Cyngor Llyfrau Cymru
Hanes fy Hynodrwydd
Hanes fy Hynodrwydd
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Ffordd ryfedd o ddatblygu cyfeillgarwch, efallai, yw archwilio adfeilion hen seilam Fictoraidd, ond mae Mo bob amser yn gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae cyfeillgarwch Mo ac Onyx yn gymorth i ddygymod â bywyd yn yr ysgol uwchradd, ond a fedran nhw ganfod ffordd i fod yn nhw eu hunain pan ymddengys fod y byd yn eu herbyn? Rhan o gynllun Rhyngom.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Exploring an abandoned Victorian asylum may seem like a weird way to develop a friendship, but Mo has always found that she does things a bit differently. Finding Onyx makes high school bearable, but can they ever find a way to be themselves when the world seems against them? Part of the Rhyngom Scheme.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781915444875
- Gwales Code
- gwales.com.9781915444875
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Hanes fy Hynodrwydd
- Awdur / Author
- Heuch, Chloe
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-07-04
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Firefly Ltd
- Translator
- Llwyd, Mared
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 296 pages
- Size
- 150 × 200 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C171272
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae dechrau ysgol uwchradd yn her i unrhyw blentyn, ond trwy lygaid Miri ceir mewnwelediad i’r sialensau ychwanegol gall wynebu plentyn niwrowahanol. Yn ystod gwersi, caiff nodweddion awtistaidd fel stimio a rhannu gwybodaeth am ei diddordeb arbennig eu dehongli fel camymddygiad gan rai o’i athrawon, sy’n dewis anfon Miri o’r ystafell ddosbarth yn hytrach na chynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arni fel disgybl gydag awtistiaeth. Diolch byth, mae teulu cefnogol Miri yn wrthbwynt cadarnhaol i anwybodaeth ei hathrawon, yn enwedig ei mam, sydd hefyd yn awtistaidd ac yn eiriolwr brwd dros ei merch. Newida profiad ysgol Miri am y gorau ar ôl iddi gwrdd â Carys (neu Onyx, fel mae’n well ganddi cael ei galw). Fel Miri, teimla Onyx yn wahanol i’w chyd-ddisgyblion, a hynny’n eu troi nhw’n destun sbort i hen “ffrindiau” Miri. Tyfa cyfeillgarwch agos rhwng y ddwy, ac ym mhen dim, dyma Miri wedi gwneud ffrind gorau sy’n ei charu hi am bwy ydy hi, a Miri yn dangos yr un parodrwydd i dderbyn a charu hynodrwydd Onyx. Yn anffodus, nid pawb sydd â meddwl mor agored. Cyhudda tad Onyx Miri o fod yn ddylanwad drwg, ac mae’r cymryd mesurau eithafol i gadw’r ddwy ar wahân. Yn fwy na hynny, gorfodwyd Onyx i fynychu rhyw fath o therapi trosi am nad yw'n ffitio delfryd ei thad o’r “ferch berffaith”, cipolwg sobreiddiol o’r gormes a’r camdriniaeth mae ieuenctid LHDT+ yn parhau i’w profi. Yn dilyn gwers Hanes, datblyga Miri obsesiwn gyda gwallgofdai Fictoraidd, yn enwedig ar ôl iddi ddysgu y byddai pobl gydag awtistiaeth yn cael eu hanfon yno. Mae ei chwilfrydedd yn arwain at antur i hen wallgofdy lleol gydag Onyx. Mae’r gwallgofdy’n gefnlun iasol gwych i’w helynt yn nhywyllwch y nos, yn enwedig ar noson Calan Gaeaf, ac mae hefyd yn ein hatgoffa o’r anghyfiawnder oedd yn wynebu’r rheini gyda salwch meddwl neu niwrowahaniaeth. Tra bod Miri ac Onyx yn byw mewn cyfnod a chymdeithas lawer fyw goddefgar o wahaniaethau unigol, mae’r sylwadau rhagfarnllyd a dderbynia’r ddwy yn yr ysgol am fod yn nhw eu hunain yn dangos bod yr un anwybodaeth Fictoraidd dal yn holl bresennol heddiw. Trwy adroddiad onest ac agored Miri, rhoddir llais i’r bobl ifanc sydd ar y cyrion, y rhai sy’n teimlo nad ydynt yn ffitio i mewn gyda’i chyfoedion. Ond gyda chefnogaeth ei ffrind gorau a’i theulu, dysga Miri fod dim byd o’i le â pheidio bod fel pawb arall; yn wir, daw hi ac Onyx nid yn unig i dderbyn eu hynodrwydd, ond i’w ddathlu.
Share
