Cyngor Llyfrau Cymru
Genod Gwych a Merched Medrus
Genod Gwych a Merched Medrus
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr am 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru sy'n arbenigwyr yn eu meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o Gymru. Ceir hanesion am: Amy Dillwyn, Betsi Cadwaladr, Kate Bosse-Griffiths, Hayley Gomez, Jade Jones, Frances Hoggan, Mair Russell-Jones, Eileen Beasley, Betty Campbell, Laura Ashley, Angharad Tomos, Tori James, Gwendoline a Margaret Davies. Llyfr deniadol, llawn hwyl.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A book about 12 inspiring Welsh women from all walks of life and from all parts of Wales: Amy Dillwyn, Betsi Cadwaladr, Kate Bosse- Griffiths, Hayley Gomez, Jade Jones, Frances Hoggan, Mair Russell- Jones, Eileen Beasley, Betty Campbell, Laura Ashley, Angharad Tomo s, Tori James, Gwendoline a Margaret Davies. A visually appealing, fun-filled book, with puzzles and activities.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784617196
- Gwales Code
- gwales.com.9781784617196
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Genod Gwych a Merched Medrus
- Awdur / Author
- Jones-Jackson, Medi
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-10-12
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Williams, Dyfan; Gwyn, Telor
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 48 pages
- Size
- 250 × 250 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hanes ac Enwogion (yn Gymraeg) | EN: History and Famous People (in Welsh)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma lyfr fydd at ddant pob merch fach gyda breuddwydion mawr! Casgliad o 12 o ferched o Gymru sydd yma, gan gynnwys Betsi Cadwaladr, Laura Ashley a Jade Jones, ac mae’r awdur wedi mynd ati i wneud yn siŵr bod rhywbeth yma at ddant pawb, boed hynny’n fathemateg, chwaraeon, ysgrifennu neu hyd yn oed astroffiseg! Ar dudalen ddwbl cawn hanes pob unigolyn, yn ogystal â dyfyniadau, ffeithiau ac ystadegau hwyliog. Mae’r straeon ysgafn yn cyflwyno sut wnaeth pob un ohonynt lwyddo i gyrraedd y brig, ac mae’r wybodaeth wedi ei chyflwyno mewn ffordd apelgar tu hwnt, gyda nifer o ffeithiau hurt bost sy’n mynd i aros yng nghof y darllenydd. Ar ddiwedd y llyfr, mae nifer o dasgau i annog y darllenwyr i ddatrys posau, bod yn greadigol a gosod heriau i’w hunain er mwyn iddyn nhw wireddu eu breuddwydion hefyd. Mae dwy dudalen yn arbennig i nodi sut rwyt ti am newid y byd yn y dyfodol – ffordd hyfryd i drafod amcanion a gobeithion gyda darllenwyr ifanc. Rhaid canmol y darlunydd Telor Gwyn am y lluniau sy’n dod â’r hanesion yn fyw, a’r dylunydd Dyfan Williams am y dyluniad bywiog a lliwgar. Mae pob tudalen yn llawn bywyd ac yn sicr o dynnu sylw, ac mae’r clawr trawiadol yn rhoi awgrym o’r amrywiaeth a’r cyffro rhwng y cloriau. Mae’r tudalennau blaen a chefn yn cynnwys llu o enwau merched ifanc Cymru – y genhedlaeth newydd o genod gwych a merched medrus – ac rwy’n edrych ymlaen yn barod i ddarllen eu hanesion nhw'n fuan, gan obeithio y bydd y llyfr hwn yn tanio a’u hysbrydoli. Mae’r gyfrol yn anrheg berffaith i blentyn ifanc, ac mae’n siŵr o fod yn ffefryn fydd yn cael ei dynnu o’r silff yn gyson.
Share
