Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dyddiau o Lawen Chwedl

Dyddiau o Lawen Chwedl

Regular price £12.50 GBP
Regular price Sale price £12.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol sy'n dathlu hanner can mlynedd ers sefydlu Cyhoeddiadau Modern Cymreig gan y Parchedig Ddr D. Ben Rees, yn cynnwys ei atgofion am y dechreuadau, ynghyd ag ysgrifau ar agweddau ar y diwydiant cyhoeddi yn Lerpwl a Chymru ganddo ef, J. Gwynfor Jones, Brynley F. Roberts ac E. Wyn James.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A volume celebrating fifty years since the establishing of Cyhoeddiadau Modern Cymreig by the Reverend Dr D. Ben Rees, comprising his reminiscences together with chapters by himself, J. Gwynfor Jones, Brynley F. Roberts and E. Wyn James on aspects of the publishing industry in Liverpool and Wales.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780901332936
Gwales Code
gwales.com.9780901332936
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dyddiau o Lawen Chwedl
Awdur / Author
Ltd., Cyhoeddiadau Modern / Modern Welsh Publications
Current Price ex VAT
£12.50
Current Price inc VAT
£12.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2014-05-15
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Modern / Modern Welsh Publications Ltd.
Editor
Jones, John Gwynfor
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
196 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyfrol i ddathlu hanner can mlwyddiant sefydlu Cyhoeddiadau Modern Cymreig yw hon ar yr edrychiad cyntaf. Ond camgymeriad fyddai ei gweld fel hynny'n unig. Cyfraniad llawer mwy arhosol a chyfoethog y gyfrol yw'r erthyglau swmpus ar weisg ac ar argraffu yng Nghymru ac yn y Gymraeg. Ceir ar un llaw erthygl y golygydd John Gwynfor Jones ar 'argyfwng rhyddiaith brintiedig 1567-1630' ac ar y llaw arall frasolwg Brynley F. Roberts o argraffu a chyhoeddi yng nghymoedd Taf a Chynon, gyda'i bwyslais pennaf ar y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Ychwaneger wedyn bortread D. Ben Rees o Isaac Foulkes (Llyfrbryf) ac erthygl yn llawn portreadau dadlennol a difyr gan E. Wyn James ar gyfrolau Pedr Fardd a'u hargraffwyr. Prin iawn yw'r gofod a roddir i hanes Cyhoeddiadau Modern Cymreig, gydag un bennod fer ar ffurf atgofion D. Ben Rees am y cyfnod cynnar yn Abercynon o 1963 hyd 1968. Dim ond un paragraff geir am y cyfnod ar ôl 1968 yn Lerpwl. Ond ar y llaw arall bydd llyfryddiaeth gyflawn a manwl o gyfrolau'r wasg gan Menna H. Evans yn siŵr o fod yn werthfawr i ymchwilwyr. Un peth sy'n gyffredin i'r pedair pennod yw ymroddiad a brwdfrydedd cynhyrfus awduron, cyhoeddwyr, argraffwyr a noddwyr dros gyhoeddi yn y Gymraeg mewn gwahanol gyfnodau. Dengys John Gwynfor Jones sut yr oedd meddylfryd y Dadeni wedi cydio mewn pobl oedd yn daer am weld y Gymraeg hithau yng nghanol y pair hwnnw. Roeddent yn ysu am weld cyhoeddi cyfrolau gramadeg a diwinyddiaeth oedd yn adlewychu'r cyfoeth llenyddol a feddiennid gan yr iaith. Roedd gwaith pobl fel Ifan Llwyd ap Dafydd, Siôn Dafydd Rhys, Gruffydd Robert a Maurice Kyffin yn allweddol mewn cyfnod cynhyrfus, newydd. Trwy eu cyfraniad yr oedd yn bosibl gweld clasuron fel Llyfr y Tri Aderyn a'r Ffydd Ddi-ffuant ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'r tair prif bennod arall yn mynd â'r darllenydd i gyfnod allweddol arall – cyfnod y cyhoeddi mawr yn y Gymraeg, sef y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mae'r tri awdur yn eu ffyrdd eu hunain yn codi'r llen ar antur ryfeddol y ganrif honno. Roedd Merthyr, Cwm Cynon a Lerpwl yn newid ac yn tyfu'n gyflym ac yr oedd yr argraffwyr a'r cyhoeddwyr yn wŷr busnes craff, yn llenorion cynhyrchiol ac yn gefnogwyr pybyr i'r Gymraeg. Dyma gyfnod cyhoeddi miloedd o gyfrolau a degau o gylchgronau a phapurau, ac y mae'r penodau hyn yn tanio ysfa rhywun i wybod mwy am y cyfnod. Os yw cyfrol dathlu hanner can mlwyddiant gwasg gyfoes yn codi archwaeth i wybod mwy am gyfnod aur argraffu a chyhoeddi yng Nghymru, diau ei bod wedi cyflawni ei thasg bwysicaf.

View full details