Cyngor Llyfrau Cymru
Gyrru drwy Storom
Gyrru drwy Storom
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae 1 o bob 4 ohonom yn dioddef o salwch meddwl, ac yn y gyfrol arloesol hon cawn hanes profiadau rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo, trwy gyfrwng eu cerddi, eu llythyrau, eu dyddiaduron a'u hysgrifau. Trafodir y salwch yn gwbl onest, ac er bod y profiadau'n ddirdynnol, gwelir bod gwella a bod yn obeithiol am y dyfodol. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2015.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A volume dealing with mental health issues, which affect one in four persons suffer from. 11 people who have been affected by mental illness submit their experiences via poems, letters, diaries and essays. Their experiences are harrowing, but the contributors showit is possible to survive and to be hopeful about the future. Reprint. First Published in 2015.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784611439
- Gwales Code
- gwales.com.9781784611439
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gyrru drwy Storom
- Awdur / Author
- Gwyn, Angharad; Tomos, Angharad; Griffiths, Alaw; Jenkins, Bethan; Lewis, Caryl; Edwards, Mair; Hardy, Geraint; Griffiths, Hywel; Rhys, Iwan; Gruffydd, Llyr Huws; Wilkinson., Malan
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-11-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Editor
- Griffiths, Alaw
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 144 pages
- Size
- 215 × 140 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Detholiadau (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)
Cynnwys / Table of Contents
Cyfraniadau gan Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Alaw Griffiths, Bethan Jenkins, Caryl Lewis, Mair Edwards, Geraint Hardy, Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Llyr Huws Gruffydd, Malan Wilkinson.
Cynnwys / Table of Contents
Contributions by Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Alaw Griffiths, Bethan Jenkins, Caryl Lewis, Mair Edwards, Geraint Hardy, Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Llyr Huws Gruffydd, Malan Wilkinson.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ychydig iawn sydd wedi cael ei ysgrifennu am salwch meddwl, er ei fod wedi cyffwrdd â nifer fawr iawn ohonom – yn wir, nid oes fawr ddim wedi cael ei ysgrifennu yn Gymraeg. Croesawn felly, gyda breichiau agored, y gyfrol arbennig hon sy'n rhannu profiadau uniongyrchol o'r cyflwr. Mae'r cyfraniadau oll yn hynod onest a chredaf ei bod wedi bod yn hynod anodd ar adegau i'r cyfranwyr roi pin ar bapur. Yr hyn sy'n wych, wrth gwrs, yw eu bod wedi llwyddo i rannu eu profiadau, ac fel y mae nifer ohonynt yn sôn, y mae dechrau siarad am y profiad a'i rannu yn gam yn nes at waredu'r cysgodion. Y mae'r profiadau a rennir yn y gyfrol yn ddirdynnol weithiau. Clywn yn onest iawn am iselder Alaw Griffiths, Caryl Lewis ac Angharad Tomos ar ôl geni plant ond yr hyn sy'n bwysig yw eu bod bellach yn medru rhannu'r profiad a'u bod wedi cyrraedd man tipyn goleuach. Cignoeth hefyd yw profiadau'r gwleidyddion Llyr Huws Gruffydd a Bethan Jenkins – dau unigolyn, ar yr olwg allanol, cwbl hyderus a fyddai'n dianc rhag salwch meddwl. Ond fel mae'r gyfrol hon yn dangos, gall salwch meddwl daro pawb. Dewis cyfarch ei hanorecsia ar ffurf llythyr a wnaeth Angharad Gwyn a dyma rannu unwaith eto yn gwbl onest gyfnod cwbl uffernol yn ei bywyd ifanc. Yr un mor dywyll oedd profiad Malan Wilkinson. Cafwyd hefyd gerdd a gair o brofiad gan y Prifardd Hywel Griffiths, gŵr Alaw, a cherdd bwrpasol iawn gan Iwan Rhys. Ei gerdd ef, 'Gyrru Drwy Storom', a roddodd y teitl i'r gyfrol. Doeth, yn ogystal, oedd cael mewnbwn gan y seicolegydd Dr Mair Edwards gan ei bod hi'n medru bwrw golwg yn fras ar amrywiol agweddau o'r cyflwr. Ymhellach, y mae dyfyniadau gan enwogion am salwch meddwl rhwng pob pennod yn ategu at y gyfrol. Dyma, heb os, gyfrol i bawb. Mae’n anodd ei darllen ar adegau ond dyma ymgais glodwiw iawn i godi'r llen ar bwnc sydd wedi bod yn tabŵ yn rhy hir. Cawn ein sugno i gyfnodau tywyll y cyflwr ond yn bwysicach fyth down i ddeall fod yna wastad 'haul ar fryn' yn y diwedd.
Share
