Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Dirgel Ddyn

Dirgel Ddyn

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyfrol a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1993, ac a ddisgrifiwyd fel nofel glyfar, ddarllenadwy, sy'n torri cwys newydd yn ein llên. Ailargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 1993.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The volume which was awarded the Prose Medal at the 1993 National Eisteddfod and which was described as a clever, readable novel which breaks new ground in our literature. Reprint; first published in 1993.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862438937
Gwales Code
gwales.com.9780862438937
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Dirgel Ddyn
Awdur / Author
Morgan, Mihangel
Current Price ex VAT
£9.99
Current Price inc VAT
£9.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-02-15
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
152 pages
Size
120 × 185 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mihangel Morgan yw un o awduron mwyaf toreithiog a phoblogaidd Cymru. Bellach, cyhoeddodd bum nofel, chw chyfrol o straeon byrion a phedair cyfrol o gerddi. Brodor o Aberdâr sy'n byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dirgel Ddyn Nofel gyfoes ddinesig yw Dirgel Ddyn gan Mihangel Morgan. Mae'n adrodd y digwyddiadau annisgwyl sydd yn dod â thipyn bach o gyffro i fywyd difflach Mr Cadwaladr, bardd talcen slip ac athro dosbarthiadau nos sydd yn ei chael yn anodd i dalu'r rhent. Er mwyn cael ei gyflog, mae gofyn iddo gasglu deg o enwau i'w ddosbarth bondigrybwyll. Erbyn cael y nawfed, mae'n penderfynu cofrestru enw ffug sef Ann Griffiths. Ond mae menyw urddasol o'r un enw yn ymuno â'r grwp y noson gyntaf. Bob yn dipyn mae Mr Cadwaladr ac Ann Griffiths yn dod yn ffrindiau. Ond mae pethau yn mynd yn gymhleth. Ni ddisgwylia Mr Cadwaladr druan i'w fyfyrwraig ganol oed fod mor hoff ohono. Mae hi'n dweud ei holl hanes wrtho gan gynnwys dwy lofruddiaeth y mae wedi eu cyflawni. Dyma hi yn mynnu cysgu gydag ef wedyn ac yno diflannu yn ddisymwth. Mae cymeriadau eraill yn codi'u pennau o bryd i'w gilydd. Yn eu plith mae cydletywyr Mr Cadwaladr yn nhy diraen Mr Schloss, gan gyfrif Mr Owen a'i gasgliad o dedi bêrs, Ffloyd y stud (sydd heb fod gyda'r un ferch erioed), a'r hen Mrs Evans, capelwraig trwm iawn ei chlyw. Yn ogystal â'r rhai hyn cawn gwrdd â Menna a Manon, dwy ferch ffroenuchel braidd o'r cymoedd sydd yn mynychu dosbarthiadau Mr Cadwaladr, a Siriol, yr ysgrifenyddes sydd eisiau bwydo ei chathod bob awr o'r dydd. Mae pethau yn dechrau poethi pan mae Ann Griffiths yn ymddangos ar y teledu fel ymgeisydd ar ran y Torïaid yn yr etholiad. Mae Mr Cadwaladr yn dilyn ei gyrfa nes iddi gyrraedd y brig ac yno anfon llun personol ati yn ysmala iawn. Llyfr llawn eironi yw Dirgel Ddyn. Parodi ydyw hefyd o'r pethau bach bob dydd sydd yn hanfodol i bawb. Fe ddaeth y nofel hon ag amlygrwydd i'r awdur a bu yn sbardun i'w yrfa ddisglair. Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dirgel Ddyn Dirgel Ddyn (Mysterious Man) is a contemporary urban novel. It records a series of extraordinary events which colour the drab existence of Mr Cadwaladr, a poet manqué and literature tutor stuck for a quid. Cadwaladr is one pupil short of the ten he needs for his night-class. To make up the numbers and ensure himself a wage, he enrolls the fictitious Anne Griffiths. Much to his consternation, a distinguished lady of that very same name joins the class on the first evening. Cadwaladr and Anne Griffiths become friends, but where will it all lead? Our modest, self-effacing library-goer finds himself host to a gushing middle-aged woman in his pokey flat. She confides in him her story of multiple-murder, seduces him, and promptly disappears. Other demi-characters drift in and out of the novel. Some are Cadwaladr's fellow lodgers in Mr Schloss's rather shabby house: Mr Owen with his collection of teddy bears; Floyd the virgin stud; old Mrs Evans, pious and deaf. There are others. Menna and Manon, two sulky valleys girls, frequent Cadwaladr's classes, while Siriol the secretary reminds the world that its time she fed her cats. Things pick up again when Anne Griffiths appears on television as a candidate in the General Election. From the anonymity of the street, Cadwaladr follows her progress to the government front bench before he makes his move. Dirgel Ddyn is written with irony and understatement, and reads like a parody of the banal. It marks the beginning of Mihangel Morgan's career as one of Wales's foremost contemporary writers. Cyfnewidfa Lên Cymru/Wales Literature Exchange

View full details