Cyngor Llyfrau Cymru
Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear
Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Prif amcan y geiriadur safonol, dwy ran hwn yw diffinio dros 1,800 o dermau Cymraeg sy'n ymwneud â daeareg yn benodol a'r gwyddorau daear yn gyffredinol, ac yn ail, gynnig mynegai Saesneg - Cymraeg cyfatebol. Er bod geiriaduron daeareg ar gael yn Saesneg megis Challinor's Dictionary of Geology ac Oxford Dictionary of Geology & Earth Sciences , dyma'r unig gyfrol yn Gymraeg.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The main objective of this standard, two-part dictionary is to present and define terms relating to geology in particular and earth sciences in general. Although there are many geology dictionaries in English, such as Challinor's Dictionary of Geology and Oxford Dictionary of Geology & Earth Sciences , this is the only dictionary in the Welsh language.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781800991491
- Gwales Code
- gwales.com.9781800991491
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear
- Awdur / Author
- Gruffydd, Dyfed Elis
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-12-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 216 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) gweler hefyd Dysgwyr (yn Gymraeg) | EN: Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh) see also Welsh Learners (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Geiriaduron - Cymraeg (yn Gymraeg) | EN: Dictionaries - Welsh (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Gwyddonydd Daear yw Dyfed Elis-Gruffydd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain; gan astudio Daeareg a Geomorffoleg Testun, traethawd ei ddoethuriaeth oedd hanes rhewlifol Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr. Bu’n ddarlithydd yn Adran Ddaeareg a Daearyddiaeth Polytechnig Dinas Llundain ac yn ei dro bu’n Bennaeth Adran Cyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn Olygydd a Chyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer, ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Am chwe blynedd bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Ei ddiléit yw crwydro Cymru, arwain teithiau cerdded, annerch cymdeithasau Cymraeg a rhodio tirweddau rhewlifol a folcanig gogledd-orllewin Ewrop, a daw hynny i’r amlwg wrth ddarllen 100 o Olygfeydd Hynod Cymru (Y Lolfa, 2014), a gyrhaedodd restr fer Llyfr y Flwyddyn, The Rocks of Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2019) a Y Preselau - Gwlad Hud a Lledrith (Gomer, 2017). Mae enw Dyfed Elis-Gruffydd hefyd i’w weld ymhlith yr Ymgynghorwyr Golygyddol, ynghyd â’r Cyfranwyr a’r Cyfieithiwyr a gyfrannodd at baratoi Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008) a Geiriadur Cymraeg Gomer (Gomer, 2016).
Share
