Cyngor Llyfrau Cymru
Gwenwyn a Gwasgod Felen — ... a Gwasgod Felen
Gwenwyn a Gwasgod Felen — ... a Gwasgod Felen
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae ffermwyr Llanuwchllyn 1860 yn dlawd, ac mae'n rhaid iddyn nhw dalu'r Degwm. Dyma nofel am bobl gyffredin yn codi llais.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845276508
- Gwales Code
- gwales.com.9781845276508
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gwenwyn a Gwasgod Felen — ... a Gwasgod Felen
- Sub Title
- ... a Gwasgod Felen
- Awdur / Author
- Llewelyn, Haf
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-10-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 136 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 10 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C020637
Cynnwys / Table of Contents
Pan adawyd Daniel a'i chwaer Dorothy yn amddifad, roedd pethau'n edrych yn dywyll iawn i'r ddau. Y wyrcws, oedd yr unig ateb i dlodion – lle ofnadwy, lle'r oedd tlodion yr ardal yn gorfod gweithio'n torri cerrrig am eu bwyd. Wedyn mae Daniel yn cael gwaith efo Mr Thomas y fferyllydd yn siop yr Apothecari, ac mae wrth ei fodd. Ond ynghanol y tabledi, y ffisig a'r jariau o bob lliw a llun, ceir un botel fechan, wenwynig y mae'i chynnwys yn bygwth dyfodol Daniel ...
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Dyma nofel wedi ei gosod mewn cyfnod cythryblus yn hanes Cymru – cyfnod o annhegwch cymdeithasol a phŵer enfawr y meistri tir dros eu tenantiaid. Roedd yn gyfnod hefyd pan adawodd miloedd o Gymry eu gwlad i chwilio am fywyd tecach a rhyddid barn.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Gwenwyn a Gwasgod Felen gan Haf Llewelyn yn nofel hanesyddol benigamp. Mae’r stori wedi ei lleoli yn Llanuwchllyn yn yr 1860au. Mae’n dilyn brawd a chwaer sydd wedi’u gadael yn amddifad, Daniel a Dorothy, ac yn eu dilyn wrth iddynt frwydro i oroesi, a byw bywyd o ddydd i ddydd. O’r diwedd mae pethau yn dechrau gwella i’r ddau wrth i Dorothy gael swydd fel morwyn a Daniel yn cael gwaith yn apothecari Mr Thomas. Ond wedi ei guddio ymysg y poteli a jariau diniwed mae potel fach o wenwyn (sef y 'gwenwyn' sydd yn nheitl y llyfr, ond rhaid i chi ddarllen y nofel gyffrous i weld beth yw ystyr y wasgod felen!). Yn y cyfamser mae Michael D. Jones wedi dechrau ar ei ymgyrch i dorri’r bobl yn rhydd o reolaeth annheg y meistri tir creulon a barus, drwy berswadio miloedd o Gymry i sefydlu gwladfa newydd ym Mhatagonia, De America. Mi wnes i ddysgu llawer am hanes y cyfnod yn y nofel hon, a deall yn well beth oedd wedi sbarduno pobl i ymfudo. Ond roedd dysgu am yr hanes go iawn yn gefndir i stori gyffrous, llawn dirgelion difyr, a stori wnaeth fy nghadw ar flaen fy sedd. Mae’r nofel yn addas i bobl ifanc o ryw 9+ (mae sôn ynddi am farwolaeth a llofruddio) ac yn anrheg wych. Er nad yw’r clawr yn cynnwys llawer o liw, mae’n addas ar gyfer y stori arbennig hon.
Share
