Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Gwen John - Detholiad

Gwen John - Detholiad

Regular price £4.50 GBP
Regular price Sale price £4.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol maint poced yn cyflwyno detholiad o dros 30 o ddarluniau Gwen John (1876-1939) a dau bortread ohoni gan ei brawd, Augustus John (1878-1961), ynghyd â nodiadau ar y lluniau a chrynodeb bywgraffyddol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A pocket-size volume presenting a selection of over 30 paintings by the artist Gwen John (1876-1939) and two portraits of her by her brother, Augustus John (1878-1961), including notes on each drawing and a biographical summary.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780720006063
Gwales Code
gwales.com.9780720006063
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Gwen John - Detholiad
Awdur / Author
McIntyre, Bethan
Current Price ex VAT
£4.50
Current Price inc VAT
£4.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-05-13
Cyhoeddwr / Publisher
Llyfrau Amgueddfa Cymru/National Museum Wales Books
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
56 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Diddordebau, Chwaraeon, Hamdden, Coginio (yn Gymraeg) | EN: Sport, Hobbies, Leisure, Cookery (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Celf a Chynllunio (yn Gymraeg) | EN: Art and Design (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Faint ohonoch tybed sydd wedi clywed am Augustus John neu ei chwaer Gwen John ond eto ddim yn gwybod llawer am eu gwaith? Yn sicr doedd gen i fawr o wybodaeth heblaw bod yna gysylltiad â sir Benfro a Ffrainc a bod y ddau yn artistiaid gwerth eu halen. Erbyn heddiw mae eu gwaith yn fwy poblogaidd nag erioed a da o beth felly yw gweld cyhoeddi'r llyfryn hwn sy’n cyflwyno detholiad o waith un ohonynt, sef Gwen John. Nid llyfr i’r myfyriwr celf sydd am ymchwilio'n fanwl i waith yr artist ydyw, ond llyfr bach sy’n rhoi blas i ni o’r hyn a beintiwyd gan un o arlunwyr mwyaf blaengar yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau’r gyfrol ceir brasolwg ar ei bywyd. Yn ôl rhai roedd ei phlentyndod yn un cymharol anodd – collodd ei mam yn ieuanc a chafodd ei magu gan ei modrybedd nad oedd, yn ôl y sôn, yn garedig wrthi bob amser. Does dim sôn am hynny yng nghyflwyniad y gyfrol, ond cawn wybod pwy oedd y dylanwadau arni a beth oedd prif wrthrychau ei lluniau. Fel y dengys y llyfr roedd tynnu lluniau o fenywod yn bwysig iddi. Peintiodd hefyd nifer o luniau o’i hystafell gan gynnwys ei chathod a oedd mor annwyl iddi. Ymhlith y lluniau a geir yn y gyfrol mae un o’i chwaer iau, Winifred, nifer o luniau o gathod, dau blentyn amddifad, llun pen Rodin a fu am gyfnod yn gariad i Gwen John, a lluniau sy'n gysylltiedig â Phabyddiaeth. Am un cyfnod yn ei bywyd, daeth Gwen o dan ddylanwadu y ffydd Gatholig. Cynhwysir hefyd ddau lun o Gwen a beintiwyd gan ei brawd Augustus. Mae nifer o’r lluniau yma i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol a digon difyr yw’r cofnodion sy’n egluro pa ddeunyddiau a ddefnyddiwyd ganddi wrth eu peintio a hefyd pryd y prynwyd y llun gan yr Amgueddfa. Ceir paragraff wrth bob llun yn egluro'i gefndir ac o ddarllen y cyfan mae modd cael darlun gweddol gyflawn o fywyd yr arlunwraig. Os ydych am wybod mwy a chael gwell golwg ar y lluniau – yr ateb yw mynd i’r Amgueddfa yng Nghaerdydd. Gobeithiaf weld rhagor o lyfrau yn y gyfres hon yn fuan.

View full details