Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Deg Chwedl o Gymru

Deg Chwedl o Gymru

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Casgliad o ddeg chwedl o Gymru - Cantre'r Gwaelod, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Twm Siôn Cati, Merched Beca, Branwen a Bendigeidfran, Maelgwn Gwynedd, Llyn y Fan Fach, Rhys a Meinir, Dic Penderyn a Breuddwyd Macsen. Mae'r gyfrol yn cynnwys lluniau lliw hyfryd Gini Wade a Morgan Tomos. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2016.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A collection of Welsh legends - Cantre'r Gwaelod, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Twm Siôn Cati, Merched Beca, Branwen and Bendigeidfran, Maelgwn Gwynedd, Llyn y Fan Fach, Rhys and Meinir, Dic Penderyn and Breuddwyd Macsen. This books contains beautiful colour pictures by Gini Wade and Morgan Tomos. Reprint. First published in 2016.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784612672
Gwales Code
gwales.com.9781784612672
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Deg Chwedl o Gymru
Awdur / Author
Edwards, Meinir Wyn
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-12-04
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Darlunydd / Illustrator
Tomos, Gini Wade a Morgan
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
128 pages
Size
200 × 210 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Un peth sydd yn eich taro'n syth am y llyfr yma yw'r clawr deniadol, ac yn wir, mae'r darluniau rhwng y cloriau'n rhai arbennig, wedi eu creu gan Gini Wade a Morgan Tomos. Mae'r cyfan yn llawn ias ac yn ychwanegu at y chwedlau y maent yn eu portreadu. Mae rhai o'r chwedlau yn reit adnabyddus, megis stori Branwen a Bendigeidfran, ac mae'r iaith a ddefnyddir yn un naturiol a hawdd iawn ei darllen. Ond mae rhai o'r chwedlau yn fwy lleol, megis Gwylliaid Cochion Mawddwy, a rhai eraill yn llai adnabyddus, megis hanes trasig Rhys a Meinir, y cariadon ifanc o Nant Gwrtheyrn. Rhaid cyfaddef fod hon yn chwedl ddieithr i mi. Mae'r chwedlau yn dod o ddeg ardal o Gymru ac mae'r cyfan yn ddarllen difyr iawn. Tybiaf y byddai'r llyfr yn addas ar gyfer ystod eang o ddarllenwyr, o blant ysgol i ddysgwyr ac, yn wir, i ddarllenwyr Cymraeg sydd am gael cipolwg sydyn ar hanes chwedl o'u hardal. Un agwedd sy'n plesio'n fawr ydyw'r defnydd hyfryd o dafodiaith a'r sgwrs naturiol a geir rhwng cymeriadau sy'n llwyddo i greu darluniau byw iawn o'r hanes. Os nad ydych yn hanesydd neu â gwybodaeth fanwl am chwedlau ein cenedl, dwi'n sicr y bydd y llyfr ysgafn a hwyliog yma yn ennyn eich chwilfrydedd chwithau ac yn rhoi rhyw ddarlun digon diddorol o'n hanes, a hynny mewn ffordd ddifyr. Nid llyfr hanes sych mo hwn! Mae dysgu am aberth rhai o'n cyndeidiau, megis Dic Penderyn, yn allweddol bwysig. Cofiwn am ei eiriau wrth iddo gael ei grogi ar gam, ac yntau dim ond yn 23 oed, 'O Arglwydd, dyma gamwedd!' Llyfr arbennig yw hwn sy'n eang ei apêl ac yn werth ei ddarllen.

View full details