Cyngor Llyfrau Cymru
Enwau Cymraeg i Blant/Welsh Names for Children
Enwau Cymraeg i Blant/Welsh Names for Children
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dewiswch enw Cymraeg - a dewiswch drwy ddefnyddio'r llyfr hwn! Erbyn hyn, mae'r llyfr hynod boblogaidd hwn wedi'i ymestyn a'i adolygu a'i ailddylunio mewn dau liw, ac yn cynnwys lluniau newydd. ISBN yr argraffiad blaenorol (a gyhoeddwyd yn 2003): 9780862436421.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Give your child a Welsh name with this essential, best-selling list. Now extended, revised and in two colours, with meanings, links, and pictures also included, this book is more useful than ever. ISBN of previous version (published in 2003): 9780862436421.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847712196
- Gwales Code
- gwales.com.9781847712196
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Enwau Cymraeg i Blant/Welsh Names for Children
- Awdur / Author
- Gruffudd, Heini
- Current Price ex VAT
- £5.95
- Current Price inc VAT
- £5.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-06-18
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 192 pages
- Size
- 165 × 115 mm
- Language Code
- Welsh; English
- Categori / Category
- CY: Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) gweler hefyd Dysgwyr (yn Gymraeg) | EN: Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh) see also Welsh Learners (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Iaith - Arall (yn Gymraeg) | EN: Language - Other (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Heini Gruffudd wedi sgwennu nifer o lyfrau i ddysgwyr. Fe'i magwyd yn Abertawe ac yno mae'n byw o hyd. Mae ar flaen y gad yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae'n fwy o hwyl nag erioed i'w defnyddio, naill ai i enwi plentyn neu i fwynhau cwmni arwyr, saint, beirdd a thywysogesau Cymru. ********************************* Enwau Newydd Gwreiddiol ac Anarferol i Blant Mewn Llyfr Newydd Mae’r Lolfa newydd ryddhau argraffiad newydd o’r gyfrol Enwau Cymraeg i Blant . Y llynedd galwodd y wasg ar y cyhoedd i awgrymu enwau newydd i’w cynnwys yn y llyfr newydd i sicrhau fod y gyfrol yn cynnwys unrhyw enwau nad oedd yn yr hen argraffiad. Roedd Y Lolfa hefyd yn awyddus i’r gyfrol adlewyrchu'r tueddiadau diweddaraf wrth enwi plant yn Gymraeg. Cafwyd ymateb brwdfrydig iawn gyda dwsinau o enwau gwreiddiol ac anarferol yn cael eu cynnig. Ymhlith yr enwau newydd i fechgyn mae Eban, Manaw, Cynwyn ac Eirwg, ac i ferched Saran, Nanw, Trofana, Eldeg a Dolgain. Mae’r gyfrol sydd wedi ei ddylunio yn ddeniadol mewn dau liw yn cynnwys yr holl enwau poblogaidd traddodiadol. Dywedodd Heini Gruffudd, awdur y gyfrol, “Mae tua dwy fil o enwau Cymraeg yn y llyfr. Cysylltodd ugeiniau o bobl â’r Lolfa yn sgil ymgyrch gyhoeddusrwydd yn y papurau bro, ar y radio a’r teledu, a’r canlyniad yw casgliad newydd sbon o enwau Cymraeg sy’n cael eu defnyddio heddiw. Ychwanegodd, “Mae hen enwau ein hanes a’n chwedlau yma, ond yma hefyd nifer o enwau poblogaidd rhyngwladol wedi’u Cymreigio. Yma mae Blodeuwedd a Cêt, Dylan a Jac yn hapus yng nghwmni’i gilydd.” Bydd y gyfrol yma yn anhepgorol i ddarpar famau sydd am ddewis enw Cymraeg i’w plentyn yn ogystal â bod yn gyfeirlyfr i bobl sydd am fynd am dro difyr yng nghwmni arwyr, saint, beirdd a chantorion Cymru trwy’r oesoedd.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
It's indispensable for parents but many others will enjoy wandering into this gallery of Welsh heroes, saints, bards and beautiful princesses. ******************************** A New Updated Guide of Trendy Welsh Names for Children Y Lolfa has just released an updated version of one of its best sellers Welsh Names for Children . Last year the publishers called on members of the public to suggest new names for the book in order to ensure that it included names that weren’t featured in the original version. Y Lolfa was keen for the book to reflect the latest trends when it comes to giving Welsh names to children. The response was very enthusiastic with dozens of new and original names being suggested. Amongst the new names for boys are Eban, Manaw, Cynwyn and Eirwg, and for girls Saran, Nanw, Trofana, Eldeg and Dolgain. The new revamped volume contains all the popular traditional names. Heini Gruffudd, the author, said, “There are approximately two thousand Welsh names in the book. Dozens of people contacted Y Lolfa following the publicity in the local newspapers and on the radio and television, and the result is a brand new collection of Welsh names which are used today”. He added, “The book includes the old names from history and folk tales, but there are also several international names which have been adapted. Here Blodeuwedd and Cêt, Dylan and Jac sit very happily together.” The volume will be invaluable to expectant mothers who wish to choose a Welsh name for their child, as well as being a useful reference for those who wish to look up the names of Welsh heroes, Saints, poets and singers through the ages.
Share
