Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Trio: Antur y Mileniwm
Cyfres Trio: Antur y Mileniwm
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori am TRIO, grwp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'! Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron! Adargraffiad. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2018.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The first novel in a trilogy by Manon Steffan Ros for teenagers with three lively characters at the centre of the story. Reprint. First Published in 2018.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781912261413
- Gwales Code
- gwales.com.9781912261413
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Trio: Antur y Mileniwm
- Awdur / Author
- Ros, Manon Steffan
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2024-01-09
- Cyhoeddwr / Publisher
- Atebol
- Darlunydd / Illustrator
- Aaron, Huw
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 88 pages
- Size
- 148 × 210 mm; depth 7 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
- FSC Status
- FSC certified (mixed sources) — C102875
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Antur y Mileniwm yw’r stori gyntaf mewn cyfres o lyfrau ar gyfer darllenwyr ifanc oddeutu 8 i 12 oed. Mae’n chwip o stori gan Manon Steffan Ros sy’n llawn hwyl am y cymeriadau hoffus Clem Clyfar, Dilys Dyfeisgar a Derec Dynamo. Arwyr oedd y plant hyn, rhai a oedd yn hoffi antur ac yn galw eu hunain yn ‘TRIO’! Yn anffodus roeddent yn anhygoel, yn ANHYGOEL O WAEL, ac yn methu’n aml ac yn mynd i helynt, sy’n gwneud y llyfr yn wahanol ac yn unigryw. Un diwrnod, aeth y triawd i Gaerdydd i wylio sioe am anifeiliaid y jyngl gyda mam Derec. Er mawr syndod i bawb roedd rhywun wedi newid y geiriau econig ac enwog sydd i'w gweld ar Ganolfan y Mileniwm! Cawn ymuno gyda’r Trio wrth iddynt geisio datrys y dirgelwch yn eu ffordd ddoniol eu hunain. Yn nodweddiadol o Manon Steffan Ros mae’r eirfa’n goeth a’r ysgrifennu yn glyfar, megis yr enw ‘Trio’: am fod tri ohonyn nhw ... a’u bod yn trio bob tro. Mae’r lluniau yn ategu’r stori i ddarllenwyr ifanc a’u gwisgoedd gwych yn dangos dychymyg byw yr awdures. Gwelwn Dilys Ddyfeisgar yn gwisgo sbectol moron trwy’r sioe oherwydd bod moron yn dda i’n llygaid! Dim rhyfedd ei bod yn gweld pob dim yn oren! Ewch allan i’ch siop lyfrau leol i brynu’r llyfr yma – mae’n werth pob ceiniog, a chofiwch roi cynnig ar y llyfr arall yn yr un gyfres, Antur y Castell !
Share
