Cyngor Llyfrau Cymru
Hufen Afiach Dai
Hufen Afiach Dai
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr ysgafn i blant 8-11 oed a dilyniant i Hufen Afiach . Mae'r stori'n dilyn helyntion y cawr, Dai Bola Bach, a'i wraig, Blodwen Bling, y cwpwl anghyffredin sy'n rheoli canolfan awyr agored i blant o'r enw Gwersyll Hyll Glan Llan.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A light-hearted, humorous book for 8-11 year old readers. A sequel to Hufen Afiach , the story follows the troubles of the giant, Dai Bola Bach and his wife, Blodwen Bling, the unusual couple who run an outdoor centre for children - Gwersyll Hyll Glan Llan.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781913245405
- Gwales Code
- gwales.com.9781913245405
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Hufen Afiach Dai
- Awdur / Author
- Siôn, Meilyr
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-07-23
- Cyhoeddwr / Publisher
- Atebol
- Darlunydd / Illustrator
- Aaron, Huw
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 104 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Daw Meilyr Siôn o Aberaeron yn wreiddiol ond bellach mae'n byw yn y Barri gyda'i deulu. Yn awdur, cyflwynydd ac yn actor llawrydd mae Meilyr wedi ysgrifennu sawl nofel i blant. Mae eisioes wedi cyfrannu at raglen Tic Toc ar Radio Cymru ac wedi trosleisio cartwnau plant ar S4C.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Wel dyma gyfrol sy’n codi gwên, a chodi hwyliau – llyfr sy’n bell o fod yn boring! Stori sydd yma sy’n dilyn helyntion y cawr Dai Bola Bach a’i wraig, Blodwen Bling, sy’n rhedeg canolfan awyr agored i blant o’r enw Gwersyll Hyll Glan Llan. Dyma nofel lawn llysnafedd a llanast wneith eich cadw chi’n llon am amser hir. Nid darlleniad i’r gwangalon yw hon! Wna i ddim datgelu gormod i chi am y cynnwys, ond alla i ddim peidio â sôn am yr holl enwau doniol wnaeth wneud i mi wenu: Tina Tŷ Bach, Llŷr Llwch Pen, Dewi Dagrau, Miss Sian Pŵ, Mr Dan Dryff, a llawer mwy. Mae’n gwneud i mi feddwl y dylen i fy hunan fathu enwau bach difyr i’r bobl sydd o fy nghwmpas, achos dwi’n hoffi tynnu coes! O ran y sgwrsio a’r naratif, mae yna amrywiaeth da yma gyda phopeth yn llifo’n naturiol. Un o’r disgrifiadau sydd wedi aros yn fy nghof yw’r un am Blodwen Bling, y “...wraig fach gron wedi’i gorchuddio o’i phen i’w sawdl mewn gemau disglair. Edrychai fel pelen oddi ar goeden Nadolig.” Roedd hynny yn ei hun yn ddoniol, ond roedd gweld llun ohoni ar y dudalen nesaf yn ychwanegiad hwyliog, wnaeth wneud i mi rolio chwerthin, rhaid cyfaddef! Mae’r lluniau gan Huw Aaron yn ychwanegu’n wych at y llyfr, ac yn fy atgoffa bron o steil llyfrau Roald Dahl – y sblashys du a gwyn nawr ac yn y man sy’n rhoi blas ar y cymeriadau, heb darfu ar rediad y stori. Prynwch a darllenwch. Wnewch chi ddim difaru. Mwynhewch! Bant â fi nawr i fathu enwau o’r newydd i fy nheulu a fy ffrindiau ... ond wna i'ch gadael chi gyda fy mathiad o enwau awdur ac arlunydd y nofel hon. ‘Meilyr Mynd Dan Gro’n’, am ei fod wedi llwyddo i gyflwyno cymeriadau byw, a ‘Huw Ar-wrol’, am ddarlunio’n, wel, arwrol, wrth gwrs.
Share
