Cyngor Llyfrau Cymru
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Ail argraffiad ar bymtheg o un o'r nofelau mwyaf poblogaidd erioed yn yr iaith Gymraeg yn darlunio bywyd cefn gwlad ym Mhowys, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhwygiadau rhwng aelodau dwy genhedlaeth o berchnogion tir wedi i'r mab droi'n gomiwnydd ac anffyddiwr gan ennyn dicter ei dad. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1953.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The 17th edition of one of the most popular novels in the Welsh language depicting rural life in Powys, and in particular the friction between two generations of a landowning family when the son becomes a communist and aethist thus inducing his father's wrath. First published in 1953.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780863837104
- Gwales Code
- gwales.com.9780863837104
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cysgod y Cryman
- Awdur / Author
- Elis, Islwyn Ffowc
- Current Price ex VAT
- £9.99
- Current Price inc VAT
- £9.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2019-12-20
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 318 pages
- Size
- 195 × 125 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Nid ywn syndod o gwbl gweld fod y Cymry am ddal i ddarllen nofelau Islwyn Ffowc Elis. Y maen chwedleuwr tan gamp, fel yr oedd Daniel Owen, ac fe ŵyr pawb, ond ambell i feirniad, peth mor sylfaenol bwysig i nofelydd ydi medru dal cynulleidfa efo stori dda. Y mae o hefyd yn medru ysgrifennu Cymraeg sydd fel sidan. Daeth ei fedr eithriadol fel dyn geiriau ir golwg yn ei ysgrifau Cyn Oerir Gwaed , ac y mae iw gweld yr un mor amlwg yn ei nofelau ai storïau byrion. Y maen medru bod yn gyfareddol darllenwch rai or disgrifiadau ar ddechrau penodau Cysgod y Cryman i weld mor wir ydi hyn. Dyma nodweddion, om darlleniad cyntaf or nofel, yn 1953, am trawodd i mor gryf rŵan âr adeg honno. Ond, bobol bach, y maer blynyddoedd rhwng 1953 a 2002 wedi newid safbwyntiau ein cymdeithas ni yn chwyldroadol. Y mae, yn y nofel, elfennau y cyfeiriodd Islwyn Ffowc Elis atynt mewn ysgrif ar 'Y Nofelydd ai Gymdeithas', sef: '. . . safonau a rhagdybiau cydnabyddedig ei gyfnod ai gymdeithas, [elfennau meddai] nad yw [nofelydd] yn debyg o ymyrryd rhyw lawer â [hwy] rhag tarfui gynulleidfa.' Rhagdybiau Anghydffurfiwr o Genedlaetholwr o Gymro, yn 1953, a geir yn Cysgod y Cryman . Ystyriwn, er enghraifft, Harri Vaughan, arwr a phrif gymeriad y nofel hon: y mae rhai oi nodweddion cymeradwy ar y pryd bellach yn ddigon i saethu ffeministiaid i orbit. Y maer un peth yn wir am Edward Vaughan, tad yr arwr, a pherchennog fferm sylweddol, sef Lleifior, yn Nyffryn Aerwen. Yn ei ysgrif ar 'Y Nofelydd ai Gymdeithas' sonia Islwyn Ffowc Elis am rwymedigaeth y nofelydd 'i rwystroi ragfarnau rhag duo gormod ar ei ddihirod a gwynnu gormod ar ei arwyr'. Wrth ddarllen y nofel eto yr ydw in rhyw deimlo fod yna ymagweddu go bendant tuag at rai cymeriadau ynddi. Nid mater o fod yn y nofel gymeriadau 'da' a rhai 'drwg' ydi hyn y mae cymeriadau or fath yn y rhan fwyaf o nofelau ond fod yr awdur o bryd iw gilydd yn cyfarwyddo ein hymateb yn lle gadael inni ymateb yn ôl portread a gweithredoedd y cymeriadau eu hunain. Dyma un enghraifft: y mae Wil James, sydd yn gweithio ar fferm Lleifior, yn ddihiryn; y mae ei weithredoedd ai eiriaun dangos hynny. Y maen mynnu siarad Saesneg â Karl, Almaenwr a ddaeth i weithio yn Lleifior pan oedd yn garcharor rhyfel ac a ddaeth yn ei ôl yno ar ôl y rhyfel. Dyma a ddywed Islwyn Ffowc Elis yn y nofel: 'Yr oedd Wil James yn un or rhai a siaradai Saesneg â Karl. Nid oedd ganddo mor crebwyll i wybod bod Karl yn fwy o feistr ar unrhyw iaith nag ydoedd ef.' Y maer ail frawddeg yn sylw uniongyrchol yr awdur, y maen dweud wrthym sut i ymateb. Ymhellach, y mae Karl yn gallu dweud, 'Yr wyf o hyd yn ddiysmygwr', chwithdod ieithyddol nad yw Wil James yn euog oi debyg. Y mae yn y nofel nifer o sylwadau fel hyn syn goruchwylio ymateb y darllenwr. Pan ymddangosodd y nofel gyntaf, cyhuddwyd Islwyn Ffowc Elis o wneud Karl mor dda nes ei bod yn anodd credu ynddo. Ond y maen gwbl glir fod ei hunanymwadiad mor eithafol nes bod yn negyddol, hynny yw, y mae cryfder Karl yn wendid. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn fwy craff nag oedd yn amlwg i amryw oi feirniaid cynnar. Prif bwnc y nofel ydi lle traddodiad, syn cynnwys system economaidd a hen systemau o lywodraethu, ym myd Harri Vaughan ai gymdeithas. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn flaengar yn ei bwnc achos yr oedd yn ymdrin â materion a ddaeth i strydoedd amryw o ddinasoedd y byd rai blynyddoedd ar ôl cyhoeddir nofel: bu myfyrwyr yn y Sorbonne yn taflu cerrig ac yn baricedio strydoedd Paris, a phobol ifainc Tokyon taflu bomiau petrol yn Japan. Yr oedden nhw, fel Harri Vaughan yn ei ffordd ef ei hun, yn gwrthryfela yn erbyn awdurdod a systemau a darddai o draddodiad. Y maer pwnc yn dal gyda ni. Ond fe gynigir neges bwysig yn Cysgod y Cryman , sef mai trwy gyfaddawd y maer hen ar newydd yn debyg o ddod i ryw fath o sefydlogrwydd mwy cyfiawn. Trwy berthynas Harri Vaughan ai dad y cyfleir hyn yn y nofel. Yr oedd hin bleser darllen y nofel hon unwaith yn rhagor, a gweld elfennau ynddi mewn ffordd wahanol. Y mae to ar ôl to o bobol ifainc o Gymry wedi cymryd at y nofel hon; yr oeddent, ac y maent, yn ddoeth o wneud hynny. Y mae hin nofel syn bleser iw darllen. Y mae ei hawdur, uwchlaw popeth, yn ysgrifennwr Cymraeg tra nodedig, a beth bynnag arall sydd yn newid o ddarllen y nofel dros y blynyddoedd, y mae ei rhagoriaeth fel testun Cymraeg yn dal yn rhyfeddod.
Share
