Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Dderwen: Dim

Cyfres y Dderwen: Dim

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel yng nghyfres y Dderwen. Stori am ymdrech dyn i oroesi mewn byd o rymoedd sy'n llawer fwy pwerus nag ef ei hun, yn benodol felly rymoedd Dyn a Natur. Sut mae dyn i ddelio â'r grymoedd hyn? Drwy wrthryfela neu drwy gydymffurfio? Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2012.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A novel for young adults in the Cyfres y Dderwen series. The book tells the story of one person's efforts to overcome the forces of Man and Nature. How does a man overcome these forces? Does he submit or resist? Reprint. First Published in 2012.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847714381
Gwales Code
gwales.com.9781847714381
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Dderwen: Dim
Awdur / Author
Chilton, Dafydd
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-12-21
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Size
130 × 195 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae Gwyn ac Owain yn dilyn llwybrau gwahanol yn hynny o beth: Owain yn cydymffurfio â threfn Dyn a thrwy hynny’n dod i fyny yn erbyn grym Natur: Gwyn yn gwrthryfela yn erbyn trefn Dyn ac yn dysgu cydymffurfio â threfn Natur. Mae Owain yn cael ei ddinistrio am gydymffurfio â threfn sydd yn ei hanfod yn ddinistriol. Mae Gwyn yn dysgu ei le. Rydym ni i gyd yn Ddim sut bynnag y byddwn ni’n byw, ond mae mwy nac un math o Ddim. Mae’r stori’n seiliedig ar ddigwyddiadau gwir y cyfnod rhwng yr 1960au a’r 1990au, gan gynnwys sefyllfa Gogledd Iwerddon a gwasanaethau cudd Prydain y cyfnod hwnnw. Gobeithiai’r nofel godi cwestiynau ym meddyliau pobl ifanc am yr adeg hanesyddol yna, a sut beth oedd hi i fod yn Gymro’r adeg hynny. ************************************* Datgan y Gwir Mewn Nofel Newydd Datgan y gwir: dyna brif bwrpas nofel newydd Dafydd Chilton, Dim , sy’n dilyn hanes bywyd dau frawd o Gymru rhwng yr 1960au a’r 1990au. A chydag holl brif ddigwyddiadau’r stori yn rhai go iawn, mae’r awdur yn datgan y bydd cynnwys ei nofel yn ddigon i “godi gwrychyn ambell un”. Dyma’r drydedd nofel i’w chyhoeddi'r haf hwn yng Nghyfres y Dderwen – cyfres o lyfrau i’r arddegau sydd hefyd yn addas i oedolion – gan wasg y Lolfa. Bydd cynnwys y gyfrol yn apelio at ddarllenwyr ifanc a hŷn, yn ôl yr awdur, gan fod y gyfrol yn sefyll yn driw i hanes, ac yn datgan digwyddiadau fel ag yr oeddent ar y pryd. “Mae cyfnod y nofel yn un bwysig,” meddai Dafydd Chilton sy’n byw yn Llangernyw, “ond i bob pwrpas ymarferol, mae’n cael ei anwybyddu yn ein hysgolion. Mae nifer o faterion a phethau sy'n cael eu dweud a'u gwneud yn y stori'n debyg o godi gwrychyn ambell un, ond mae pob un o'r materion rheiny naill ai’n ddigwyddiadau gwir neu'n ddyfyniadau go iawn. Mae byd dyn yn un didrugaredd, ac mae angen amlygu hynny o bryd i'w gilydd.” Hanes bywyd dau frawd a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu fel Cymry a cheir yn Dim. Tra bod y naill frawd yn gadael cartref i ymaelodi â’r fyddin, mae’r llall yn aros i helpu’i ewythr ar y fferm lle magwyd y ddau, yng Nghwm Llawenog. “Mae cymeriadau’r Cwm sydd yn y stori, a’u hymddygiad, hefyd yn seiliedig ar bobl frodorol yr ardal, eu hiaith a’u ffordd o weld y byd,” eglura’r awdur. “Yn ddigon rhyfedd, mae nifer o'r materion a drafodir yn y nofel wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar,” ychwanega’r awdur. “Materion llosg fel y fyddin yn recriwtio Cymry, trais a bwlio mewn ysgolion bonedd, helyntion gogledd Iwerddon a'r SAS, Rhyfel y Falklands, damwain hofrennydd Kintyre, twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru a llosgi tai haf.” Meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd Cyfres y Dderwen, “Dyma nofel gyffrous a fydd yn apelio at fechgyn a merched. Mae’n dangos gwrthdaro ar sawl lefel, ac mae digwyddiadau hanesyddol yng Nghymru a’r byd yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif yn ei gwneud hi’n nofel bwerus y bydd llawer o drafod arni.”

View full details