Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres y Cewri: 35. Tannau Tynion
Cyfres y Cewri: 35. Tannau Tynion
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cawn ein tywys gan yr awdur - y delynores enwog a gwraig cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley - o Faldwyn i Lanuwchllyn, Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i'r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau'r byd, a hynny yn ei harddull fyrlymus ei hun. Mae ganddi stori werth ei hadrodd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
In Tannau Tynion , the latest in Gwasg Gwynedd's popular Cyfres y Cewri series, the author, renowned harpist and wife of former Plaid Cymru President Dafydd Wigley, takes the reader on a journey in her unique writing style from Montgomeryshire to Llanuwchllyn, Aberystwyth to London, Merthyr to Bontnewydd in Arfon, and to the international stage.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780860742777
- Gwales Code
- gwales.com.9780860742777
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres y Cewri: 35. Tannau Tynion
- Awdur / Author
- Wigley, Elinor Bennett
- Current Price ex VAT
- £9.95
- Current Price inc VAT
- £9.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-11-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gwynedd
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 276 pages
- Size
- 123 × 182 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Atgofion a Hunangofiannau - Benyw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Female (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Tannau Tynion Mae hunangofiant a gyhoeddwyd ar gyfer y Nadolig hwn yn un y bydd ei gynnwys yn aros efo chi am amser hir wedi ichi gau ei glawr. Fel telynores adnabyddus ac fel gwraig i wleidydd, yn ogystal ag fel mam a nain, profodd Elinor Bennett Wigley hapusrwydd a llwyddiant eithriadol yn ei bywyd personol a phroffesiynol. Ond gwelwn yn y llyfr hefyd fod profiadau gwirioneddol ddirdynnol wedi dod i’w rhan hi a’i theulu a fyddai’n ddigon i lorio’r mwyafrif ohonom. Yn ei hunangofiant Tannau Tynion – cyfrol ddiweddaraf Gwasg Gwynedd yng Nghyfres y Cewri – cawn ein tywys ganddi yn ei harddull fyrlymus ei hun o Faldwyn i Lanuwchllyn, o Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i’r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau’r byd. Mae edrych yn ôl dros fywyd Elinor yn tanio atgofion am ddigwyddiadau allweddol yn hanes Cymru, yn gyhoeddus ac yn breifat – o eira mawr 1947 a achosodd i’w thad adael y fferm ger Llanidloes, i’r frwydr ofer i geisio arbed Cwm Tryweryn pan oedd y teulu’n byw yn y tŷ a adeiladwyd gan O. M. Edwards yn Llanuwchllyn, ac Elinor yn un o’r rhai oedd yn darlledu’n anghyfreithlon dros Blaid Cymru a hithau yn ei harddegau. Roedd bywyd diwylliannol Llanuwchllyn yn cynnig pob math o gyfleon ond yna, gyda dyfodiad teledu yn y pumdegau, dylanwadwyd yn fawr arni gan raglenni cerddorol a gyflwynid gan y telynor Osian Ellis. Roedd o’n arwr mawr iddi yn ei harddegau ac roedd hithau’n ceisio gwneud popeth o fewn ei gallu i fod cystal â fo. Bu Osian Ellis yn ei beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl tro, ac yna daeth yn athro arni gan ei helpu gyda’i gyrfa yn ddiweddarach. Efallai y bydd yn syndod deall cymaint o ddylanwad a gafodd byw yn Llundain ar fywyd merch o gefn gwlad Cymru. Yno yn 1949 y prynodd ei thad ei thelyn gyntaf iddi, a’i chludo yn ôl i Lanuwchllyn ar y trên. Yno hefyd y bu’n astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol – a chyfarfod Dafydd Wigley am y tro cyntaf! Yn Llundain y prynon nhw eu cartref cyntaf, lle bu Elinor yn chwarae gyda rhai o gerddorfeydd mwya’r byd, a hithau’n cynnal ei chyngerdd ‘debut’ yn Neuadd Wigmore yn 1970. Bu raid gadael Llundain a symud yn ôl i Gymru ar ddechrau’r saithdegau pan benodwyd Dafydd yn un o reolwyr cwmni Hoover ym Merthyr. Tyfodd cariad Elinor tuag at yr ardal a’i phobl, a bu’n hapus iawn yno. Ond ar ddiwedd eu cyfnod ym Merthyr, cafodd y teulu wybod am afiechyd etifeddol eu dau fab, Alun a Geraint, a gymrodd fywydau’r ddau yn ifanc iawn. Trasiedi oedd hon a drodd fywyd y teulu â’i ben i waered. Erbyn heddiw caiff ei hadnabod fel Elinor Bennett, ond nid felly y bu erioed! Yn dilyn ei phriodas â Dafydd Wigley, awgrymodd ei hasiant yn Llundain fod ei henw teuluol, Bennett Owen, yn rhy hir i’r byd proffesiynol – ond na ddylai chwaith gymryd enw teuluol ei gŵr! O’r dydd hwnnw ymlaen, mabwysiadodd hithau ddau bersona – Elinor Bennett y cerddor a Mrs Wigley'r wraig. Mae’r yrfa gerddorol eithriadol o lwyddiannus, a’r bywyd priodasol a theuluol, wedi cyd-fyw’n hapus am dros ddeugain mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw dysgodd Elinor lawer iawn o delynorion ifanc – gan gynnwys Catrin Finch, ei merch-yng-nghyfraith. Yn y llyfr hefyd cawn ei barn bendant am sawl peth yn y Gymru gyfoes – o fyd y cyfryngau i wleidyddion a gwleidyddiaeth! Dywedodd Elinor, un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon: ‘Mae ysgrifennu’r llyfr wedi bod yn broses gathartig iawn sydd wedi gwneud i mi edrych ar fywyd mewn ffordd gadarnhaol. Mae wedi f’atgoffa fod bywyd yn fraint, ar waetha’r cyfnodau anodd. Roedd mynd yn ôl yn fy nychymyg i fywydau aelodau o’m teulu yn y gorffennol yn ddifyr iawn, a daeth ton ar ôl ton o atgofion yn ôl i mi. Ar ôl misoedd o ysgrifennu ac o hel atgofion, mae hi’n amser rŵan i edrych ymlaen i’r dyfodol unwaith eto a wynebu’r her nesaf – a chael hwyl efo’r plant a’r wyrion!’
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Taut Strings The contents of a new autobiography published this Christmas will stay in the memory long after the book covers are closed. As a renowned harpist and wife to a prominent politician, busy mother and grandmother, Elinor Bennett Wigley has enjoyed incredible success in her personal and professional life. However the book also recounts some traumatic experiences in her life which many would have found almost impossible to deal with. In Tannau Tynion , the latest in Gwasg Gwynedd’s popular Cyfres y Cewri series, the author takes the reader on a journey in her unique writing style from Montgomeryshire to Llanuwchllyn, from Aberystwyth to London, from Merthyr to Bontnewydd in Arfon, and to the international stage. Looking back at Elinor’s life evokes memories of key events in Welsh life, both public and private – from the harsh winter of 1947 which saw her father leave the farm near Llanidloes, to the fight in vain to save the Tryweryn Valley when the family were living in the house built by O.M. Edwards in Llanuwchllyn, to Elinor’s illegal broadcasting exploits in her teenage years on behalf of Plaid Cymru. Cultural life in Llanuwchllyn offered many opportunities but it was the advent of television in the 1950s and a programme presented by harpist Osian Ellis, which proved to be her most significant musical inspiration. As a teenager he was her idol and Elinor wanted to be just like him. Osian Ellis would go on to judge her many times in competitions at the National Eisteddfod before becoming her teacher and helping develop Elinor’s blossoming career. For a girl from rural Wales it may come as a surprise to learn how much London has helped shaped her destiny. It was where her father, in 1949, bought her very first harp, and personally transported it back by train to Llanuwchllyn. It was also where she studied at the Royal Academy of Music – and met Dafydd for the first time! It was in London that the couple bought their first home and where Elinor played with some of the world’s foremost orchestras. She also made her solo debut there at the Wigmore Hall in 1970. The family had to relocate from London to Wales in the early 1970s, when Dafydd was appointed as a manager with Hoover in Merthyr. This was a town which Elinor came to love along with its people. Tragically, it was also where her two young sons, Alun and Geraint, were diagnosed with the fatal disease which claimed both their lives at a very young age – a tragedy which turned the family’s lives upside down. Many may know her today as Elinor Bennett but it wasn’t always so! Following her marriage to Dafydd Wigley her agents Ibbs & Tillett suggested her family name, Bennett Owen, was too long for professional purposes – but also advised against changing it to her husband’s surname! From that day onwards she adopted two personas, Elinor Bennett the freelance musician and Mrs Wigley the wife. Her brilliant musical career, married and family life, has continued successfully side by side for the last 40 years. During this time Elinor has taught a great number of young harpists – including Catrin Finch, now her daughter-in-law. In the book we also hear her forthright views on a number of matters relating to contemporary Wales – from the media to politicians and politics! Elinor, one of the founders of the William Mathias Music Centre in Caernarfon, said, “Writing the book has been cathartic and life affirming. It has reminded me that life is good, despite the setbacks. Memories came flooding back as I revisited in my imagination members of my family, which was fascinating. After months of reminiscing and putting pen to paper it’s high time to look forward to the future once again and face the next challenge – and to have fun with the children and grandchildren!”
Share
