Cyngor Llyfrau Cymru
Cymru Mewn 100 Gwrthrych
Cymru Mewn 100 Gwrthrych
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol ddarluniadol ysblennydd yn cynnwys detholiad Andrew Green o'r can gwrthrych mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru, gyda ffotograffau hardd o'r gwrthrychau gan Rolant Dafis.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Andrew Green presents his selection of the one hundred most significant objects in Welsh history. Cymru mewn 100 Gwrthrych brings history to life, evoking key moments in Wales' past through tangible, physical artefacts. Photographs by Rolant Dafis.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785621444
- Gwales Code
- gwales.com.9781785621444
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cymru Mewn 100 Gwrthrych
- Awdur / Author
- Green, Andrew
- Current Price ex VAT
- £19.99
- Current Price inc VAT
- £19.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-09-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Dafis, Rolant
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 224 pages
- Size
- 200 × 200 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywyd ac Arferion Cymru (yn Gymraeg) | EN: Welsh Life and Customs (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma lyfr eithriadol o hardd sy’n dod yn sgil cyfrolau eraill tebyg megis llyfr adnabyddus Neil MacGregor, A History of the World in 100 Objects , ffrwyth cyfres o ddarllediadau radio gyda’r un teitl, a chyfrol John Davies, Cymru – Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw . Pobl ddewr sy’n mentro ar brosiect o’r math hwn. Pwy fydd yn cytuno gant y cant â’r dewisiadau? Pa egwyddorion ddylai fod yn eu meddwl? A oes rhaid dewis gwrthrychau sydd ar gael heddiw yng Nghymru, neu a oes modd croesi Clawdd Offa? A ddylent ddewis gwrthrychau mwyaf adnabyddus ein hanes? Mae Andrew Green yn dewis dilyn prif egwyddor Neil MacGregor: rhaid i bob gwrthrych ddweud stori. Ceir pethau o fyd diwylliant a diwydiant o bob math, bron – llyfrau, lluniau, llestri, mapiau, delwau, dodrefn, posteri, teganau plant – mae’r amrywiaeth yn ardderchog, a’r straeon yn dda. Wrth gwrs, mae pethau cyfarwydd ymhlith y cant, megis arfbais Owain Glyndŵr neu Feibl William Morgan. Ond mae lliaws o bethau anghyfarwydd – annisgwyl yn wir, megis y model car Corgi o Fforest-fach. Mae hanes y tegan bach yn gysylltiedig ȃ ffoadur Iddewig o’r Almaen, ȃ’r Ail Ryfel Byd a gwaith merched, a chyda’r diwydiant ceir yng Nghymru. Difyr yw gweld ambell wrthrych yn cynrychioli arian: arian o fathdy Aberystwyth (yn cynrychioli pwysigrwydd mwynfeydd plwm ac arian) a thocynnau metel o Fynydd Parys (y diwydiant copr a’i berthynas ȃ’r fasnach gaethion). Mae gwrthrychau diddorol eraill yma am eu bod wedi eu darganfod yn ddiweddar, megis tancard Langstone, a ddarganfuwyd yn 2007 i’r dwyrain o Gasnewydd, neu’r darn brethyn o’r ynys artiffisial yn Llyn Syfaddan (Glan-y-gors), a ddaeth i’r golwg yn 1990, fwy na mil o flynyddoedd wedi iddo fynd ar goll. Adroddir hanes rygbi gyferbyn ȃ ‘Groggs’ o reng flaen enwog Pont-y-pŵl yn hytrach na lluniau mwy cyfarwydd o Cliff Morgan neu Barry John. Cynrychiolir oes y cyfrifiadur yng Nghymru gan lun o Raspberry Pi, oherwydd fe’u gwneir yn awr ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr, er bod y llun o fodel cynnar a wnaethpwyd yn Tsieina. Problem barhaus i haneswyr Tywysogion Cymru yw diffyg gwrthrychau personol, heblaw beddrod yr Arglwydd Rhys yn Nhyddewi. Yr arfer yw cynnwys lluniau o gestyll perthnasol, ond ceir llun annisgwyl i gynrychioli Llywelyn Ein Llyw Olaf. Hynny yw, nid cofeb Cilmeri, ond arysgrif hynod David Jones, ‘Cara Wallia Derelicta’. Annisgwyl efallai – ond dewis trawiadol! Yr unig siom o bwys – i mi, beth bynnag – yw diffyg unrhyw wrthrych yn ymwneud yn uniongyrchol â’r môr. Ar wahân i hynny, dyma lyfr neilltuol o hardd yn llawn o hanes Cymru.
Share
