Cyngor Llyfrau Cymru
Gwlad yr Addewid
Gwlad yr Addewid
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Drama ffrwydrol, angerddol am deulu Cymreig a'r freuddwyd Americanaidd. Pan mae'r tad yn gadael am fywyd newydd yng Nghaliffornia, a gwaith glo brig yn agor yn ymyl eu cartref, mae bywyd y teulu yn newid am byth. Addasiad Cymraeg o House of America .
Disgrifiad Saesneg / English Description
A Welsh-language adaptation of House of America , playwright Ed Thomas's obliquely structured account of a dysfunctional Welsh Valleys family living on the edge of an open-cast mine whose loss of self-worth and sanity is fatally accelerated by the imported dreams they fill their lives and bury their past with.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781910409008
- Gwales Code
- gwales.com.9781910409008
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gwlad yr Addewid
- Awdur / Author
- Thomas, Ed
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-06-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Parthian Books
- Translator
- Morgan, Sharon
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 140 pages
- Size
- 127 × 203 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dramâu, Sgetsys, Pantomeimiau (yn Gymraeg) | EN: Plays, Sketches, Pantomimes (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Dramâu (yn Gymraeg) | EN: Plays (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Yn 1988, ysgrifennodd Ed ei ddrama gyntaf, House of America . Enillodd y ddrama sawl gwobr fel drama a ffilm (1996), yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei ddramâu eraill yn cynnwys Flowers of the Dead Red Sea (1991), East From the Gantry (1993), Song From a Forgotten City (1995), Gas Station Angel (1998) a Stone City Blue (2004). Maent wedi teithio’n fyd-eang gan gynnwys Prydain, Ewrop, Awstralia a De America, i theatrau’n cynnwys The Royal Court, Donmar Warehouse a’r Tramway, Glasgow. Maent wedi eu cyfieithu i dros ddeg o ieithoedd. Ed yw sefydlydd a chyfarwyddwr artistig Fiction Factory, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Y Gwyll / Hinterland , cyfres dditectif wedi ei chynhyrchu yn Saesneg a’r Gymraeg i S4C a’r BBC, a’i dosbarthu’n rhyngwladol gan All3Media. Dros y degawd diwethaf, mae Ed wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu dros gant ac ugain awr o ddrama mewn sawl genre, gan ddenu dros saith deg o enwebiadau a gwobrwyon yn cynnwys rhai gan BAFTA Cymru a Prix Europa. Mae ei raglenni wedi eu dosbarthu i dros wyth deg o wledydd. Mae’r rhain yn cynnwys Satellite City , Silent Village , China , A Mind to Kill , Caerdydd , Pen Talar , Y Pris , Cwmgiedd / Columbia a Gwaith/Cartref . Mae’n byw yng Nghaerdydd.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae House of America yn ddrama ffrwydrol, angerddol am deulu Cymreig a’r freuddwyd Americanaidd. Pan mae’r tad yn gadael am fywyd newydd yng Nghaliffornia, a gwaith glo brig yn agor yn ymyl eu cartref, mae bywyd y teulu yn newid am byth. Mae Mam yn gwallgofi ar ôl lladd cath o’r enw Brando, ac er gwaethaf protestiadau Boyo – y brawd sy’n deyrngar i’w gynefin – does dim all atal Sid a Gwenny rhag encilio i fyd ffantasïol Jack Kerouac, a’i glasur o nofel On the Road . Mae celwydd a chyfrinachau yn arwain at drasiedi’r freuddwyd anghywir yn y dre anghywir. “Ed Thomas yw dramodydd mwyaf cyffrous Cymru. Mae’r trawma a’r dryswch diwylliannol mae’n ei ddisgrifio, mewn modd mor ffrwydrol ac egnïol, yn rhan o brofiad cyffredinol ein hamseroedd. Mae’n wefreiddiol.” -- The Guardian “Syfrdanol. Y ddrama fwyaf cyffrous i mi ei gweld ers amser maith.” -- Time Out London “Wedi ei bortreadu ar ogwydd, dyma hanes teulu diffygiol o’r Cymoedd ar ymyl gwaith glo brig sy’n prysur golli eu pwyll a’u hunan-barch trwy fewnforio breuddwydion er mwyn llenwi eu bywydau a chladdu’r gorffennol ... disentiment, trefol, eithafol o ddychmygus a thelynegol ... llwyddiant ysgubol.” -- The Independent “Trasiedi fodern ar gyfer cenedl anghofiedig. Gwaith meistrolgar.” -- The Scotsman
Share
