Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Dderwen: Pentre Saith

Cyfres y Dderwen: Pentre Saith

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cain yw'r prif gymeriad ac mae'r 'saith' yn y teitl yn cyfeirio at Saith Rhyfeddod Naturiol y Byd a Saith Oes Galar. Arddull ffres, newydd gan awdur ifanc.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Cain is the main character in this novel, and the 'saith' (seven) in the title refers to the Seven Wonders of the Natural World and the Seven Ages of Grief.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847713476
Gwales Code
gwales.com.9781847713476
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Dderwen: Pentre Saith
Awdur / Author
Morris, Ceri Elen
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-06-25
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
130 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae Pentre Saith yn lle swreal, a dweud y lleiaf. Rydyn ni’n dilyn taith Cain ac yn rhyfeddu gydag ef at yr hyn sy’n digwydd i’r bobl y daw ar eu traws. O’r blodau melyn sy’n troi’n bryfed ac yn gwneud i bobl chwerthin i’r swigod sy’n caniatáu i Cain anadlu dan ddŵr, mae’n amlwg nad ydyn ni yn y byd go iawn. Ac mae’n hawdd i’r darllenydd ymgolli yn y byd rhyfedd, hudolus hwn. Mae Ceri Elen yn creu darluniau byw iawn o gymeriadau a digwyddiadau, ac mae ei disgrifiadau o fyd natur yn arbennig yn rhai swynol. Mae gan daid Cain ‘goflaid fel cadair freichiau’, ac mae’r awel yng nghanghennau’r coed yn gwneud iddyn nhw ‘hymian yn ddwfn ... fel lleisiau meddal hen ddynion ... a’r jazz yn llifo trwyddyn nhw’. Ac mae ei dawn fel dramodydd yn amlwg yn y golygfeydd rhwng Cain ac Eric. Mae'r rhain wedi’u hysgrifennu mewn deialog, ac mewn ychydig eiriau yn cyfleu’r ansicrwydd a’r tensiwn sydd yn dod i’r wyneb rhwng y cymeriadau. Ond er gwaethaf perffeithrwydd arwynebol Pentre Saith, mae rhywbeth o’i le. Mae ’na boen ac anhapusrwydd yn gymysg â’r rhyfeddod. Down i ddeall bod Cain yn y pentref am reswm penodol, er nad yw’r rheswm hwnnw'n gwbl glir iddo fe nac i’r darllenydd am amser hir. Mae’n wir ei fod yn cael tasg i’w chyflawni, sef cael hyd i saith allwedd, ond dyw canlyniadau’r dasg ddim yn cael eu hesbonio’n llwyr. Mae trigolion Pentre Saith yn gwrthod ateb ei gwestiynau, gan fynnu bod rhaid iddo fod yn amyneddgar er mwyn canfod ei atebion ei hun. Yn y diwedd daw Cain i dderbyn hyn, ond dim ond wedi cyfnod o golli amynedd a gwylltio. Ac mae’n rhaid cyfaddef i mi rannu ei rwystredigaeth. Er mor gryf yw'r ysgrifennu ac er mor ddifyr yw'r digwyddiadau, mi ddechreuais ddyheu am ychydig llai o ddirgelwch, ac awgrym mwy pendant o ble yn union mae siwrnai Cain yn ei arwain. Alegori o alar yw’r nofel, ac yn hynny o beth dyw’r darllen ddim wastad yn gysurus. Mae’n amlwg o’r dechrau bod rhywbeth yn poeni Cain yn fawr ac mae ei ymddygiad yn ei dro yn brifo’i deulu. Rydyn ni’n ei ddilyn wrth iddo ddod i gydnabod ei deimladau, ac wrth iddo ymdrechu i wneud yn iawn am ei ymddygiad yn y gorffennol. Mae’r portread o Cain yn un teimladwy iawn a’i ymateb yn wirioneddol realistig. Oherwydd y diffyg atebion cyflym mae rhaid bod yn amyneddgar wrth ddarllen y nofel hon, ond mae ’na neges ac ysgrifennu pwerus yma, ac fel yn achos Cain, mae’n werth dyfalbarhau.

View full details