Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Ewyllysiau Cymraeg - Pennod Goll yn Hanes yr Iaith — Pennod Goll yn Hanes yr Iaith

Ewyllysiau Cymraeg - Pennod Goll yn Hanes yr Iaith — Pennod Goll yn Hanes yr Iaith

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyn y 1990au doedd neb yn deall bod dros fil o ddogfennau cyfreithiol Cymraeg wedi'u harchifo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r dogfennau profeb yma yn cynnwys ewyllysiau, rhestri eiddo, llythyrau a dogfennau eraill sy'n dangos defnydd effeithiol ac amrywiol o'r iaith. Drwy ddarllen Ewyllysiau Cymraeg , cawn wrando ar ddymuniadau a geiriau olaf Cymry o 1560 hyd 1858.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Before 1990 no-one knew that over a thousand Welsh legal documents were filed at the Welsh National Library. These probate documents comprise wills, estate lists, letters and other documents which reveal effective and diverse use of the Welsh language. In this book we can listen to the last words and wishes of Welsh men and women from 1560 until 1858.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781800990982
Gwales Code
gwales.com.9781800990982
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Ewyllysiau Cymraeg - Pennod Goll yn Hanes yr Iaith — Pennod Goll yn Hanes yr Iaith
Sub Title
Pennod Goll yn Hanes yr Iaith
Awdur / Author
Morgan, Gerald
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2022-03-21
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
144 pages
Size
141 × 215 mm; depth 15 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: 1536-1800 (yn Gymraeg) | EN: 1536-1800 (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Athro a hanesydd yw Gerald Morgan. Bu'n dysgu Saesneg yn Ysgol Maes Garmon ac yn Ysgol Gyfun Aberteifi, cyn gweithio fel prifathro Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth. Mae Gerald Morgan wedi cyhoeddi nifer helaeth o lyfrau ac erthyglau ar amryw bynciau. Mae'n byw yn Aberystwyth.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Fel un a dreuliodd ei yrfa’n archifydd proffesiynol yn y Llyfrgell Genedlaethol, gallaf dystio mai’r dosbarth pwysicaf o ddogfennau y bu mwy o ddefnydd ohonynt nag unrhyw archif arall o gofnodion gwreiddiol oedd dogfennau profeb, sef ewyllysiau gwreiddiol a llythyrau gweinyddu ystadau mewn achosion pan nad oedd ewyllys ar gael. I raddau helaeth, haneswyr teulu ac ymchwilwyr a oedd yn awyddus i olrhain hanes tai neu eiddo arall oedd yn eu harchwilio gan amlaf. Ond maent yn ogystal o ddiddordeb mawr i haneswyr cymdeithasol ac economaidd, yn fwyaf arbennig felly’r rhestri eiddo manwl, oedd weithiau ynghlwm wrth yr ewyllysiau, ac weithiau ceir llythyrau difyr yno’n ogystal. Cyn 1858 roedd yn rhaid profi pob ewyllys mewn llys eglwysig, ac yn ystod y flwyddyn honno’n unig y cyflwynwyd y system bresennol o brofeb sifil sydd yn parhau mewn grym hyd at heddiw. Yn weddol hwyr yn hanes y Llyfrgell Genedlaethol, sef yn ystod y 1990au, yr aethpwyd ati o ddifrif i lunio rhestri o’r dogfennau arbennig hyn, ac o hynny ymlaen gwelwyd cynnydd sylweddol yn y defnydd a wnaed ohonynt gan ymchwilwyr. Un o’r ymchwilwyr hyn yw un o ddarllenwyr selocaf y Llyfrgell, sef Mr Gerald Morgan, hanesydd prysur a hynod gynhyrchiol. Gwelwyd cyhoeddi toreth o gyfrolau pwysig ac erthyglau ysgolheigaidd ganddo. Pleser arbennig yw croesawu’r