Cyngor Llyfrau Cymru
Eryr, Yr
Eryr, Yr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae corff wedi ei ganfod mewn wal yn y dref a rhywun wedi saethu at long bleser Môr-forwyn y Berig, un o'r busnesau bach yn y dref hunangynhaliol hon. Pan fo nodiadau amwys yn dechrau cyrraedd Goss drwy'r post, mae'r bygythiad yn bersonol. Oes cysylltiad â'r helbulon a fu?
Disgrifiad Saesneg / English Description
A body has been found in a wall in the town and someone has shot at the pleasure boat Môr-forwyn y Berig, one of the town's self-sufficient small businesses. When Goss starts receiving letters in the post, the threat becomes personal. Are there connections with past troubles?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785622465
- Gwales Code
- gwales.com.9781785622465
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Eryr, Yr
- Awdur / Author
- Williams, Gareth W.
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-03-14
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 208 pages
- Size
- 128 × 196 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Nid nofel yn ystyr draddodiadol y gair ydi Yr Eryr . O’r cychwyn cyntaf mae’n atgoffa rhywun o gyfresi teledu swmpus dros ben llestri sydd yn drewi o arian – cyfresi fel Dynasty a Dallas slawer dydd ac ar raddfa lai, Y Teulu ar S4C yn fwy diweddar. Mae’r cynhwysion i gyd yma; miliwnyddion, biliwnyddion, hofrenyddion, cyrff mewn concrid, tai crand, rhai pobl gyffredin, unigolion honco bost, rhyw, plismyn, y gwasanaethau cudd, Gwyddelod â chefndir sinistr, dynes hardd, cwlt crefyddol ac un plismon wedi ymddeol sy’n achub y Berig, sef ‘y nirfana Gymreig ger y lli’, yn ôl y broliant. Mae’r broliant hefyd yn dweud nad oes angen i chi fod wedi darllen helyntion blaenorol y cyn-Arolygydd Arthur Goss yn Y Teyrn ac Y Llinach er mwyn mwynhau’r nofel yma. Ac mae hyn, i raddau helaeth, yn wir. Bygythiad terfysgol ac ariannol i’r Berig ydi craidd y stori. Mae Arthur Goss bellach wedi ymddeol o fod yn uwch-swyddog efo’r heddlu (gyda llaw, fedra i ddim diodde’r term cyn-insbector, ond mater bach ydi hynny). Mae’n byw mewn carafán ac yn hyn o beth yn ein hatgoffa o’r arolygydd yn y gyfres Y Gwyll . Columbo Cymreig sy’n dioddef o anhwylder ar ei frest ydi Arthur. Dyn yn unig a ŵyr sut mae wedi llwyddo i ddenu a chadw Branwen Brân gyfoethog! Beth bynnag, mae’n torri ei gŵys ei hun wrth achub y Berig a’i phobl, diolch i gefnogaeth ymarferol ei gyn-gyd-weithwyr yn yr heddlu a’r Special Ops sy’n parhau i’w addoli a’i helpu i raddau anghredadwy. Mae’r nofel yn hawdd i’w darllen ond yn gwbl arwynebol – ac nid beirniadaeth yw hynny. Mae hyn yn angenrheidiol mewn nofel sydd yn ffantasi llwyr, yn union fel yn y cyfresi teledu. Eto i gyd, mi fuaswn i wedi mwynhau treiddio i’r berthynas ffrwythlon ddatblygodd mor sydyn rhwng Branwen a’i pherthnasau Gwyddelig, a deall yn llawer gwell beth gebyst ddenodd y ffasiwn ddynes at Goss! Nofel i ymlacio wrth ei darllen ydi Yr Eryr . Derbyniwch, da chi, bod y stori yn digwydd ac yn datblygu mewn cymuned nad yw’n bod, i bobl o’r fath nad ydych chi erioed wedi dod ar eu traws, mewn cyfnod pan mae’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn llwyddiannus, yn rhyngwladol ddeniadol ac yn denu buddsoddwyr o ’Merica bell. Derbyniwch y cyfan ar lefel arwynebol – a mwynhewch!
Share
