Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Hoff Gerddi Serch Cymru

Hoff Gerddi Serch Cymru

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad amrywiol o hoff gerddi serch y Cymry, yn cynnwys 73 o gerddi yn y mesurau caeth a rhydd yn rhychwantu wyth canrif, o'r 13eg ganrif hyd ddiwedd yr 20fed ganrif. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Mai 2002.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A diverse collection of the best-loved Welsh love poems, comprising 73 poems in free and strict metre encompassing a period from the 13th to the end of the 20th century. Reprint. First published in May 2002.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781843230144
Gwales Code
gwales.com.9781843230144
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Hoff Gerddi Serch Cymru
Awdur / Author
Gomer
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-01-20
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Editor
Mair, Bethan
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
100 pages
Size
140 × 215 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)
DEWEY code
National Library of Wales Dewey Code

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Ydi, mae Robin yn swil, fel y cawn ein hatgoffa gan gerdd Talhaiarn yn y gyfrol hon, ond beth am ei gyd-Gymry? O'i chymharu â’i rhagflaenydd, Hoff Gerddi Cymru – ‘Gwerthwr gorau barddoniaeth Gymraeg’ yn ôl y blyrb – methwyd â threfnu cynnwys y flodeugerdd hon yn nhrefn ffafriaeth gan mai un enwebiad yn unig a dderbyniodd sawl cerdd; y golygydd ei hun, Bethan Mair, a ddewisodd ambell un arall. A hynny yn nyddiau Tabŵ a Procar Poeth pan fo Cymry, hen ac ifanc, yn fodlon brolio ac arddangos eu campau rhywiol gerbron y genedl! Pwy felly yw Casanova’r beirdd, ar sail tystiolaeth Hoff Gerddi Serch Cymru ? Wel, ac yntau’n awdur pedair o blith y 73 o gerddi rhwng cloriau’r gyfrol hon, Dafydd ap Gwilym sy’n hawlio’r llysenw hwnnw. Ei gywydd llatai ysblennydd i’r wylan ynghyd ⠑Rhieingerdd’, telyneg John Morris-Jones, a ‘Lleucu Llwyd’, cân bop Dewi Pws, yw’r teitlau a enwyd amlaf gan y rhai a enwebodd gerddi ar gyfer y llyfr. Mae’n gasgliad eclectig, felly: saif ‘Fy Newis Riain Firain Deg’ gan Hywel ab Owain Gwynedd o’r drydedd ganrif ar ddeg gyferbyn ⠑Ceidwad y Goleudy’ Emyr Huws Jones o’r ugeinfed ganrif; daw ‘Myfanwy’ Fictoraidd o flaen dyfyniad o araith Llywelyn i Siwan o ddrama glasurol Saunders Lewis. Rhan o’r hwyl gyda blodeugerdd fel hon yw gweld i ba raddau y mae dyn yn cyd-fynd â’r dewis a pha gerddi y byddai ef ei hun wedi’u cynnwys. Un o’n prif feirdd serch na chynrychiolir mohono fan hyn, a hynny am mai ysbrydol rhagor cnawdol yw’r serch y mae’n canu amdano, yw William Williams, Pantycelyn: ‘’Rwy’n edrych dros y bryniau pell / Amdanat bob yr awr; / Tyrd, fy Anwylyd, mae’n hwyrhau, / A’m haul bron mynd i lawr ...’ Ond gan fod rhan o ddrama fydryddol arall ganddo wedi’i dyfynnu, mi fyddwn i wedi neilltuo cryn dipyn o ofod ar gyfer drama fwyaf nwydus yr iaith, sef Blodeuwedd Saunders Lewis: araith glo Blodeuwedd ar ddiwedd yr act gyntaf, er enghraifft, ei haraith yn yr ail act (‘Mae’n cyrff ni yn ddihysbydd...’) a geiriau Llew Llaw Gyffes, ‘Di ferch y blodau ...’ yn yr un act. Cerddi eraill y byddwn i wedi sicrhau lle ar eu cyfer – drwy fodloni ar ddetholiad yn unig o awdl Robin Llwyd ab Owain, dyweder, yn hytrach na’i chynnwys yn ei chyfanrwydd – fyddai ‘Concwest’ a ‘Saesnes’ Siôn Eirian o’r dilyniant a enillodd iddo Goron 1978 ac un o’r cerddi serch salmaidd a enillodd i Meirion Evans y Goron y flwyddyn ganlynol; ‘Telyneg’ Elin ap Hywel yn Pethau Brau ; o leiaf un o englynion T. Arfon Williams i’w briod; a ‘Llygad fy Nghariad’ Bobi Jones (‘Brown yw d’olygon megis ffos ar agor ...’) a fyddai wedi gwrthgyferbynnu â serch delfrydoledig ‘Rhieingerdd’ Morris-Jones (‘Dau lygad disglair fel dwy em ...’). Ond waeth heb â chodi pais: onid oedd gwahoddiad i minnau enwebu cerddi petawn i am ddal ar y cyfle? A chalon fawr goch yn sws glec ar ganol ei chlawr, gwnâi’r gyfrol anrheg pen-blwydd iawn ar gyfer cariad. Nid llyfr bwrdd coffi mohono – llyfr erchwyn gwely, efallai ...

View full details