Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfrolau Cenedl: 9. Llythyrau Goronwy Owen
Cyfrolau Cenedl: 9. Llythyrau Goronwy Owen
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma olygiad newydd, gan ein pennaf awdurdod ar draddodiad llenyddol Môn, o'r llythyrau sy'n llawn o athrylith Goronwy Owen ac o helbulon ei fywyd. Mae'r cyfan yn 'darllen fel nofel' gan ein gyrru unwaith eto i edmygu dawn Goronwy, i dosturio wrtho yn ei anawsterau ac i waredu at ei natur ddiafael. Ceir cyfoeth o wybodaeth newydd am ei gefndir a'i gysylltiadau.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A new edition of the letters which demonstrate the genius of Goronwy Owen and the trials and tribulations of his life. The text reads 'like a novel' and will drive readers to admire Goronwy's talent, to sympathise with him in his troubles and to be shocked at his lazy nature. Includes new information about his background and connections.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780957560918
- Gwales Code
- gwales.com.9780957560918
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfrolau Cenedl: 9. Llythyrau Goronwy Owen
- Awdur / Author
- Newydd, Dalen
- Current Price ex VAT
- £15.00
- Current Price inc VAT
- £15.00
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-04-24
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dalen Newydd
- Editor
- Wiliam, Dafydd Wyn
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 340 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Testunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Texts (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae broliant y gyfrol hon o lythyrau Goronwy Owen yn addo ei bod yn 'darllen fel nofel' - honiad anghyffredin, efallai, am gasgliad o lythyrau bardd ac eglwyswr a fu farw dros ddau gant o flynyddoedd yn ôl, ond un sydd eto’n gwbl gywir yn yr achos hwn. Y golygydd, Dafydd Wyn Wiliam, a haedda ran o’r clod am hyn – yn ei ragymadrodd, ceir cyflwyniad bywiog ac eglur i fywyd a chymeriad Goronwy, ac mae’r nodiadau trylwyr yn sicrhau nad aiff y darllenwr cyffredin ar goll ym myd dieithr y ddeunawfed ganrif. Ond Goronwy ei hun yw’r prif reswm y cawn ein swyno. Ef, wrth gwrs, oedd un o gewri ein llenyddiaeth. Fe greodd farddoniaeth syfrdanol, ddisglair a dysgedig, ac fe ddaeth i fod yn un o feirdd sylfaenol y dadeni diwylliannol yng Nghymru. Ond nid ffigwr parchus, sych oedd Goronwy o bell ffordd, fel mae’r llythyrau hyn yn tystio. Ceir yma ddarluniadau byw o’i ieuenctid ar 'f’anwylyd Môn doreithiog', ei gwynion blin pan oedd yn athro yn Lloegr ynglŷn â 'gwastadol gwrnad a rhincyn cywion Saeson', ac esgusodion di-ri am y llymeitian a ddifethodd ei yrfa a’i gadawodd yn aml wedi’i 'hanner crapio'. Mae’r llythyrau bob amser yn drawiadol ac yn annisgwyl, yn neidio’n sydyn ac yn aml o un peth i’r llall – o’r Gymraeg i’r Saesneg, o’r Cynfeirdd i’r Clasuron, ac o’r mawreddog i’r chwerthinllyd. Trwyddynt oll, y mae perthynas agos ac anodd y bardd â’r Awen yn dod i’r brig – hi yw’r 'genawes ystyfnig' sy’n ei boenydio, ond hi hefyd yw 'dawn arbennig ein cenedl', sy’n ffafrio Cymru (a Goronwy) yn uwch na neb. Mae’r gyfrol hon yn sicr o fod yn ddefnyddiol iawn i’r rhai sy’n barod wrthi’n ymchwilio i lenyddiaeth Cymru yn y ddeunawfed ganrif, neu sy’n ymddiddori yn ei hanes (ymddangosodd y golygiad diwethaf o’r llythyrau pwysig hyn ym 1924). Ond fe ddylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymhlethdodau cyffredin bywyd, neu bleserau anghyffredin barddoniaeth, ddarganfod rhywbeth cofiadwy yma. Yn ôl Lewis Morris, athro a noddwr y bardd, yr oedd natur gorfforol Goronwy yn perthyn i sothach isaf dynolryw, ond daeth ei ysbryd o’r ‘celestial choir’. Dyma gyfle i ddarllenydd heddiw brofi ychydig o’r cymeriad cyffrous, paradocsaidd hwn.
Share