ddiweddaraf ohonynt ar yr ewyllysiau o brofwyd yng Nghymru cyn 1858, maes anghyffredin o ddifyr y bu’r awdur yn ei drwytho ei hun ynddo ers blynyddoedd lawer. O ganlyniad mae Gerald Morgan mewn sefyllfa digymar, i ddadansoddi cyd-destun hanesyddol y dogfennau hyn. Rhennir y testun yn ddwy ar bymtheg o benodau, pob un yn gymharol fer a hawdd ei darllen. Mae’r gyntaf, ‘Tameidiau i Aros Pryd’, yn edrych ar nifer fechan o’r ewyllysiau mwyaf diddorol y daeth yr awdur ar eu traws wrth ymchwilio, a’r rhain naill ai’n gyfangwbl neu’n rhannol wedi eu llunio yn Gymraeg. Yna eir ymlaen i drafod nifer o themâu difyr ac arwyddocaol yn ein hanes rhwng 1560 ac 1858. Rhyfeddol yw gweld cymaint o ddefnydd o’r Gymraeg a wnaed yn y dogfennau hyn – ffaith a ddaeth yn dipyn o sioc i’r awdur yn wreiddiol gan iddo dybio, fel llawer un arall, i Ddeddfau Uno 1536 ac 1543 ddileu’r defnydd o’r iaith mewn dogfennau swyddogol. Yr ewyllys gyntaf a luniwyd yn Gymraeg oedd un Hugh ap Siôn Goch, gŵr a hanai o blwyf Aberriw nid nepell o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn 1563. Yna gwelwyd bwlch o bron i ddeugain mlynedd cyn dod o hyd i ewyllys arall yn Gymraeg, sef ewyllys Owain Griffith o blwyf Penmorfa, Eifionydd, yn 1600. Trafodir ewyllysiau rhai o’r merched, a chynigia Gerald Morgan ddadansoddiad o’r math o ddynion a aeth ati i lunio ewyllysiau yn Gymraeg, sef gwŷr dosbarth canol, cysurus eu byd gan amlaf. Ni welwyd yr un offeiriad yn eu mysg, nac aelodau o’r dosbarth bonedd cyfoethog. Ond roedd cynrychiolaeth o ddosbarth y mân foneddigion yn eu plith. Y pwnc nesaf sy’n derbyn sylw yw enghreifftiau o dafodiaith gogledd Cymru, ac yna’r de, o fewn yr ewyllysiau hyn. Yna eir ymlaen i edrych ar rai o’r trafferthion a ddigwyddodd o fewn ambell deulu gwaed o ganlyniad i gynnwys y dogfennau hyn, yn enwedig pan nad oedd disgynyddion, sefyllfa nad yw wedi newid rhyw lawer ers hynny. Gwneir ymgais lew yma i geisio deall teithi meddwl rhai o’r unigolion dan sylw. Ymhlith y themâu eraill a drafodir mor feistrolgar yma mae'r anawsterau a godai adeg ceisio profi ewyllys mewn llys eglwysig, y cyfrifon a ddaeth i fodolaeth yn sgil claddu’r ymadawedig, a rhai o’r cyfrolau print a nodwyd gan ddynion mwy academaidd eu hanian. Roedd ambell ŵr yn ddigon hyddysg i lunio’i ewyllys yn ei law ei hun, ac i wneud hynny hefyd ar ran eraill o fewn ei ardal neu ei blwyf. Ond teg nodi mai’r offeiriad lleol oedd yn mynd ati i lunio’r ewyllysiau fel arfer, ac weithiau’n derbyn tâl ychwanegol am ei gymwynas. Yna pwysleisir gwerth y rhestri eiddo i oleuo bywydau’r werin yn ystod y canrifoedd hyn. I gloi’r astudiaeth, darperir ar ein cyfer rai ystadegau a luniwyd gan Gerald Morgan wrth iddo ymchwilio, a rhestr o rai o’r termau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr ewyllysiau cynnar hyn, ond sydd yn llai cyfarwydd i’n hoes ninnau heddiw. Ceir llyfryddiaeth fer i orffen yr astudiaeth, a rhyfeddol yw sylweddoli cyn lleied o erthyglau academaidd a gyhoeddwyd yn y maes pwysig hwn hyd yma. Bu Gerald Morgan yn hynod o lwyddiannus yn ei ymgais i lenwi’r bwlch. Hyfryd gweld y cyflwynir y gyfrol i ddau hanesydd cymdeithasol a wnaeth gyfraniad aruthrol yn yr un maes, sef y Dr Dafydd Wyn William, Bodedern, a’r diweddar Dr Evan James, Penrhyncoch, dau arall o selogion y Llyfrgell Genedlaethol dros gyfnod o flynyddoedd meithion.

View full details