Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres y Dderwen: Bore Da
Cyfres y Dderwen: Bore Da
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel lawn hiwmor gan nofelydd newydd sydd hefyd yn llais adnabyddus ar Radio Cymru - Gwennan Evans. Mae Bore Da yn dilyn hanes Alaw Mai sydd wedi gweithio'n ddiflino ar raglen radio foreol Richie ar PAWB FM. Ond, un bore, daw ei chyfle mawr. Nofel addas i'r arddegau hwyr (14+) ac i oedolion. Nofel yng nghyfres y Dderwen. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2012.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A humorous novel by a new author, and a familiar voice on Radio Cymru, Gwennan Evans. Bore Da follows the story of Alaw Mai, a tireless worker on the Richie morning show on PAWB FM. One morning, she gets her big break. Suitable for readers aged 14 years and above, and for adults. Reprint; first published in 2012.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847714664
- Gwales Code
- gwales.com.9781847714664
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres y Dderwen: Bore Da
- Awdur / Author
- Evans, Gwennan
- Current Price ex VAT
- £5.95
- Current Price inc VAT
- £5.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-09-24
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 208 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Os ydych chi'n gyfarwydd ag unrhyw waith yn y cyfryngau, yna byddwch yn gwybod bod y meicroffon yn arf hanfodol, ond hefyd yn arf gwbl beryglus. Un o’r camau pwysicaf ar ddiwrnod cyntaf darpar ddarlledwr yw ei rybuddio i beidio â rhegi na dweud dim nad ydyw am i rywun arall mewn stiwdio ei glywed! Mae hi’n ddigon hawdd gadael yr hen feic ’na ar agor! Wel, mae’n amlwg nad yw’r staff sy’n gweithio i raglen radio Bore Da yn ymwybodol o hynny nac yn ymwybodol chwaith o unrhyw god ymddygiad, yn y gwaith, na thu allan i ddrysau’r swyddfa! Ie, stori ysgafn yw hon am gyflwynwyr rhaglen radio, ei chynhyrchydd, ei hymchwilydd, a phennaeth yr orsaf. Ac mae’r themâu i gyd wedi’u cynnwys yma – merch yn ei thridegau yn chwilio am ddyn, dynes hŷn yn ceisio adfer perthynas ac yn arbrofi gyda thriciau rhywiol, bod yn hoyw, meddwi, gwneud ffŵl ohonoch eich hun, methu delio â bywyd bob dydd, anffyddlondeb ayb. Go brin, felly, y bydd hi’n gyfrol a fydd yn aros yn y cof, ond mae’n gyfrol ddigon ysgafn i'w mwynhau ar lan y pwll nofio yn ystod eich gwyliau haf, neu i godi'ch calon wrth ei darllen yng nghlydwch y tŷ ar noson aeafol. Mae Gwennan Evans yn gweithio i Radio Cymru, felly mae’r ochr dechnolegol yn gredadwy ac mae'n amlwg fod gan yr awdur ddawn ysgrifennu. Mae’r gyfrol yn llifo’n rhwydd gyda thestunau bachog i nifer o’r penodau. Nid wyf yn siŵr, gyda llaw, am leoli'r darllediad allanol mewn lle penodol. Rwy’n dod o Langeitho ac mae yna ffermdy o’r enw Pencnwc ar y cyrion; ond does ’na ddim Ivoreen ond mae yno gwpwl o’r enw Ivor a Doreen! Un peth arall – mae'r gyfrol hon yn un o lyfrau Cyfres y Dderwen, cyfres sy’n cynnwys nofelau heriol ar gyfer yr arddegau, ond nid wyf i'n credu y dylai fod yn perthyn i'r gyfres honno. Nofel ar gyfer oedolion yw hon, heb os, ac un ddigon difyr hefyd!
Share
