Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion

Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Does gan Harri ddim dychymyg, diolch i'r sgriniau sydd yn llenwi ei fywyd. Felly beth fydd yn ei blesio ar ei ben-blwydd? Rhaid i'r dyfeiswyr craff fynd ati i feddwl o ddifri!

Disgrifiad Saesneg / English Description

Harry lacks imagination, thanks to the screens that fill his life. So what will please him on his birthday? The clever inventors really have to don their thinking caps!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845279837
Gwales Code
gwales.com.9781845279837
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion
Awdur / Author
Cadwaladr, Rhian
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2025-07-23
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
180 pages
Size
128 × 198 mm; depth 9 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Os ydi’ch tŷ chi unrhyw beth fel ein tŷ ni, mae hi’n gallu bod yn dipyn o dynfa weithiau rhwng y teledu, yr iPad, a’r dudalen! Ond rydan ni’n gwneud yn siŵr bod digon o amser o hyd i ymgolli mewn llyfr da. Dyna braf felly oedd cael dod o hyd i lyfr sy’n trafod yr union dynfa honno rhwng y sgriniau hollbresennol a byd y dychymyg. Mae hon yn stori go swmpus; mae wedi ei hanelu at blant rhwng 7 ac 11 oed, ac mi dybiwn i fod yma hen ddigon i gadw darllenwyr hŷn y grŵp hwn yn ddiddig. Darllen efo’n gilydd wnes i a’r mab saith oed, er mwyn ei helpu efo rhai o’r patrymau mwy heriol, ac fe weithiodd hynny’n dda gan ein bod ein dau yn adnabod y sefyllfa gyfarwydd yn y penodau cyntaf! Y brys mawr i adael am yr ysgol, a pha mor hawdd ydi hi – rhy hawdd o lawer! – i gael ein llygad-dynnu gan y sgrins wrth fwyta brecwast a brwsio dannedd. Roedd hyn yn canu cloch i’r ddau ohonom, ond hefyd yn ffordd dda o greu hiwmor a chwerthin. Roedd elfennau eraill digri hefyd, gan gynnwys rhai o ddywediadau Harri, fel “Bob-whip-be?” Mae’r lluniau, yr emojis a’r ffont gwahanol sy’n britho’r testun yn help i gynnal diddordeb y darllenydd ifanc, ac mae digon o gyfeirio at sefyllfaoedd cyfarwydd i ennyn gwên smala gan y rhiant yn ogystal. Ar ben hynny roedd yn braf gweld darlun realistig o’r ‘jygl’ teuluol cyfoes wrth i Anna, y fam, frysio adref o’r gwaith erbyn swper a’r tad, Teg, yn dal wrthi yn y ffatri deganau. Pa ryfedd, a phwysau felly yn cynyddu, fod sgrins yn dod yn fwy ac yn fwy o ran o fywydau’n plant ni? Ond buan rydan ni’n neidio o’r sefyllfa deuluol gyfarwydd i fyd dyfeisgar y ffatri deganau. Er y byddwn i wedi hoffi dysgu rhagor am Harri, y cymeriad hoffus a digri, roedd y rhan ganol yng nghwmni Casi a Siencyn yn ddifyr dros ben hefyd, gyda digon o hwyl wrth iddyn nhw fynd am y gorau i ddyfeisio anrheg i Harri a all ailgynnau ei ddychymyg a’r dynnu oddi wrth ei sgrin. Mae yma lwyth o hiwmor drachefn ac ro’n i’n hoff iawn hefyd o’r cardiau syniadau wrth i’r ddau rannu ffrwyth eu dychymyg. Fe wnaethon ni chwerthin a mwynhau, ond cawson ni hefyd drafod a meddwl am ein syniadau ein hunain: pa fath o degan fydden ni’n gallu ei ddyfeisio? Dyna sy’n dda am y gyfrol – mae ei thema yn cyd-fynd â’i chyfrwng oherwydd ei bod yn ein hannog i ddefnyddio’n dychymyg a’n dyfeisgarwch. Wna i ddim sbwylio’r hwyl drwy ddweud wrthoch chi beth oedd canlyniad y gystadleuaeth i ddyfeisio tegan newydd i Harri, ond saff dweud ei fod wrth ei fodd. Hwyrach ein bod ni’n tynnu llinell rhy bendant sy’n mynnu bod sgrins yn ‘dwyn ein dychymyg’ ac mai dim ond heb ein sgriniau y medrwn ni ailafael yn y dychymyg hwnnw, fel mae Nain yn ei haeru ar ddechrau’r stori. Ond er mai yno mae’r stori’n dechrau, mae ambell enghraifft yn y llyfr o sut medr technoleg weithiau, o’i defnyddio’n iawn a heb ei gor-wneud hi, fod yn gyfryngydd da i fyd mwy dyfeisgar. Yn y pen draw mae’r diweddglo yn awgrymu nad y cyfrwng ydi’r peth allweddol – ond mai defnyddio’n dychymyg, sut bynnag y medrwn ni, ydi’r peth pwysig, y peth sy’n ein cadw ni’n fywiog, yn hwyliog – ac yn llawn dychymyg byw, fel y stori hon.

View full details