Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Gwag y Nos

Gwag y Nos

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

‘Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.' Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti'n dlawd mae'n uffern. Nofel ddirgelwch wedi'i gosod mewn wyrcws yn Oes Fictoria. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2022.

Disgrifiad Saesneg / English Description

It's 1867 and life is hard, and if you're poor, life is hell. An adventure novel set in a Victorian workhouse. Tir na n-Og Award winner 2022.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781913245368
Gwales Code
gwales.com.9781913245368
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Gwag y Nos
Awdur / Author
Roberts, Sioned Wyn
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-03-30
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
192 pages
Size
130 × 198 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned fod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Ers i Magi Bryn Melys symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau'n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi. Mae'n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o'i le yn y Wyrcws, ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi'r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos? Dyma ei stori hi ... Nofel antur Fictoraidd, llawn dirgel a plot sy’n parhau i droelli hyd at y diwedd! "Mae'r nofel yma yn hollol wahanol i bob llyfr arall dwi wedi ei ddarllen. Mae'n fy atgoffa o Te yn y Grug gan Kate Roberts am fod y stori ddim ofn deud pethau anodd am be oedd yn digwydd i blant ers talwm. O'n i'n lecio cael gwybod be sy'n digwydd ym mhen Magi, a roedd ei hatgofion am ei mam yn gwneud imi deimlo drosti. Roeddwn i'n teimlo bechod dros Magi am bod ei mam wedi marw – ac am fod pawb mor gas efo hi. O'n i'n lecio'r darn lle roedd Robat Wyllt yn rhedeg ar ol Elsi a Magi yn Gwag y Nos efo'i ffon ac yn ymosod ar Elsi nes tynnu gwaed. Roedd y darn yna yn gyffrous ac annisgwyl. Mi faswn i'n awgrymu y llyfr yma i unrhyw un sy'n lecio straeon am fywyd caled, ers talwm. Weithiau ro’n i isio crio am fod pawb mor gas efo Magi ond nes i chwerthin lot hefyd, yn enwedig pan oedd Elsi a Magi yn bod mor ddireidus. O'dd y llyfr yma yn briliant." Cain, 9 oed "Llyfr cyffrous a gafaelgar tu hwnt." Lleucu, 12 oed "Dechrau bywiog yn rhoi blas o'r stori yn dangos y lleoliad a'r cyfnod. Disgrifiadau sy'n rhoi lluniau yn fy mhen, gyda cymariaethau a rhestrau sy'n gwneud i mi fod eisiau gwybod mwy. Stori gyffrous sy'n dysgu am fywyd pobl ers talwm, y cyfoethog a'r tlawd." Deio, 10 oed

View full details