Cyngor Llyfrau Cymru
Leila Megane: Ei Dawn a'i Stori
Leila Megane: Ei Dawn a'i Stori
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cwbl briodol fu cychwyn y bererindod gerddorol hon ym Mhwllheli, a'i gorffen ychydig filltiroedd oddi yno hefyd. Bu i Leila Megàne deithio 'mhell oddi cartref, ond i ba le bynnag yr elai â'i â rhan o fro ei mebyd gyda hi.
Disgrifiad Saesneg / English Description
It was appropriate to begin this musical pilgrimage in Pwllheli, and to draw it to a close only a few miles from the town. Leila Megàne travelled far from her home, but wherever she went she took a part of home with her.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845279158
- Gwales Code
- gwales.com.9781845279158
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Leila Megane: Ei Dawn a'i Stori
- Awdur / Author
- Jones, Ilid Anne
- Current Price ex VAT
- £8.75
- Current Price inc VAT
- £8.75
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-06-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 154 pages
- Size
- 138 × 215 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Benyw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Female (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
ILID ANNE JONES – pianydd, organydd ac arweinydd corawl, yn enedigol o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle, Arfon. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor ac ennill gradd Baglor mewn Cerddoriaeth (B.Mus) ac yna Athro mewn Athroniaeth (M.Phil) ar waith a bywyd Leila Megàne ar arddull leisiol Bel Canto. Erbyn hyn mae Ilid Anne Jones yn byw yn Waen Wen ger Bangor.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Roedd ei gwreiddiau'n ddwfn ym Mhen Llŷn, ac er iddi berfformio o flaen tywysogion a phwysigion y dydd, nis anghofiodd am funud mai merch o gefndir gwerinol ydoedd, ac mai Cymraes a dderbyniodd freintiau lu oedd hi hefyd. Ceisiwyd yma gofnodi ei hanes, gan roi i'r darllenydd adlewyrchiad o'i chyfraniad unigryw i'r byd cerddorol. I'r werin bobl, byd pell a dieithr oedd y byd proffesiynol hwnnw yr oedd Leila Megane yn perthyn iddo. Eithr wrth holi'r rhai oedd yn ei chofio a'i hadnabod, cawn fod y darlun beth yn wahanol. Drwy ddod i gysylltiad personol â hi roedd edmygedd a pharch mawr tuag ati. Cantores gyda llais unigryw oedd Leila Megàne, ac er i nifer o erthyglau gael eu hysgrifennu amdani, eto person preifat, gyda nifer o elfennau cuddedig yn ei chymeriad, oedd hi. Gobeithio y bydd y bywgraffiad hwn yn fodd i ddyfnhau ein hadnabyddiaeth ni ohoni fel gwraig, yn ogystal â chantores fyd enwog ei chyfnod.
Share
