a ellir ei mwynhau heb ddarllen y ddwy nofel flaenorol yn gyntaf. Trwy lwc fe gawn gyflwyniadau byr i’r nofelau hynny. Mae yna hefyd restr o’r prif gymeriadau a’u teuluoedd, ynghyd â map sy’n rhoi syniad i ni o’r tiriogaethau a drafodir. Rhaid dweud hefyd fod darllen hon wedi codi awydd cryf arnaf i ymweld unwaith eto â Taith yr Aderyn a Llwybrau’r Eira .
Share
