Cyngor Llyfrau Cymru
Gobaith Mawr y Ganrif
Gobaith Mawr y Ganrif
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Ar noson seremoni BAFTA, mae Menna Beynon, Pennaeth Corff yr Iaith Gymraeg, yn cael ei bygwth â blacmel gan gyn-gariad iddi o ddyddiau Coleg Aberystwyth. Nofel ysgafn ond llawn tensiwn sy'n symud rhwng y Gymru gorfforaethol a Chymru fwy gwerinol Pentawe gan gynnig darlun ehangach o fywyd crachach Cymraeg Caerdydd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
At the BAFTA ceremony, Menna Beynon, Head of the Welsh Language Body is threatened with blackmail by an ex-lover from her college days at Aberystwyth. A light-hearted yet tense novel that moves from corporate Welsh life to everyday life in Pentawe, providing a broader portrait of the lives of Cardiff's Welsh-speaking elite.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800994485
- Gwales Code
- gwales.com.9781800994485
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Gobaith Mawr y Ganrif
- Awdur / Author
- Gruffudd, Robat
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-03-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 256 pages
- Size
- 130 × 195 mm; depth 22 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Cafodd Robat Gruffudd ei eni yn y Rhondda a'i fagu yn Abertawe. Aeth i'r Brifysgol ym Mangor ble sefydlodd y cylchgrawn Lol gyda Penri Jones. Yn 1966 sefydlodd Y Lolfa. Mae wedi ennill Gwobr Gofa Daniel Owen ddwywaith gyda ei nofel Y Llosgi (1986) ac Afallon (2002). Ymysg ei gyhoeddiadau eraill mae Crac Cymraeg, Carnifal, A Gymri di Gymru? a Lolian.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Pobl Caerdydd yw’r rhai y down i’w hadnabod yn y nofel hon, rhai ohonynt yn ‘hufen y ddinas’, a 2008 yw’r flwyddyn. Fe sonnir am ambell swm go fawr o arian, gan ein procio ninnau i feddwl faint yn fwy fyddai’r symiau erbyn heddiw. Mae’r prif gymeriad, Menna Beynon, yn Brif Weithredwr (-wr, cofier) ‘Corff yr Iaith Gymraeg’; cawn ddehongli’r enw fel y mynnom, fel gyda ‘Pwyllgor Gorffen yr Iaith Gymraeg’ a grybwyllir unwaith neu ddwy yng nghwrs yr hanes. Diolch byth am hynny, mae gan Menna ei phwll nofio preifat lle gall ymlacio yng nghanol gofalon pwysfawr ei swydd. Yn yr hanner tudalen cyntaf darllenwn fel y bu raid iddi gyfarfod yn y bore â dau gynrychiolydd o Wlad y Basg ac yna mynd â hwy i ginio mewn bwyty Eidalaidd, a heno mae wedi addo mynd i seremoni’r BAFTAS yn Neuadd Dewi Sant i gefnogi Haf, ei ffrind o actores sydd wedi ennill un o’r prif wobrau. A thros y dyddiau nesaf, cyfrifoldeb aruthrol arall fydd dewis logo newydd fel rhan o ailfrandio’r Corff. Teimlaf am y nofel hon, fel am nofel dditectif, na ddylai adolygiad ddatgelu gormod o’r plot. Cawn syndod newydd o hyd nes ein gyrru i ofyn beth yw cymhellion y cymeriadau, a thrwy hynny ein cadw i droi tudalennau. Ond gan ei fod yn y broliant ar gefn y llyfr, cawn ddweud beth yw’r taranfollt sy’n taro Menna cyn diwedd noson y BAFTAS. Daw llais o’r gorffennol, llais hen gariad coleg iddi, gan ei blacmelio am swm o arian. ‘Roedd Menna wedi tynnu allan o brotest a laniodd Trystan yng ngharchar, a thra bu ef yn straffaglu byw, cododd Menna i res o swyddi bras yn y brifddinas ...’ Defnydd y nofel yw ymateb Menna i’r bygythiad hwn, a hefyd ymateb y ddau ddyn agosaf ati: Richie ei gŵr, sy’n ‘un o gyfarwyddwyr cwmni arwerthu Mansel Allen ar Churchill Way’; a Hywel, y bu iddi berthynas ag ef rai blynyddoedd yn ôl, ac nid perthynas ddibwys chwaith, ‘pennaeth cwmni cyfreithiol Cymraeg amlycaf Caerdydd’ – ac yntau bellach yn briod â Haf. O gwmpas Menna try amrywiaeth bellach o gydnabod personol a phroffesiynol, mewn bywyd sy’n gofyn am lawer o wledda allan ac mewn byd lle y llifa aberoedd o wahanol ddiodydd gan achosi ambell dro anffodus. Gwahanol yw byd Trystan. Ond a oes ganddo achos o gwbl? Achos cyfreithlon – nac oes, wrth gwrs. Ond achos moesol? Gallwn ddeall pam mae ef yn cnoi wrth feddwl am yr yrfa a gafodd ei gyn-gariad, gyrfa o bowlio’n ddidrafferth drwy’r drysau troi-rownd o un cwango i’r nesaf. Ond gofynnwn a yw ef wedi ei gosbi gymaint ag y mae’n ei feddwl am iddo unwaith ‘weithredu’ dros yr iaith? A oedd raid iddo fynd i Loegr yn syth ar ôl ei ryddhau o’r carchar? ‘Falle nad oedd raid, ond fan’na oedd y swyddi.’ Cafodd waith yng Nghymru drwy’r blynyddoedd wedyn, a hwnnw’n waith i’r llywodraeth. Wedi'r cyfan, 'Dydi perthyn i Gymdeithas yr Iaith erioed wedi bod yn rhwystr i ddyrchafiad,’ meddai Wyn Ellis-Evans, Cadeirydd ‘Y Corff’. Ie, dyn bydol-ddoeth a diddyfnder sy’n ei ddweud, ond mae’n debyg ei fod yn wir. A beth yn union sydd gan Trystan i’w ddatgelu am Menna? Amryw bethau bach sydd â’r effaith o’i hanesmwytho. Ond a all mewn unrhyw fodd fod yn gwybod y peth mawr am ei pherthynas hi â Hywel? Pam yr ymatebodd Hywel fel y gwnaeth? Mae peidio â dweud gormod yn allweddol yn y nofel hon, ac yn rhan o’i llwyddiant. Gwir hynny hefyd am y dychan sy’n rhedeg drwyddi. Ceir rhai yn ein cynghori y dylai dychan fod yn ‘gynnil’ neu’n ‘ysgafn’ bob amser; dyweder hynny wrth Aristoffanes, Iwfenal, Molière, Ellis Wynne, Twm o’r Nant ... Ond weithiau gall y dychanwr yn bwrpasol atal ei law, fel y gwneir yma. Rydym yn deall yn ddigon buan mai dyn llyfn, llwyddiannus yw Hywel ac mai cymeriad sinigaidd, adweithiol yw Richie, ac nid oes raid dyrnu ar y ddealltwriaeth sydd rhyngddynt hwy, a chysylltiadau eraill hefyd, ynghylch y datblygiad tai mawr yng Nghasnewydd. ‘The stench of homely corruption,’ chwedl Harri Webb ers talwm. Mae ergyd ddychanol fawr y nofel yn yr hyn nas dywedir, yn y cwestiwn nas gofynnir. Digwydd y stori dros gyfnod o ryw dri mis. Erbyn diwedd y cyfnod, a oes unrhyw beth wedi ei wneud i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg a’i rhagolygon? Go brin. Nid oes hyd yn oed sôn fod y logo newydd wedi ei ddewis! Rhyngddynt, mae’n beryg fod Richie a Menna wedi taro ar wirionedd. Meddai ef, ‘Chwara’r system ydan ni i gyd yntê, does dim mwy i’r peth na hynny.’ Gofyn hithau ‘Neu ai’r system sy’n ein chware ni?’ Dyma inni unwaith yn rhagor y cyfuniad a welwn yn holl nofelau Robat Gruffudd, sef dealltwriaeth o’r sgôr wleidyddol a diwylliannol yng Nghymru ynghyd â stori sy’n cydio’n syth ac yn gyrru ymlaen â sicrwydd. Nid ydym byth yn gwybod beth a wneir nesaf gan yr un o’r pedwar prif gymeriad, ond pan ddaw mae’n argyhoeddi. Mae yma naws y foment, un o brif hanfodion ffuglen, ac mae'r ddialog yn fyw mewn sawl tafodiaith. A dyma gwestiwn mawr i gloi: Beth sy’n egluro bywiogrwydd ffuglen Gymraeg heddiw, a chymaint o bethau eraill yn mynd am i lawr? Dafydd Glyn Jones https://glynadda.wordpress.com
Share
