Cyngor Llyfrau Cymru
Dau
Dau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Dau yn nofel dawel, gynnil ac iddi ddyfnder profiad ac emosiwn. Stori am gynefin a pherthyn, am gyfrinachau a ffyddlondeb, am ofnau ac amheuon, ond goruwch popeth, am ofal a chariad. Stori'r ddau efaill Wiliam a Gwen, y ddau olaf o 'ddwsin dedwydd' fferm y Nant. Trwy eu llygaid nhw profwn y newid a welir ar yr aelwyd ac o fewn cymuned wledig sefydledig dros gyfnod o flynyddoedd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Dau is a story about living and belonging, about secrets and fears, about trusting and doubting, but ultimately, about love and care. At its core is the sibling relationship between Wiliam and Gwen, two elderly twins, and through their eyes we witness the change witnessed over many years within an established rural community.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781917006965
- Gwales Code
- gwales.com.9781917006965
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dau
- Awdur / Author
- Nantcyll, Bethan
- Current Price ex VAT
- £10.00
- Current Price inc VAT
- £10.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2025-02-21
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg y Bwthyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 150 pages
- Size
- 130 × 200 mm; depth 5 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Dyma nofel gyntaf Bethan Nantcyll a fagwyd ar fferm Nantcyll Ganol ym Mhantglas, Eifionydd. Yno y magodd ddwy o genod ac yno, meddai hi, y bydd hi bellach. Bu’n gweithio mewn swyddfa treth incwm ac fel cymhorthydd ysgol gynradd cyn mynd yn fyfyriwr aeddfed i Adran Gymraeg Prifysgol Bangor lle'r enillodd BA, MA a PhD. Erbyn hyn mae'n gweithio fel Cydlynydd Prosiect Ymbweru Bro gyda Chwmni Golwg. Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 enillodd Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn, y brif wobr i unigolion am lefaru.
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Bethan Nantcyll originates from a farming community in Pantglas, Eifionydd, North Wales. Dau - trans. 'Two' - is her first novel.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Daeth y nofel hon yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhonddo Cynon Taf yn Awst 2024. Meddai'r beirniaid amdani: ‘Mae yma stori gref, wedi ei hadrodd mewn arddull bwyllog ofalus ac adnabyddiaeth o fyd natur a byd amaeth yn llifo’n naturiol iawn drwy’r ysgrifennu. Roedd darllen y nofel yn arafu rhywun ... Nofel sydd yn brofiad i’w darllen’ (John Roberts); ‘Nofel ... glasurol ei hiaith ... cryfder [y nofel] yw ei harddull ymataliol ... a’i hawyrgylch diamser ... Mae yma lenor hyderus sy’n ddigon sicr o’i grefft ac â digon o ffydd yn y darllenydd fel nad yw’n teimlo rheidrwydd i esbonio rhediad ei stori, gam wrth gam’ (Annes Glynn); ‘mae’r portread o gymuned sy’n prysur ddiflannu yn un ingol o’r dechrau ... [p]ortread pwerus o golli urddas ... dyma awdur sydd yn deall pŵer peidio esbonio’r cyfan, a gadael i'r darllenydd ddychmygu’r datrysiad ... nofel a chanddi graidd emosiynol sy’n cydio, â’r cariad rhwng yr efeilliaid yn cynnal y cyfan’ (Elen Ifan).
Share
