Cyngor Llyfrau Cymru
Cymru ar Stampiau'r Byd — Stampiau Post a'u Cysylltiadau Cymreig
Cymru ar Stampiau'r Byd — Stampiau Post a'u Cysylltiadau Cymreig
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o wledydd oedd yn cyhoeddi stampiau, dyweder yn 1880, 1910, y 1930au, y 1970au a heddiw yn dweud llawer wrthym am y newidiadau ddigwyddodd i'r patrwm gwleidyddol drwy'r byd dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Gall casgliad da o stampiau fod yn llyfr hanes a daearyddiaeth penigamp.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The differences between the countries that published stamps in 1880, 1910, the 1930s and 1970s and today tell us a great deal about changing political patterns throughout the world during the past two centuries. A good collection of stamps can be an excellent history and geography book.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845276720
- Gwales Code
- gwales.com.9781845276720
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cymru ar Stampiau'r Byd — Stampiau Post a'u Cysylltiadau Cymreig
- Sub Title
- Stampiau Post a'u Cysylltiadau Cymreig
- Awdur / Author
- Elias, Twm; Guto, Dafydd
- Current Price ex VAT
- £6.95
- Current Price inc VAT
- £6.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-02-26
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 122 pages
- Size
- 155 × 150 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Diddordebau, Chwaraeon, Hamdden, Coginio (yn Gymraeg) | EN: Sport, Hobbies, Leisure, Cookery (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Hen Bethau a Phethau Casgladwy (yn Gymraeg) | EN: Antiques and Collectibles (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cyhoeddwyd stampiau gan rai cannoedd o wledydd mawr a bach ymhob cwr o'r ddaear erbyn hyn – rai ohonynt yn ddim mwy nag ynysoedd bychain llai o faint nag Ynys Môn. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o wledydd oedd yn cyhoeddi stampiau, dyweder yn 1880, 1910, y 1930au, y 1970au a heddiw yn dweud llawer wrthym am y newidiadau ddigwyddodd i'r patrwm gwleidyddol drwy'r byd dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Ond beth am GYMRU? Wrth ddarllen y gyfrol hon mae’n bosib y byddwch yn rhyw feddwl pam nad oes gennym ni stampiau post ein hunain? Yr unig beth sydd gennym yw stampiau rhanbarthol digon di-nod ac ambell stamp coffa mewn cyfresi Prydeinig. Er mor amharod fu'r sefydliad Prydeinig i gynnwys elfennau Cymreig ar eu stampiau – e.e. Cofio Hedd Wyn 2017 – mae ambell stamp (mewn sawl gwlad) yn adrodd stori neu'n cyflwyno cysylltiad Cymreig. Mae’n debyg mai un o'r stampiau prinaf a drutaf sydd â chysylltiad Cymreig iddo yw stamp 15c, Abraham Lincoln, 1867 o’r Unol Daleithiau, sydd yn werth rhyw £200,000. Mae mwy i'ch synnu a’ch difyrru yn y casgliad hwn. Casgliad, gobeithio, a welwn yn tyfu'n eithriadol pan fydd gan Gymru'r hawl i gyhoeddi ei stampiau annibynnol ei hun. Wedi'r cyfan os gall ynysoedd megis Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw gyhoeddi stampiau deniadol, a gwneud elw sylweddol ohonynt, pam na all Cymru? Bu'r stampiau o fudd mawr iddynt i hyrwyddo’r economi a thwristiaeth ac yn gyfrwng addysgiadol pwysig i gynyddu ymwybyddiaeth yr ynyswyr hen ac ifanc o'u treftadaeth gyfoethog.
Share
