Cyngor Llyfrau Cymru
Lladd Duw
Lladd Duw
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch , Brithyll a Crawia . Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi'i lleoli yn Llundain a thref glan y mor ddychmygol. Mae'n ymdrin â chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, ceir digon o hiwmor ynddi hefyd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2010.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is Dewi Prysor's first novel since his successful trilogy, Madarch , Brithyll and Crawia . Lladd Duw is located in London and a fictional seaside town, and deals with the end of civilisation. A dark and serious novel, which, as one would expect from the author, also contains much humour. Reprint. First Published in 2010.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847712820
- Gwales Code
- gwales.com.9781847712820
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Lladd Duw
- Awdur / Author
- Prysor, Dewi
- Current Price ex VAT
- £14.99
- Current Price inc VAT
- £14.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-06-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 381 pages
- Size
- 141 × 214 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dewi Prysor yn Lladd Duw mewn Nofel Dywyll a Chignoeth Lladd Duw yw teitl nofel ddiweddaraf Dewi Prysor a gyhoeddir yr wythnos hon. Creodd tair nofel gyntaf Dewi Prysor gynnwrf yn y byd llyfrau gyda’i bortreadai cignoeth o fywydau adar brith isfyd Gogledd Meirionydd. Mae Dewi Prysor yn newid cyfeiriad gyda’i nofel ddiweddaraf gyda chymeriadau a sefyllfaoedd hollol newydd ond yn parhau gyda’i blotio gafaelgar a’i sylwebaeth finiog ar faterion cymdeithasol, ysbrydol a diwylliannol. Y tro yma mae’r nofel wedi ei lleoli mewn tref lan môr ddychmygol yng Ngwynedd o’r enw Gilfach ac mae gangstyrs peryclaf dwyrain Ewrop am waed dau gymeriad, Jojo a Didi, sy’n gorfod dianc o Lundain am loches yno. Erbyn hyn mae Dewi Prysor wedi ennyn dilyniant mawr fel nofelydd gyda sawl un o’i nofelau yn cael eu hailargraffu. Yn ôl Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa, “Dyma un o lyfrau mwya cyffrous y flwyddyn. Mae Lladd Duw yn nofel ddewr ac yn llwyddo ar sawl lefel - mae’n stori afaelgar, yn llawn ffraethineb a difyrrwch, ac mae hefyd yn dangos awdur sy’n barod i drafod argyfyngau cyfoes yr ardaloedd Cymraeg mewn modd effeithiol – peth prin iawn y dyddiau yma... ” Dywedodd Llwyd Owen, “Dyma antur ar raddfa fawr gan un o awduron mwyaf cyffrous ein cenedl. Nofel llawn cymeriadau dwys a doniol a dau gymeriad canolog fydd yn ymdroi yn hir yn y cof.” Ychwanegodd Emlyn Gomer Roberts, “Chwip o nofel, gydag afiaith heintus yr awdur yn byrlymu trwyddi o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r cymeriadau yn argyhoeddi, ac yng nghanol berw can-milltir-yr-awr y plot gafaelgar ceir ambell ysbaid dawel o wir brydferthwch. Mae Prysor yn gwybod sut i ddweud stori, a’i deud hi’n dda.”
Share
