Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ffylantin-Tw!

Ffylantin-Tw!

Regular price £19.99 GBP
Regular price Sale price £19.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad newydd cyffrous o ganeuon gwerin traddodiadol, i gyd wedi'u dethol o ffrwyth ymchwil Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Dyma brosiect arbennig i ddathlu cyfraniad Merêd a Phyllis i fyd y gân werin yng Nghymru. Cyhoeddir y caneuon mewn llyfr ac ar gryno-ddisg fel teyrnged i'r ddau gan brif artistiaid canu gwerin heddiw, gan droi hen berlau yn ganu byw unwaith eto.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An exciting new collection of traditional Welsh folk-songs, all selected from the research of Meredydd Evans and Phyllis Kinney. They are presented in book and CD format as a tribute to them both from today's leading Welsh folk artists, turning pearls from the past into living music once more.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780907551232
Gwales Code
gwales.com.9780907551232
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ffylantin-Tw!
Awdur / Author
Sain, Cwmni Recordiau
Current Price ex VAT
£19.99
Current Price inc VAT
£19.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-08-01
Cyhoeddwr / Publisher
Cwmni Recordiau Sain
Editor
Bowen, Robin Huw
Media Type (EN)
Other product form
Media Type (CY)
Fformat cynnyrch arall
Pages
76 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh; English
Categori / Category
CY: Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Music and Songs (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Caneuon Gwerin (yn Gymraeg) | EN: Folk Songs (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

‘Ffylantin-tw!’ - casgliad newydd cyffrous o ganeuon gwerin traddodiadol, i gyd wedi’u dethol o ffrwyth ymchwil Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Dyma brosiect arbennig i ddathlu cyfraniad Merêd a Phyllis i fyd y gân werin yng Nghymru. Cyhoeddir y caneuon (y mwyafrif ohonynt am y tro cyntaf) nid yn unig mewn print, ond hefyd ar gryno-ddisg fel teyrnged i’r ddau gan brif artistiaid canu gwerin heddiw, gan droi hen berlau o’r gorffennol yn ganu byw unwaith eto, yn unol â gweledigaeth Merêd a Phyllis eu hunain.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Un o’r pethau cyntaf y mae rhywun yn sylwi arno wrth gael cipolwg trwy’r llyfr trawiadol hwn yw’r amrywiaeth eang o ganeuon: o rai tymhorol a rhai serch i ganeuon hwyliog, ysgafn eu naws fel ‘Cân Twm y Sane’. Mae hyn yn adlewyrchu diddordeb ac yn deyrnged i waith y ddau sy’n cael eu hanrhydeddu yn y gyfrol hon. Mae’r trefniannau’n amrywiol hefyd: ambell un i driawd, rhai ar gyfer unawdwyr, a thrac 11, sef ‘Gwên Dando’ mewn dull o ganu penillion o’r 18fed ganrif, sy’n wahanol iawn i gerdd dant heddiw. Er bod y trefniannau wedi'u cofnodi’n glir, y CD sy’n dod â’r caneuon yn wirioneddol fyw, a bydd o gymorth mawr i unrhyw un sydd am berfformio, dehongli neu ddeall y gerddoriaeth. Wrth edrych trwy’r gyfrol, mae rhywun yn gweld ambell beth sy’n ymddangos yn gyfarwydd ar yr olwg gyntaf, ond sy’n dra gwahanol wrth edrych yn fanylach. Mae’r gân ‘Oes Gafr Eto’ yn debyg iawn i’r gân gyfarwydd ‘Cyfri’r Geifr’ o ran geiriau, ond bod yr alaw yn hollol wahanol, ac mae ‘Moel Emoel’ yn cynnwys geiriau hwyliog (ac ychydig llai parchus na’r rhai cyfarwydd) ar yr alaw enwog ‘Merch y Melinydd’. Yn ogystal, mae ambell gân yn perthyn i ddefodau cyfarwydd fel y Fari Lwyd a’r anterliwt, ac maent yn llawn hiwmor a hwyl. Mae’r CD yn dangos doniau nifer o gerddorion gwerin Cymru, yn gantorion ac yn offerynwyr, ac er ei bod ynghlwm â’r llyfr ni ddylid ei thrin fel adnodd i ddysgu’r caneuon yn unig. Mae’r trefniannau offerynnol godidog ar gyfer rhai o’r alawon arafach megis ‘Yr Wylan Gefnddu’ a ‘Hen Erddigan Morgannwg’ yn wych, yn gosod y naws ac yn llwyddo i gyfleu’r geiriau trwy sain yr alawon. Yn y bôn, credaf fod gan y llyfr hwn rywbeth i’w gynnig i bawb, yn gantorion gwerin profiadol, dechreuwyr pur neu’r rhai sy’n ymddiddori yn y maes ac eisiau clywed y gerddoriaeth. Mae’r nodiadau eang am y caneuon yn gwbl ddwyieithog ac yn cyflwyno hanes y caneuon yn syml a chryno gan gyfeirio’r darllenwyr at fwy o wybodaeth heb orlwytho’r sawl sydd eisiau’r gerddoriaeth er ei mwyn ei hun. Y prif beth y gall unrhyw un ei wneud nawr i anrhydeddu Merêd, Phyllis a’u gweledigaeth yn canu’r caneuon gwych, anarferol ac amrywiol hyn, eu cyflwyno i eraill ac yn bennaf oll eu mwynhau. Joiwch y canu!

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

‘Ffylantin-tw!’ - an exciting new collection of traditional Welsh folk-songs, all selected from the research of Meredydd Evans and Phyllis Kinney. They are presented here not just as notes on a page, but also on CD as a tribute to them both from today’s leading Welsh folk artists, turning pearls from the past into living music once more, in accordance with Phyllis and Merêd’s own vision.

View full details