Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd

Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Tu fewn i furiau'r Ddinas mae milwyr creulon, dynion busnes llwgr, Ceidwad hollbresennol, merch â marc dirgel ar ei hysgwydd a chyfrinachau'r awdurdodau. Mae'r Argyfwng a'r Haint wedi gadael eu hôl ac wedi troi natur ben i waered. Nofel ddychmygus i bobl ifainc ac oedolion yng Nghyfres y Dderwen gan awdur Dial yr Hanner Brawd a Talu'r Pris .

Disgrifiad Saesneg / English Description

Within the City walls there are cruel soldiers, corrupt businessmen, an ever-present Keeper, a girl with a secret mark on her shoulder and the secrets of the authorities. The Crisis and the Disease have left their mark and turned nature up-side-down. An imaginative novel for teenagers and adults in the Cyfres y Dderwen series by the author of Dial yr Hanner Brawd .

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847712127
Gwales Code
gwales.com.9781847712127
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd
Awdur / Author
Vittle, Arwel
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-04-29
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
176 pages
Size
130 × 194 mm; depth 13 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Arwel Vittle sy’n byw yn Llanwnda ger Caernarfon yn gweithio fel cyfieithydd i gwmni a-pedwar. Hon yw ei bedwaredd nofel, a chyrhaeddodd ei gofiant i Lewis Valentine restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Mae Y Ddinas ar Ymyl y Byd yn un nofelau Cyfres y Dderwen.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Hanner canrif ers yr Argyfwng, deuddeg mlynedd ers yr Haint, mae natur wedi troi ben i waered a'r byd wedi troi'n anialwch uffernol. Mae'r bobl sydd ar ol wedi eu corlannu fel defaid yn y Ddinas ar Ymyl y Byd. Tu mewn i Wal y Ddinas mae pawb o dan ofal y Ceidwad ac yn byw mewn ofn rhag y Rhwydwyr. Ond beth sydd y tu hwnt i'r Wal a beth yw cyfrinach dywyll yr awdurdodau? Lawr ar y strydoedd mae rhai yn barod i sefyll yn erbyn y llanw, ond pwy yw'r ferch a marc y cylch ar ei hysgwydd? Dyma nofel weledol ei naws, sy'n llawn tensiynau, cyffro ac uchafbwyntiau. Mae'n stori sy'n symud yn gyflym ac ynddi ceir elfennau arallfydol, cymeriadau cryf, plot byrlymus a throadau annisgwyl sy'n taro deuddeg. ************************************** Chwedl Dywyll o'r Dyfodol Nofel wedi’i lleoli yn y dyfodol yw Y Ddinas ar Ymyl y Byd gan Arwel Vittle a gyhoeddir yr wythnos hon. Mae’n cyfleu darlun tywyll o fywyd ar ddiwedd y byd yr ydyn ni’n gyfarwydd ag e. O fewn y byd arallfydol hwn mae'r amgylchedd wedi ei wenwyno a phawb yn byw mewn ofn rhag dal haint marwol; lle mae bwyd yn brin; byd heb geir a threnau a lle nad yw awyrennau'n cael hedfan. Ar ôl digwyddiadau diweddar, fel ffrwydriadau llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ, y gwaharddiad ar hedfan, a haint y ffliw moch, efallai nad yw hunllef o fyd fel hyn mor anghredadwy â hynny. Mae’r dinasyddion, sydd wedi goroesi sawl cyflafan erchyll, wedi’u corlannu fel defaid y tu mewn i Wal y Ddinas, dan ofal y Ceidwad sinistr ac yn byw mewn ofn rhag y Rhwydwyr, sef milisia’r Ceidwad. Mae’r awdurdodau’n celu cyfrinachau, ac un gyfrinach yn fwy erchyll na dim. Nofel yw hon sy’n adrodd hen stori mewn lleoliad newydd am ymdrech merch, Lluan, i ddarganfod pwy yw hi a rheoli ei thynged ei hun. I wneud hynny mae'n rhaid iddi gael cymorth y bobl sy’n herio’r swyddogion a reolai’r Ddinas ar Ymyl y Byd. Ond nid yw Lluan yn barod i gymryd gan neb, ac un rheol sy ganddi – peidiwch byth â chredu’r bobl sy’n arwain. Yn ôl Meinir Wyn Edwards o wasg y Lolfa: “Dyma nofel fyrlymus a chyffrous, llawn dirgelwch a throadau annisgwyl, a fydd yn apelio at ystod eang o ddarllenwyr. Ceir ynddi gyfeiriadau at bethau mor amrywiol â ffilmiau fel y Matrix a Blade Runner, nofelau Phillip Pullman a Tolkein, hen chwedlau Groeg a barddoniaeth Gymraeg.”

View full details