Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du

Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel wedi'i gosod yn nhre Caernarfon, yn adrodd hanes perthynas tad alcoholig, ei fab, a merch o stad Sgubor Goch. Cawn bortread byw o'r dre a'r cymeriadau trwy lygaid y tri. Nofel i'r arddegau hwyr ac oedolion. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2012.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel located in the town of Caernarfon, which tells the intertwined story of an alcoholic father, his son, and a girl the boy has met at the fair. Through the eyes of the three a lively picture is painted of the town and its characters. A novel for older teenagers and adults. Tir na n-Og Award winner 2012.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847713612
Gwales Code
gwales.com.9781847713612
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Dderwen: Yr Alarch Du
Awdur / Author
Wyn, Rhiannon
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-11-30
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
176 pages
Size
130 × 193 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

A oes modd newid ein ffawd, neu a ydi ein penderfyniadau a’u canlyniadau yn anorfod? A sut mae byw gyda’r penderfyniadau hynny? Archwilio’r berthynas rhwng cyfres o ddigwyddiadau a wnawn ni yn Yr Alarch Du . Darllenwn hanes pedwar diwrnod adeg ymweliad y ffair â thref Caernarfon o dri safbwynt gwahanol. Cawn hanes Mathew i ddechrau, a’i eiriau wedi eu lliwio gan boen a siom wrth iddo frwydro i osgoi bod yn debyg i’w dad. Yna hanes John, ei dad, sydd yn gwneud ei orau glas i ddianc rhag confensiynau bywyd dosbarth canol parchus trwy yfed. Ac yn olaf Lara, merch drefnus a di-lol, sydd am anghofio’r gorffennol ac sydd wedi ei chreithio'n emosiynol ac yn gorfforol. Mae’r tri am fyw eu bywydau yn ôl eu rheolau eu hunain. Ond ydi hi’n bosib gwneud hynny? Mae angen darllen y tair stori i gael darlun cyflawn. Oherwydd y strwythur teimlais fod gormod yn cael ei wasgu i stori Mathew, gyda bylchau amlwg yn y naratif. Ond gyda straeon John a Lara mae mwy yn cael ei ddatgelu a chymhlethdod y nofel yn dod i’r amlwg. Mae yna lawer mwy dan yr wyneb – pethau cudd sy’n effeithio ar benderfyniadau’r tri. Er iddynt ganolbwyntio ar yr un digwyddiadau mae’r datgelu graddol yn y straeon yn osgoi undonedd ac yn rhoi ambell ysgytwad. Mae yna hefyd un elfen drawiadol arall sy’n llywio’r stori. Pwy yw’r fenyw mewn dillad du, y seicig mae Mathew’n cwdd â hi ar noson gynta’r ffair? Mae hi’n llinyn cyswllt drwy’r nofel, a’i dylanwad yn cael cryn effaith ar y tri phrif gymeriad. Stori John wnaeth fy nghyffwrdd i fwyaf. Mae’n ffotograffydd talentog sy’n methu setlo. Ceir rhywbeth hudolus yn y disgrifiad ohono'n cwrdd â’i wraig am y tro cyntaf, ac mae ei chariad hi tuag ato yn amlwg drwy’r nofel. Ond mae ’na rwystredigaeth ac anobaith mawr wrth i John dreulio'i blentyndod yng nghysgod ei efaill. Mae’n haeru ei fod yn hapus bellach, gan mai fe sy’n dewis llwybrau ei fywyd. Ymfalchïa mewn torri rheolau ond y gwir yw ei fod yr un mor gaeth ag erioed. Nid yw'r Alarch Du yn ddarllen cyfforddus. Mi wnaeth y sôn am ffawd beri i mi holi amryw o gwestiynau, a bydd darllenwyr yn sicr yn gweld elfennau o’u hunain yn y cymeriadau cymhleth a’u brwydrau personol. Ond mae mwy nag anobaith yn y nofel. Ceir hiwmor a chariad yma hefyd, yn arbennig ym mherthynas Mathew a’i chwaer, ac ym mherthynas Lara a’i brawd a’i chwaer hithau. Ac mae'r awgrym hefyd fod modd newid tynged rhai o’r cymeriadau yn llygedyn o oleuni drwy’r llyfr, gan annog y darllenydd i'w ddarllen hyd at y diwedd.

View full details