Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres yr Onnen: Stwff - Guto S. Tomos — Guto S. Tomos
Cyfres yr Onnen: Stwff - Guto S. Tomos — Guto S. Tomos
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Guto'n 14 oed. Mae'n cadw dyddiadur. Ond mae'n hollol wahanol i ddyddiadur Adrian Mole ac Anne Frank! Mae'n aelod o deulu anghonfensiynol, mae e mewn cariad gyda bwli, mae'n arwain protest yn erbyn gwersi cyfrwng Saesneg yn yr ysgol ac yn cael ei hun yn ystafell Ffowcyn Jones, y prifathro, yn rhy aml. yn rhy aml. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2011.
Disgrifiad Saesneg / English Description
This is a novel about a fourteen year old boy, Guto S. Tomos, and the tensions that exist between the characters in his family and his school life. His experiences over a period of about six months will make you laugh out loud and shed the odd tear. Tir na n-Og Award winner 2011.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847712387
- Gwales Code
- gwales.com.9781847712387
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres yr Onnen: Stwff - Guto S. Tomos — Guto S. Tomos
- Sub Title
- Guto S. Tomos
- Awdur / Author
- Roberts, Lleucu
- Current Price ex VAT
- £5.95
- Current Price inc VAT
- £5.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-03-31
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 144 pages
- Size
- 130 × 195 mm; depth 11 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Lleucu Roberts yn awdures boblogaidd ac wedi cyhoeddi nifer o nofelau ar gyfer oedolion ( Iesu Tirion , Troi Clust Fyddar , Y Ferch ar y Ffordd ) a phlant yn eu harddegau. Enillodd Wobr Tir na Nog 2009 am ei nofel i'r arddegau, Annwyl Smotyn Bach .
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae'r dyddiadur yn llawn hiwmor, yn cynnwys troed nodiadau esboniadwy, sy'n treiddio i feddwl sensitif iawn bachgen yn ei arddegau cynnar. Stwff: Hanner blwyddyn o fyfyrdodau rebel 14 oed Mae Lleucu Roberts newydd gyhoeddi ei nofel ddiweddaraf, ond y tro yma mae yn ysgrifennu yn enw rebel ifanc o’r enw Guto S. Tomos. Bachgen 14 oed yw Guto, sy’n ysgrifennu ‘stwff’ yn ei lyfr ysgrifennu newydd sbon â llun Bugatti Veyron du ar ei glawr. Ond nid dyddiadur mo’r gyfrol chwaith. Peidiwch â’i gymharu â dyddiadur Adrian Mole (“Pwy yffach yw Adrian Mole?” gofynna Guto.) nac un Anne Frank (“Dibynnu os cei di dy ladd cyn i ti’i fennu fe,” meddai ei fam wrtho.). Ond digwyddiadau a meddyliau Guto dros gyfnod o amser sydd yma – mae mewn cariad â bwli; yn protestio yn erbyn gwersi cyfrwng Saesneg yn yr ysgol; yn gorfod sefyll gerbron y prifathro, Mr Ffowcyn Jones; ac yn gorfod ymdopi â sefyllfa anodd, anghonfensiynol ei deulu. Yn ôl Meinir Wyn Edwards, un o olygyddion Cyfres yr Onnen: “Mae Stwff fel chwa o awyr iach. Mae Lleucu Roberts unwaith eto wedi llwyddo i gyfuno’r doniol a’r trist mewn modd sensitif, fel yn ei chyfrol ddiweddar i oedolion Y Ferch ar y Ffordd . Mae’r gyfrol ddarllenadwy iawn ac yn addas ar gyfer yr arddegau ac oedolion. Ysgrifenna Guto droednodiadau i esbonio pwyntiau ymhellach - arddull sydd yn cael ei defnyddio gan rai awduron Americanaidd sy’n ysgrifennu ar gyfer yr arddegau, ond sy’n gwbwl newydd yn y Gymraeg. Wn i ddim sut mae Lleucu, sy’n fam i bedwar o blant, yn medru treiddio i feddylfryd plentyn 14 oed! Ond mae wedi llwyddo.” Meddai Lleucu Roberts wrth drafod y profiad o ysgrifennu yn llais bachgen ifanc, “Rhaid mai bachgen 14 oed ydw i yn y bôn, achos mae ’meddwl i'n gweithio yn union yr un ffordd ag un Guto. Ond dwi ddim mewn cariad ’da merch 14 oed o’r enw Lisa. A dwi ddim yn gwbod llawer am Bugatti Veyrons. Nac yn hanner addoli Fernando Torres. Erbyn meddwl, dwi ddim yn debyg iawn i Guto. A gweud y gwir dwi ddim byd tebyg iddo fe! Lleucu Roberts (94¾).” Mae Stwff yn gyfrol arall yng Nghyfres yr Onnen a gyhoeddir gan wasg y Lolfa – cyfres sydd wedi’i hanelu at blant o 10 i 13 oed. Cyhoeddwyd 5 nofel eisoes, sef Trwy’r Darlun a Trwy’r Tonnau (Manon Steffan Ros), Codi Bwganod (Rhiannon Wyn), Yani (Mari Stevens), Aderyn Brau (Mared Llwyd) ac Y Cwestiwn Mawr Meinir Pierce Jones). Mae 5 o’r nofelau uchod eisoes wedi’u cynnwys ar restrau hir Gwobr Tir na nOg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Enillodd Lleucu Roberts wobr Tir na nOg 2009 gyda’i nofel i’r arddegau hwyr, Annwyl Smotyn Bach .
Share
