Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Gwirionedd

Gwirionedd

Regular price £8.95 GBP
Regular price Sale price £8.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel ysgubol sy'n cynnig golwg newydd ar un o ddigwyddiadau mawr bywyd - marwolaeth. Mae'n llawn dagrau, direidi a dathlu, ond yn bennaf oll, mae'n gorlifo â chariad.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel which will taken your breath away with its sensitivity and emotion. It presents a new perspective on one of life's big events - death.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912173273
Gwales Code
gwales.com.9781912173273
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Gwirionedd
Awdur / Author
Reynolds, Elinor Wyn
Current Price ex VAT
£8.95
Current Price inc VAT
£8.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2019-10-10
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg y Bwthyn
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
168 pages
Size
203 × 131 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel am golled yw Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds. Dilynwn daith y prif gymeriad drwy ei galar yn dilyn marwolaeth ei thad. O’r munudau olaf hyd at wasgaru’r llwch, rhannir y gyfrol yn dair rhan: 'Byw' sy'n trafod salwch a marwolaeth y tad, 'Marw', ei angladd a 'Byw Eto' sy’n ymdrin â’r golled. Plethir myfyrdodau ac atgofion gyda disgrifiadau real a gonest o geisio byw bywyd o ddydd i ddydd, gan ddygymod â cholli rhywun ar yr un pryd. Drwy ysgrifennu cain, agos atoch yn nhafodiaith Sir Gâr, llwydda Elinor Wyn Reynolds i gyfleu profiadau amrywiol a dirdynnol yn llawn. Yn wir, gallwn uniaethu’n llwyr gyda’i disgrifiadau a’i theimladau, yn arbennig wrth iddi ymgymryd â’r tasgau sy’n glwm â cholled o’r fath: y rheidrwydd i gofrestru’r farwolaeth yn swyddogol, cau cyfrifon banc, clirio’r tŷ. Ceir yma ddisgrifiadau ingol a hardd a lwydda i ddeffro atgofion a theimladau yr oeddwn wedi eu hanghofio’n llwyr. Ond nid nofel drom yw hon, er gwaethaf tristwch a dwyster y themâu a drafodir. Gan nad oes penodau fel y cyfryw, mae’r gwaith yn llifo’n ysgafn a rhwydd. Yn britho’r gyfrol hefyd mae yna hiwmor a chyffyrddiadau direidus annisgwyl, gan sicrhau nad yw’r nofel yn teimlo’n feichus a digalon. Does yna ddim gwrthdaro amlwg, tensiynau enbyd neu ddatgelu cyfrinachau mawr, annisgwyl. Drwy ganolbwyntio’n llwyr ar y profiadau bob dydd cyffredin – ond eto cwbl anghyffredin – sy’n glwm â cholli rhywun sy’n annwyl, ceir cyfle i archwilio galar a’i effaith yn llawn ar y prif gymeriad a’r teulu. Dyma nofel sydd, o ganlyniad, yn gorlifo â chariad a chynhesrwydd. Llwyddodd y gyfrol hon i’m hudo'n llwyr a hynny drwy ei disgrifiadau tyner a theimladwy a’i hysgrifennu hardd a chwareus. Mae Gwirionedd yn archwiliad llawn dyfnder o alar a cholled ond yn fwy na hynny, yn ddathliad addfwyn a llon o’r cariad sy’n clymu teulu ynghyd.

View full details