Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

David Vaughan Thomas

David Vaughan Thomas

Regular price £9.75 GBP
Regular price Sale price £9.75 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

David Vaughan Thomas oedd cerddor amlycaf a mwyaf dylanwadol Cymru yn ystod degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif wrth iddo ymdrechu i symud ei wlad ymlaen o dueddiadau ceidwadol cyfansoddwyr a pherfformwyr oes Victoria. Mae'r gyfrol hon gan y cyfansoddwr Eric Jones yn olrhain hanes ei fywyd a'i waith, ac yn cloriannu o'r newydd ei gyfansoddiadau cerddorol.

Disgrifiad Saesneg / English Description

David Vaughan Thomas was the most prominent and influential Welsh composer in the first decades of the 20th century, as he sought to move his country forward from the conservative tendencies of the composers and performers of the Victorian age. This volume by composer Eric Jones traces his life and work, and evaluates anew his musical compositions.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781845279141
Gwales Code
gwales.com.9781845279141
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
David Vaughan Thomas
Awdur / Author
Jones, Eric
Current Price ex VAT
£9.75
Current Price inc VAT
£9.75
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2023-05-19
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
260 pages
Size
138 × 215 mm; depth 11 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywgraffiadau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Male (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

ERIC JONES Wedi ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais, addysgwyd Eric Jones yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Tregŵyr, cyn ennill gradd ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd, a maes o law gradd ymchwil o'r Brifysgol Agored. Yn ystod ei yrfa ym myd addysg bu’n Bennaeth y Celfyddydau Creadigol yn Ysgol Mynyddbach (Abertawe); yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Gŵyr (Abertawe); ac yn Brifathro ar Ysgol Bro Myrddin (Caerfyrddin), gan ymddeol yn 2006. Fel cyfansoddwr cyhoeddodd saith cyfrol o ganeuon ynghyd â nifer sylweddol o ddarnau corawl, gweithiau cysegredig a cherddoriaeth ar gyfer y theatr. Ysgrifennodd gofiant (Maestro) i’r arweinydd corawl, Noel Davies, ynghyd â chyfrol o hanes Côr Meibion Pontarddulais (Brothers Sing On).

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn dilyn ei addysg yn Rhydychen, a'i gyfnod fel athro yn Ysgol Harrow, daeth i adnabod cerddorion Seisnig o fri fel Percy Buck, Hubert Parry, Granville Bantock, Edward Elgar a Henry Walford Davies. Gyda llwyddiant ei weithiau cynnar, y disgwyl oedd y byddai'n ymuno â'r garfan yma o gyfansoddwyr yn Lloegr. Ond roedd Cymru'n galw'r gŵr unigryw hwn â'i wreiddiau yn ddwfn yn hanes, iaith a diwylliant ei famwlad. Ar ganmlwyddiant a hanner geni Vaughan Thomas yn 2023, y cyfansoddwr, Eric Jones, sy'n olrhain hanes ei fywyd a'i waith, ac yn cloriannu o'r newydd ei gyfansoddiadau cerddorol. Gosodir hanes Thomas ei hun mewn cyd-destun ehangach o ddatblygiadau diwylliannol, addysgiadol a gwleidyddol ei gyfnod yng Nghymru. Cawn ddarllen am ei gysylltiad gyda rhai o gewri'r genedl mewn gwahanol feysydd yn ogystal â cherddoriaeth - llenorion fel Gwili a T Gwynn Jones; addysgwyr fel Lewis Jones Roberts ac Owen M Edwards; gwleidyddion megis Henry Jones, Y Barwn Davies, Llandinam a David Lloyd George. Er ei statws digamsyniol ymhlith ei gydwladwyr, profodd Vaughan Thomas densiynau a thristwch hefyd yn deillio o anghydfod rhyfeddol yn hanes Prifysgol Cymru, a arweiniodd yn y pen draw at ddigalondid a gorffwylltra'r cerddor amryddawn a deallusol hwn.

View full details