Cyngor Llyfrau Cymru
Dan Gadarn Goncrit
Dan Gadarn Goncrit
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Trydedd nofel un o awduron mwyaf lliwgar Cymru heddiw, sy'n nofel ddirgelwch wedi ei lleoli mewn tref brifysgol ac yn sylwebaeth ar berthynas pobl â'i gilydd ac ar fywyd cyfoes yn y Gymru Gymraeg. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1999.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A third novel by one of the most colourful authors of the present day, being a mystery novel set in a university town and a commentary on relationships and life in present day Wales. First published in 1999.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780862434946
- Gwales Code
- gwales.com.9780862434946
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Dan Gadarn Goncrit
- Awdur / Author
- Morgan, Mihangel
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2023-08-18
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 288 pages
- Size
- 195 × 130 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Nofel ddirgelwch yw Dan Gadarn Goncrit ar yr olwg gyntaf. Mae darlithydd parchus, Maldwyn Taflun Lewis, yn gyrru ei gar cyflym, ac fe ddigwydd rhywbeth sy’n newid popeth yn ei fywyd. Sut mae’r darlithydd yn ymdopi â’r hyn ddigwyddodd, ac â phopeth arall sy’n dilyn? Ond mae yna fwy na hynny i’r stori - wrth i ni ddilyn trywydd y datblygiadau ym mywyd Maldwyn, cawn gyfle hefyd i gyfarfod â llu o gymeriadau eraill. Yn y cymeriadau hyn y mae cyfoeth y nofel. Y mae i fywyd pob un ohonynt haenau cudd o dan y ddelwedd arwynebol, ac mae gan bob un ohonynt gyfrinach, a’r hyn sy’n gafael wrth ddarllen yw'r modd y mae Mihangel Morgan yn plisgo ymaith yr arwynebol, ac yn datgelu’r haenau fesul un nes cyrraedd at galon y gwir. Ac mae’r gwir yn hanes ambell un yn dychryn - nid stori i’r gwangalon yw hon. Er gwaethaf yr argraffiadau cynnar, felly, nid stori’r dirgelwch yw craidd y nofel, ond ein hadnabyddiaeth gynyddol o’r cymeriadau. Mae amrywiaeth y cymeriadau yn eang - o ddarlithwyr yr Adran Astudiaethau Celtaidd yn y brifysgol, i’r butain Lois, y ddau frawd Hedd ac Ellis Wynne, a’r pâr cariadus Tada Pwdin Mawr a Mama Losin, sy’n cadw lle Gwely a Brecwast yn Aberdyddgu. Mae Aberdyddgu’n gartref i Tanwen, arlunydd na werthodd ddarlun hyd yma, ac i Mared, y feudwyes sy’n mynnu siarad Cymraeg ar bob achlysur. I Aberdyddgu y daw’r cardotyn dieithr a’i gi, ac Alys, yr eneth ifanc sy’n chwilio am ei chariad ar ôl ei ddiflaniad sydyn. Wrth i’r stori ddatblygu, mae bywydau’r cymeriadau hyn i gyd yn plethu i’w gilydd, ac mae’r dychan ar gymdeithas y dref – ac ar natur bywyd yng Nghymru heddiw - yn ddeifiol. Mae hon yn nofel gymhleth, a dryslyd ar adegau yn y penodau agoriadol. Ond wrth i’r stori a’r nofel ddatblygu, mae perthnasedd y cyfan yn dod i’r amlwg. Mae’r cymeriadu’n gadarn iawn, iawn – mae eu sgyrsiau, a’u meddyliau, yn rhoi i ni ddarlun llawn o bob un person. Maent yn gymeriadau cymhleth ac annisgwyl, ond cyflawn, ac mae’r profiad o’u dinoethi yn rhoi gwefr – neu’n hytrach, yn creu ias.
Share
